Pan ddewisodd Brooke, oedd yn fam newydd, gael paned o de gyda thîm Tŷ Hafan yn ystod un o nifer o arosiadau yn yr ysbyty gyda’i merch Ivy-Mai, fe newidiodd bywyd ei theulu am byth.

A hwythau’n gyffrous i ddod yn rhieni, doedd Brooke a’i gŵr Kory ddim yn ymwybodol y byddai eu merch gyntaf, Ivy-Mai, yn cael ei geni â chymhlethdodau ac y byddai angen llawdriniaeth arni’n syth ar ôl cael ei geni. “Fe gollon ni ein babi cyntaf 12 wythnos i mewn i’r beichiogrwydd. Pan ddywedon nhw wrtha’ i fod angen llawdriniaeth ar Ivy, fe ddywedais i, “Alla’ i ddim colli un arall. “Beth bynnag sydd angen i chi ei wneud, gwnewch e’.” meddai Brooke.

Cyn i Ivy-Mai fynd i mewn i’r theatr i gael llawdriniaeth, gofynnwyd i Brooke a Kory a hoffen nhw ffarwelio â’u merch. “Fe ofynnais i iddyn nhw beth ydych chi’n ei olygu?” meddai Brooke. “Doeddwn i ddim yn gwybod a oedden nhw’n golygu ffarwelio am y tro neu am byth.”

Gan eu bod nhw’n rhieni am y tro cyntaf ar yr uned gofal dwys i fabanod newydd-anedig, uned arbennig i fabanod yn yr ysbyty, doedd Brooke a Kory ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Fe wnaeth ein taro ni fwy ar ôl yr wythnos gyntaf. Fe ddywedodd y meddyg nad oedd hyn yn rhywbeth lle rydych chi’n gadael yr ysbyty ac yn bwrw ymlaen â’ch bywydau.”

Roedd angen 21 o lawdriniaethau ar Ivy-Mai cyn ei phen-blwydd yn dair oed oherwydd problemau gyda’i hoesoffagws a oedd yn achosi problemau gyda bwyta ac anadlu. Mae gan Ivy glefyd yr arennau a phroblemau gyda’i phledren hefyd. Er mwyn bod yn agos at Ivy-Mai yn ystod y llawdriniaethau hyn, roedd Brooke a Kory yn gallu treulio amser yn Tŷ Ronald McDonald ger Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd.

Clywodd Brooke am y fenter Te gyda Tŷ Hafan gyntaf wrth sgwrsio â rhiant arall yn Tŷ Ronald McDonald yn ystod un o lawdriniaethau Ivy-Mai. Mae Te gyda Tŷ Hafan yn sesiwn galw heibio fisol yn Tŷ Ronald McDonald yng Nghaerdydd, a gynhelir gan Ymarferwyr Cymorth i Deuluoedd Tŷ Hafan.

Gall siarad â hosbis plant am ddyfodol eich plentyn fod yn frawychus, felly mae’r sesiynau galw heibio hyn yn rhoi cyfle i deuluoedd â phlant yn yr ysbyty ddysgu mwy am wasanaethau Tŷ Hafan a sut y gallen ni eu cefnogi dros baned o de a bisgïen.

Cofiai Brooke ei bod hi’n teimlo’n betrusgar am siarad â thîm Tŷ Hafan ar y dechrau. “Roeddwn i’n teimlo’n swil ac arhosais i’r tu allan am ychydig oherwydd doeddwn i ddim yn credu y gallai Ivy gael y cymorth gan nad oedd hi ar ddiwedd ei hoes”.

Ond fe benderfynodd Brooke gymryd y cam hwnnw ac mae’n cofio treulio tua dwy awr yn siarad â’r tîm am ei thaith gydag Ivy-Mai. “Fe wnaethon nhw ofyn cwestiynau i mi a gwrando ar fy stori. Rydyn ni bob amser yn dweud ein bod ni’n iawn. Mae’n braf eistedd gyda phobl nad ydyn nhw’n deulu a chael pobl yn gwrando arnoch chi, heb i chi wneud i bethau swnio’n well nag ydyn nhw.” Ar ôl y sgwrs hon, gwnaeth Brooke gais am gymorth gan Tŷ Hafan a chafodd ei derbyn ychydig wythnosau’n ddiweddarach.

Ivy-Mai and Willow-Rae

Ers hynny, dywedodd Brooke na fyddai hi’n gallu ymdopi heb Tŷ Hafan. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Maen nhw’n cysylltu â mi, nid yn unig ar ôl llawdriniaeth ond ar ddiwrnod arferol i weld sut ydyn ni.”

“Rwyf am i bobl fod yn ymwybodol o ba mor anhygoel yw Tŷ Hafan. Mae’n fwy na rhywle sy’n darparu gofal diwedd oes. Mae mwy iddi na hynny.”

Dywedodd Brooke ei bod hi’n bwysig bod chwaer Ivy-Mai, Willow-Rae, yn teimlo’n rhan o bethau ac yn cael ei chefnogi hefyd. “Mae pawb yn Tŷ Hafan yn cydnabod Willow. Er nad yw’n digwydd iddi hi, mae’n rhaid i Willow wylio Ivy yn mynd drwy hyn. Bydd hi’n gallu cael cefnogaeth gan Tŷ Hafan pan fydd hi’n hŷn. Rwyf am i Willow deimlo ei bod hi’n cael ei gweld hefyd.

Willow-Rae

“Mae gwybod bod gan Ivy le i fynd iddo ar gyfer gofal diwedd oes wedi tynnu pwysau anferthol oddi ar fy ysgwyddau – rhywle mae hi’n hoffi mynd hefyd. Bydd gan Willow rywle i fynd bob amser lle cafodd hi hwyl gydag Ivy.”

Diolch i’ch cefnogaeth chi, mae Tŷ Hafan yno i helpu Ivy-Mai a’i theulu. Diolch i chi am fod yno i deuluoedd fel teulu Ivy-Mai.

Drwy gyfrannu heddiw, gallwch chi helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys nawr