Mae creu atgofion yn rhan annatod o’r hyn rydym yn ei wneud yn Tŷ Hafan. Mae’n ymwneud â chreu atgofion cadarnhaol gyda’ch gilydd fel teulu yn ystod yr hyn all fod yn gyfnod anodd iawn a chreu cofroddion a all gael eu cadw am byth.
Gall gweithgareddau creu atgofion gynnwys mynd ar deithiau arbennig, cymryd lluniau, creu blychau atgofion, ysgrifennu llyfrau am y plentyn a’i deulu, cadw cudynnau o wallt, gwneud gwaith celf gyda’ch gilydd, neu wneud olion llaw a chastiau o’r dwylo neu’r traed.
Mae castiau o’r dwylo neu’r traed yn gastiau plastr o law neu droed plentyn y gall teulu eu cadw am byth.
“Mae cyflwyno’r cast gorffenedig o’r llaw i deulu yn aml yn foment emosiynol, gan fod cast o’r llaw yn atgof parhaol ac yn ddarn sentimental a diriaethol sy’n creu atgofion,” rhannodd Emma, sy’n Ymarferydd Celfyddydau Creadigol yn Tŷ Hafan.
Gall teuluoedd fynd i’n Hybiau Profedigaeth lleol hefyd, lle gallan nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau creu atgofion am gyhyd ag y mynnant ar ôl i’w plentyn farw. Un enghraifft o weithgaredd creu atgofion yn ein Hybiau Profedigaeth yw creu cerdd acrostig. Mae teuluoedd yn meddwl am eiriau sy’n disgrifio’r plentyn maen nhw’n ei gofio ac sy’n dechrau gyda’r llythrennau yn ei enw.
Rhannodd Michelle, yr oedd ei mab Louis yn dair a hanner oed pan fu farw yn Tŷ Hafan, ei phrofiad o fynd i un o’n sesiynau creu atgofion ar ôl profedigaeth yn Sir Benfro gyda’i merch Lily.
“Roedd y dosbarth hwn yn ffordd wych i frawd neu chwaer fel Lily ddeall mwy am Tŷ Hafan, oherwydd fe gafodd hi ei geni ar ôl i ni golli Louis. Roedd hefyd yn ffordd dda i mi gadw mewn cysylltiad â Tŷ Hafan.”
Mae dod o hyd i ffyrdd o gofio plentyn sydd wedi marw yn ffynhonnell gysur mor hanfodol i lawer o deuluoedd sydd mewn profedigaeth. Does dim un dull o greu atgofion sy’n addas i bawb, felly mae ein tîm o arbenigwyr yn gweithio gyda theuluoedd i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau iddyn nhw.
“Fyddwn i ddim wedi meddwl am wneud pethau y gallen ni eu cadw, ond Blwch Atgofion Fynley yw un o’r pethau mwyaf gwerthfawr sydd gen i,” rhannodd Maria Thomas, Nain Fynley.
Diolch i roddion hael gan gefnogwyr fel chi, gallwn ni gynnig ein holl wasanaethau creu atgofion yn rhad ac am ddim i deuluoedd ledled De Cymru.