Dywedodd Johnny a Michele wrthym ychydig yn ôl eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad arbennig i gynnwys rhodd i Tŷ Hafan yn eu Hewyllys. Felly, pan wnaethon nhw alw heibio i’r hosbis yn ddiweddar, gwnaethom fanteisio ar y cyfle i sgwrsio â nhw am yr hyn a’u hysbrydolodd i wneud rhywbeth mor ystyrlon.
I Johnny, 64, a Michele, 57, roedd cynnwys rhodd i Tŷ Hafan yn eu Hewyllys yn ddewis syml. Mae’r ddau wedi treulio eu bywydau gwaith yn cefnogi plant a theuluoedd – Johnny mewn gwasanaethau ieuenctid a chymorth addysg, Michele mewn ysgolion fel cynorthwyydd addysgu i blant ag anghenion ychwanegol.
Dywed Johnny wrthym, “Roedd fy mam bob amser yn cefnogi Tŷ Hafan. Roedd hi’n arfer dweud y gallai weld ble roedd yr arian yn mynd a’r gwahaniaeth roedd yn ei wneud – ac mae hynny’n bwysig i ni hefyd.”
Dechreuodd ei daith gyda Tŷ Hafan pan redodd Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer yr hosbis, gan arwain at ymweliad â’r hosbis a wnaeth argraff barhaol. “Roedd gweld y gefnogaeth a oedd yn cael ei rhoi i deuluoedd lleol yn agos yn agoriad llygad. Rwyf wedi bod yn codi arian byth ers hynny – rasys 10k y Barri, ac eleni rwy’n gwneud 10k Porthcawl!” Mae’r cwpl hefyd yn chwarae Loteri Tŷ Hafan, gan barhau â’r traddodiad a ddechreuwyd gan fam Johnny.
Tyfodd cysylltiad Michele â’r hosbis trwy wirfoddoli. “Fe ddechreuais i yn un o siopau Tŷ Hafan, yna fe wnes i helpu gyda gwaith gweinyddol ac fe wnes i hyd yn oed gwneud crefftau i’w gwerthu. Un flwyddyn, fe wnes i ysgrifennu a pherfformio cân diolch Nadoligaidd i’r holl wirfoddolwyr i dôn ‘Jingle Bells’ – roedd yn her ddifyr!”
Roedd Johnny a Michele yn gwybod eu bod nhw eisiau parhau i gefnogi Tŷ Hafan yn y dyfodol. Eglura Johnny, “Pan fuodd mam Michele farw heb Ewyllys, roedd yn anodd iawn. Fe wnaeth hynny ein gwthio ni i ysgrifennu ein Hewyllys ni, a’r peth cyntaf wnaethon ni ei benderfynu oedd gadael rhodd i Tŷ Hafan.”
Fe ddefnyddion nhw Wasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim Tŷ Hafan, a rhoddodd y penderfyniad dawelwch meddwl iddyn nhw. “Mae’n ffordd o barhau i wneud yr hyn rydyn ni wastad wedi’i wneud – cefnogi plant a theuluoedd pan maen nhw angen y gefnogaeth honno fwyaf,” ychwanega Michele.
Daeth moment deimladwy ar eu taith pan wnaethon nhw gyfarfod â theulu lleol sy’n gysylltiedig â Tŷ Hafan. Er na chawson nhw gyfle i gyfarfod â’r plentyn, daeth Michele o hyd i ffordd greadigol o’i gofio – gadael siarcod bach wedi’u gwau mewn mannau cyhoeddus fel teyrnged dawel, gan ledaenu ymwybyddiaeth a charedigrwydd yn ei enw.
Wrth fyfyrio, dywed Johnny, “Gwnaeth cyfarfod â’r teulu hwnnw wneud i bopeth rydyn ni wedi’i wneud deimlo hyd yn oed yn fwy personol. Pe na bai Tŷ Hafan yma, ble fydden nhw’n mynd? Dyna pam rydyn ni eisiau parhau i gefnogi – hyd yn oed ar ôl ein hamser ni.”
Gallwch chithau greu eiliadau gwerthfawr
I gael gwybod mwy am gynnwys rhodd yn i Tŷ Hafan yn eich Ewyllys, neu i ddefnyddio ein Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim, ewch i www.tyhafan.org/gift-in-a-will, neu ffoniwch 029 20 532255
Diolch i chi am ystyried rhoi yn y ffordd arbennig hon.