Mae’r bobl ifanc sy’n dod i Tŷ Hafan yn byrlymu â syniadau gwych ac angerdd dros wneud gwahaniaeth. Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn rhoi cyfle iddyn nhw siarad yn agored am y materion sy’n bwysig iddyn nhw ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau.
Dysgwch fwy isod am y bobl ifanc wych ar y Bwrdd Ieuenctid!
Seth
Fy enw i yw Seth. Rwy’n 14 mlwydd oed. Rydw i mewn cadair olwyn, ond dydy hynny ddim yn fy rhwystro i! Rwy’n hoffi chwarae gemau fideo a chwarae Lego. Rydw i wedi bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gen i ddau frawd ac rydw i’n byw yn Ninas Powys. Rwy’n chwarae boccia yn Chwaraeon Anabledd Cymru ac yn dwlu arno. Rwy’n angerddol iawn am newid pethau a helpu eraill.
Pavil
Fy enw i yw Pavil, ac rwy’n 12 oed. Fy hoff liw yw coch. Mae gennyf i aren wedi’i thrawsblannu. Rwy’n artist da ac rwy’n mwynhau chwarae gemau fideo yn fy amser hamdden. Rydw i hefyd yn mwynhau chwarae pêl-fasged yn fy nghadair olwyn. Ac yn olaf, rydw i wrth fy modd yn teithio.
Amanah
Fy enw i yw Amanah ac rwy’n 19 oed. Rwy’n gofalu am fy chwaer hŷn, fy mrawd bach a fy mam. Mae bod yn rhan o’r Bwrdd Ieuenctid wedi fy ngrymuso i gymaint. Mae wedi bod yn brofiad mor hyfryd. Fy hoff fwyd yw cyw iâr gyda llawer o sbeisys poeth. Rwy’n dwlu ar yr holl liwiau a fy hobïau i yw gwnïo, crosio, gwneud gemwaith, fy nheulu, celf a cherdded. Rwy’n angerddol iawn dros fod yn rhan o fy nghymuned a gwneud gwaith gwirfoddol.
Frank
Fy enw i yw Frank, ac rydw i ym Mlwyddyn 7. Rydw i wrth fy modd yn nofio ac rydw i’n aelod o’r academi nofio orau yng Nghymru! Rwy’n chwaraewr tîm da iawn; rydw i’n chwarae pêl-droed, rygbi a chriced. Mae gen i fodryb ac ewythr sy’n byw yn Dubai. Mae fy modryb ac ewythr arall yn byw yn Abertawe. Fy hoff liw yw melyn. Fy hoff fwyd yw bwyd Indiaidd.
Theo
Helo. Fy enw i yw Theo, ac rwy’n 15 oed. Rydw i ym mlwyddyn 11. Fy hobïau yw chwarae tenis, mynd i nofio a mynd i’r gampfa. Fy hoff fwyd yw pasta gyda pesto. Fy hoff liw yw melyn. Mae gen i dri brawd ac rydyn ni’n byw ym Mhenarth gyda mam a dad. Fy mhrif nod yw mynd i astudio meddygaeth yn y brifysgol.
Reggie
Helo. Fy enw i yw Reggie, ac rwy’n 12 oed. Rydw i ym mlwyddyn 8. Fy hobïau i yw celf, chwarae rygbi a dylunio pethau. Fy mhrif hobi yw chwarae gemau fideo gyda fy mrodyr, Seth ac Eli. Fy hoff fwyd yw danteithion chilli o Lidl! Maen nhw’n flasus. Fy hoff dymor yw’r gaeaf oherwydd rydw i wir yn CARU’R Nadolig!
Tal
Helo, fy enw i yw Tal. Rydw i ym mlwyddyn 8. Fy hoff fwyd yw pasta, a fy hoff liw yw glas golau. Rwy’n caru anifeiliaid ond cŵn yw fy hoff anifeiliaid i achos maen nhw bob amser mor ffyddlon. Mae fy hoff dimau yn cynnwys Rygbi Caerdydd a Liverpool F.C. Fy hoff gêm yw rygbi a fy lle hapus i ymweld ag ef yw Pier Penarth. Mae gen i ddau frawd o’r enw Math ac Aneurin. Rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl balch.
Hussain
Helo, fy enw i yw Hussain. Rwy’n 12 oed ac wrth fy modd yn dod i Tŷ Hafan gyda fy nwy chwaer. Fy hoff liw yw glas, rwy’n ei wisgo’n aml iawn! Rydw i wir wrth fy modd â nygets cyw iâr. Maen nhw’n anhygoel! Mae gennyf i hobi anarferol o gasglu pennau ysgrifennu ac allweddi. Mae fy nheulu i’n bwysig iawn i fi. Rwy’n eu caru nhw’n fawr iawn. Rwy’n hoffi dod i Tŷ Hafan i helpu pobl a mwynhau’r bwyd!
George
Fy enw i yw George ac rwy’n 15 mlwydd oed. Mae gennyf i un chwaer ac un brawd. Rwy’n hoffi chwarae gemau fideo, dweud jôcs, cwrdd â phobl newydd a gwylio ffilmiau. Rwy’n dwlu ar Tŷ Hafan oherwydd ei amgylchedd sy’n ysgogi tawelwch, y staff a’r ffordd y mae’n caniatáu i fi fod yn rhydd a bod yn fi fy hun. Fy hoff liw yw porffor, ac rwy’n mwynhau gwylio Gravity Falls ar Disney +. Rwy’n hoff iawn o bob anifail ond fy nhri gorau i yw hebogau, sgwid a chŵn. Rwy’n dysgu tipyn oddi ar YouTube gan fy mod i’n treulio’r rhan fwyaf o fy hamser yn ei wylio. Haf yw fy hoff dymor oherwydd dyna pryd rwy’n cael mynd i’r ysgol i weld fy holl ffrindiau ac athrawon.
Dyluniodd y Bwrdd Ieuenctid eu logo eu hunain!
Aelodau o’r Bwrdd Ieuenctid
Cymryd rhan
Os oes gennych chi unrhyw gyfleoedd i’r Bwrdd Ieuenctid gymryd rhan mewn prosiectau gweithredu cymdeithasol yn y gymuned, cysylltwch â’n Hymarferydd Gweithredu Cymdeithasol a Chymryd Rhan Ieuenctid, Katie Simmons, drwy e-bostio katie.simmons@tyhafan.org.