“Helo, fy enw i yw Theo, rwy’n 16 oed ac rwy’n byw gyda fy mam, fy nhad a fy nau frawd, Rowan a Frank, ym Mhenarth.”
Rydyn ni’n un o deuluoedd Tŷ Hafan, fe fu farw fy mrawd hŷn Rhys pan oedd yn 7 oed ychydig cyn i mi gael fy ngeni.
Rwyf wedi bod yn mynd i’r grŵp Supersibs drwy gydol fy mywyd fwy neu lai ac mae tîm Supersibs wastad yn gefnogol iawn ac rydyn ni’n cael amser gwych. Nawr rwy’n aelod o Fwrdd Ieuenctid Tŷ Hafan. Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn cynnal archwiliadau hygyrchedd ar leoedd adnabyddus ledled Cymru ac yn gwneud yn siŵr bod llais pobl ifanc yn rhan o benderfyniadau Tŷ Hafan.
Rwy’n mwynhau nofio, tennis a mynd i’r gampfa gan fy mod i’n hoffi cadw’n heini. Rwy’n hoffi teithio a mynd ar anturiaethau; rhai o’m hoff leoedd yw Oman ac Awstria. Rwy’n gwirfoddoli gyda St John’s Ambulance, gan ennill profiad cymorth cyntaf ymarferol a chael gwylio gemau pêl-droed a chyngherddau ar yr un pryd! Rwyf hefyd yn hyfforddi i fod yn achubwr bywyd sy’n meithrin sgiliau ymarferol defnyddiol.
Rwy’n bwriadu astudio meddygaeth a dod yn feddyg. Rwyf am ddod yn feddyg oherwydd mae gen i ddiddordeb yn y ffordd mae’r corff dynol yn gweithio ac rwy’n mwynhau astudio gwyddoniaeth. Rwyf am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a gwneud rhywbeth gwerth chweil ac ystyrlon. Cyn dechrau yn y brifysgol, hoffwn i gymryd blwyddyn allan i deithio. Rwy’n credu y bydd hyn yn ehangu fy mhersbectif ac yn fy helpu i ennill profiad bywyd gwerthfawr wrth archwilio gwahanol ddiwylliannau.
“Ffaith ddiddorol amdanaf fi: fe wnaethon ni ddathlu pen-blwydd fy mrawd Rhys yn 18 oed trwy ddringo 18 o fynyddoedd dros gyfnod o flwyddyn gyda’n teulu a’i hen ffrindiau.”
Llun: Theo gyda’i fam, Helen, a’i frawd iau, Frank