Pan ddaeth hi’n bryd dewis eu rhoddion priodas, roedd Bailie a Scott eisiau rhywbeth arbennig iawn ar gyfer eu diwrnod mawr.

“Pan oedd Scott a minnau’n cynllunio ein priodas, roedden ni’n ansicr ynglŷn â beth i’w roi fel ffafr briodas”, meddai Bailie. “Doedden ni ddim eisiau rhywbeth a fyddai’n cael ei anghofio, roedden ni eisiau rhywbeth y gallai pobl ei gadw i gofio am ein priodas.”

“Roedd gan frawd annwyl Scott, Thomas, ffurf ddifrifol ar barlys yr ymennydd. Fe ddaeth i Tŷ Hafan pan oedd e’n sâl iawn a chafodd gofal arbennig yno. Felly, oherwydd hyn a’r ffaith nad yw Tŷ Hafan yn cael cymaint o gymorth ag elusennau eraill, mwy poblogaidd, roedd yn gwneud synnwyr i’w cefnogi.”

Ychwanegodd y pâr gyffyrddiad gwledig i’w diwrnod arbennig gyda bathodynnau pin llwy garu Tŷ Hafan, sy’n berffaith ar gyfer priodasau.

“Pan welais i’r dyluniad llwy garu bren, roeddwn i’n gwybod y bydden nhw’n berffaith. Roedd ein gwesteion wrth eu boddau gyda’r rhoddion ac fe wnaethon nhw eu gwisgo drwy gydol y dydd. Mae gan un o’m cydweithwyr ei llwy garu hi o hyd ar ei llinyn gwddf, sef yr hyn roedden ni ei eisiau, doedden ni ddim eisiau eu cael nhw a gweld gwesteion yn eu gadael ar ôl, roedden ni eisiau bod pobl yn eu gwisgo. Roedden ni’n gobeithio y bydden nhw’n helpu ein gwesteion i ddysgu am Tŷ Hafan, yn ogystal â chofio am ein diwrnod arbennig.

“Wrth gwrs, roedd teulu Scott yn gwybod popeth am Tŷ Hafan ac roedden nhw mor ddiolchgar ein bod ni’n ei anrhydeddu yn y ffordd hon. Roedd fy nheulu i’n gwybod ychydig amdanyn nhw, ond doedden nhw ddim yn gwybod yn union beth roedden nhw’n ei wneud, felly roedd cael yr holl wybodaeth am yr elusen wrth ymyl y llun o Thomas a’r ffafrau yn rhoi gwybod beth mae Tŷ Hafan yn ei wneud mor ddefnyddiol. A nawr maen nhw’n gwybod, fe ddywedon nhw y bydden nhw wrth eu boddau yn rhoi i Tŷ Hafan yn y dyfodol.

“I unrhyw un sy’n ystyried gwneud yr un peth, byddwn i wir yn ei annog, roedd yr holl broses o’u harchebu mor gyflym a hawdd, maen nhw’n wych ac yn brydferth iawn. Roedd hi’n hyfryd gallu rhoi rhodd i Tŷ Hafan a rhoi rhywbeth ystyrlon i’n gwesteion gofio am ein diwrnod mawr”.

Diolch yn fawr iawn i Bailie a Scott am eich cefnogaeth wych ac am rannu eich stori hyfryd gyda ni.

I brynu eich bathodynnau pin neu ddysgu am ffyrdd eraill o godi arian yn eich priodas, ar eich pen-blwydd neu ar achlysur arbennig arall, ewch i www.tyhafan.org/donate/give-in-celebration/