Mae newyddion da wedi dod yr wythnos hon i hosbisau plant gan gynnwys Tŷ Hafan a theuluoedd sy’n gofalu am blentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd gyda chyhoeddiad gan Morrisons teu bod wedi cyrraedd £5 miliwn o bunnoedd yn eu hymdrechion codi arian ar gyfer partner elusennol Together for Short Lives

Together for Short Lives yw’r brif elusen ledled y DU ar gyfer gofal lliniarol i blant, gan gefnogi hosbisau plant gan gynnwys Tŷ Hafan a theuluoedd sy’n gofalu am blentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau neu’n bygwth bywyd.

Mae Rachel Ritter, Pennaeth Codi Arian (Corfforaethol, Cymunedol a Rhoddion mawr) yn dweud: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’r tîm anhygoel yn Morrisons ac i’w holl gwsmeriaid am bopeth y maen nhw’n ei wneud i Tŷ Hafan a’r holl hosbisau plant eraill ledled y DU drwy eu partneriaeth â Together for Short Lives.

“Mae £5 miliwn yn swm enfawr i’w godi, ac ar ran pawb yn Tŷ Hafan hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch codi arian hon ym mhob ffordd. Ni fyddai modd i ni wneud yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud heb bobl fel chi.”

Mae’r bartneriaeth â Morrisons yn codi arian hanfodol ar gyfer hosbisau plant ledled y wlad ac mae’n helpu teuluoedd i greu atgofion gwerthfawr gyda’i gilydd. Gyda’i gilydd, maen nhw hefyd yn estyn at y teuluoedd hynny ledled y DU nad ydyn nhw’n ymwybodol o’r cymorth y gallan nhw ei gael yn eu cymuned leol, ac o Together for Short Lives.

Mae Morrisons yn gobeithio codi £10 miliwn erbyn mis Hydref 2024 i’n helpu ni i fod ar gael ar gyfer pob teulu sy’n gofalu am blentyn difrifol wael.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Together for Short Life, Andy Fletcher: “Rydyn ni wrth ein bodd bod cydweithwyr Morrisons wedi cyrraedd y garreg filltir £5 miliwn anhygoel hon. Bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud gyda theuluoedd ac yn rhoi arian mawr ei angen ar gyfer hosbisau plant lleol. Diolch yn fawr iawn i gydweithwyr Morrisons, cwsmeriaid a chyflenwyr Together for Short Lives a’r 99,000 o blant sy’n byw gyda chyflwr sy’n byrhau bywyd yn y DU.”

Dywedodd Prif Weithredwr Morrisons, David Potts: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi codi £5m ar gyfer Together for Short Lives. Mae ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid wedi ymrwymo i godi arian hanfodol ar gyfer hosbisau plant lleol fel y gallan nhw ddarparu gofal i blant sy’n ddifrifol wael a helpu teuluoedd i dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd.”