Mae Tŷ Hafan yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Irfon Rees, fel ei Brif Weithredwr newydd. Bydd yn ymgymryd â’r rôl ym mis Mehefin. Mae gan Irfon brofiad helaeth o arwain timau aml-broffesiwn o fewn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac yn GIG Cymru. Mae’n ymuno â’r elusen o’i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Iechyd a Lles yn Llywodraeth Cymru, lle mae’n aelod allweddol o’r Tîm Gweithredol sy’n arwain y GIG yng Nghymru.

Dywedodd Cadeirydd Tŷ Hafan, Martin Davies: “Rydym wrth ein bodd bod Irfon yn ymuno â ni. Bydd ei brofiad helaeth yn y sector iechyd, darparu cyfeiriad strategol a chyflawni effeithlonrwydd gweithredol o fudd enfawr i’r Elusen wrth i ni barhau i ddarparu gofal a chymorth y mae mawr eu hangen i blant a theuluoedd mewn cyfnod heriol.”

Ychwanegodd Irfon Rees, Prif Weithredwr newydd: “Rwyf wrth fy modd i fod yn ymgymryd â’r rôl hon ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm gwych yn Nhŷ Hafan.

Mae’n elusen mor arbennig ac mae llawer i’w wneud i sicrhau y gall barhau i fynd o nerth i nerth wrth gefnogi’r plant a’r teuluoedd sydd angen y gofal y mae’n ei ddarparu.”