Mae gennym Uchelgais Fawr yn Tŷ Hafan — i gefnogi pob teulu sydd ein hangen ni. O’r teuluoedd yng Nghymru sy’n byw gyda’r realiti annirnadwy y bydd bywyd eu plentyn yn fyr, mae canran syfrdanol o 90% yn gwneud hynny ar hyn o bryd heb gymorth hosbis plant.
Mae bywyd yn aml yn annychmygol o anodd i deuluoedd y mae gan eu plentyn gyflwr sy’n byrhau bywyd. Mae teuluoedd yn dweud wrthym eu bod nhw’n teimlo’n ynysig, yn ofnus ac yn unig. Mae Tŷ Hafan wedi cefnogi teuluoedd yng Ngorllewin Cymru erioed, ond rydym wastad wedi bod yn ymwybodol bod y pellter y mae’r teuluoedd hyn yn byw o’r hosbis wedi cyfyngu ar y cymorth y gallem ei gynnig. Felly, ym mis Ionawr, datblygwyd tîm lleol i’n helpu i gyrraedd mwy o deuluoedd yng Ngorllewin Cymru.
Gwnaethom siarad â thîm newydd Gorllewin Cymru i ddysgu mwy am yr effaith maen nhw’n ei chael.
“Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i fod yn gweithio fel y Gweithiwr Cymorth Plant a Theuluoedd newydd yng Ngorllewin Cymru. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fod wedi cyfarfod â chynifer o blant a theuluoedd gwych Tŷ Hafan a chael fy nghefnogi gan y tîm mwyaf ymroddedig ar yr un pryd.”
“Mae bod yn Weithiwr Cymorth Plant a Theuluoedd yn golygu bod fy rôl yn amrywiol, gan gynnwys gweithio’n uniongyrchol gyda phlant yn hwyluso sesiynau chwarae a chreu atgofion a darparu cefnogaeth emosiynol i rieni a gofalwyr.”
“Rwyf hefyd yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau ledled Gorllewin Cymru fel hybiau cymunedol, boreau coffi a diwrnodau i’r teulu. Gan fod ardal Gorllewin Cymru mor eang, rwy’n awyddus iawn i ymgysylltu â theuluoedd i ddod i wybod beth hoffen nhw ei weld yn eu hardaloedd penodol ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i roi hyn ar waith. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o’r gwasanaeth sy’n tyfu’n barhaus yn yr ardal ac i fod yn cynnig darpariaeth o ansawdd da sy’n cwmpasu gwerthoedd Tŷ Hafan.”
Alison, Gweithiwr Cymorth Plant a Theuluoedd Gorllewin Cymru
“Mae’n fraint cael gweithio fel yr Ymarferydd Cymorth i Deuluoedd newydd yn Hywel Dda. Mae Tŷ Hafan wedi bod yn rhan sylweddol o fy nhaith bersonol ers dros 10 mlynedd. Fel un o rieni balch Tŷ Hafan, mae ymgymryd â’r rôl hon wedi rhoi boddhad mawr.”
“Dros y 3 mis diwethaf, rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â chynifer o deuluoedd anhygoel a gweithio gyda’r tîm mwyaf angerddol i gynnal digwyddiadau cymunedol fel boreau coffi a Hybiau Cymunedol. Gyda chynifer o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y gwasanaeth o fewn Hywel Dda yn ffynnu yn y dyfodol agos.”
Sara, Ymarferydd Cymorth i Deuluoedd Gorllewin Cymru
Mae’r tîm hwn eisoes yn ein helpu ni i gyrraedd mwy o deuluoedd sydd ein hangen ni, yn ogystal â lleihau ein rhestr aros yng Ngorllewin Cymru ac ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith teuluoedd lleol trwy fwyfwy o gyfleoedd cymdeithasol a’r digwyddiadau.