Allwch chi helpu teuluoedd fel un Alice?

Helpwch ni i wneud i bob munud gyfri i blant fel Alice.

Rhowch heddiw
Alice a Scarlett

Gwneud i bob munud gyfri

Mae’r gwanwyn yma, ac wrth i ni weld blodau cyntaf y gwanwyn yn blodeuo ac yn meddwl am fwynhau’r tywydd cynhesach gyda’n hanwyliaid, hoffai Rebecca a Barry ddweud wrthych chi am eu merch ysbrydoledig, Alice, sydd eisoes wedi goresgyn heriau enfawr yn ei bywyd byr, a hithau ond yn wyth mlwydd oed.

Allwch chi helpu teuluoedd fel un Alice i fwynhau adegau arbennig gyda’i gilydd a pheidio â cholli cyfle i wneud y pethau syml y mae teuluoedd eraill yn eu cymryd yn ganiataol?

Ystyriwch roi rhodd i Tŷ Hafan. Gyda’ch help chi, gallwn ddarparu gofal, cefnogaeth a seibiant sydd eu angen yn fawr i fwy o deuluoedd, a’u galluogi i fwynhau adegau arbennig gyda’i gilydd.

Rhoi rhodd

Heb Tŷ Hafan, byddai ein teulu cyfan yn ei chael yn anodd iawn.

- Rebecca - Mam Alice a Scarlett

Rhowch rodd heddiw a helpu i wneud yn siŵr y byddwn ni bob amser yno ar gyfer teuluoedd fel un Alice.

Bydd eich rhodd yn golygu llawer iawn i’r teuluoedd sy’n troi atom ni am gymorth, a bydd yn ein helpu i barhau i ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth y maen nhw ei angen. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd yng Nghymru.  Diolch.

Cefnogwch heddiw

Stori Rebecca a Barry

 

“Mae gan Alice gyflwr sy’n byrhau bywyd o’r enw syndrom Goldenhar, cyflwr prin o adeg ei genedigaeth, sy’n achosi i nodweddion yr wyneb ddatblygu yn abnormal.

Alice Ty Hafan“Mae hi’n dioddef o gymhlethdodau hirdymor eraill syndrom Goldenhar, gan gynnwys problemau â’i golwg, ei chlyw a’i gallu i anadlu, a chafodd ei geni gyda gwefus a thaflod hollt, a llawer o dagiau croen. Mae gan Alice hefyd microsomia ar un ochr ei hwyneb ac mae  asgwrn isaf ei gên yn ddiffygiol ar yr ochr chwith.

“Cawsom wybod bod gan Alice syndrom Goldenhar pan oedd yn saith mis oed. Roeddem yn gwybod o’n sgan 20 wythnos bod rhywbeth o’i le yn ddifrifol.

Roedd llawer o bryderon, ond roedd tag croen ar ei thrwyn o bryder mawr ar adeg y sgan. Ar y pryd doedden nhw ddim yn gallu cadarnhau mai tag croen oedd e’ neu’r posibilrwydd bod ei hymennydd yn dod drwodd.

“Pan ddaeth Alice i’r byd, cymerodd ei hanadl cyntaf a chrio.

“Roedd y sioc a’r rhyddhad yn ein llethu.

“Ond funudau yn ddiweddarach, dirywiodd ei hiechyd, a dywedwyd wrthym i baratoi ar gyfer y gwaethaf.”

Rhuthrwyd Alice i’r Uned Gofal Dwys Newyddanedig dim ond 20 munud ar ôl iddi gael ei geni drwy doriad cesaraidd oherwydd dywedwyd wrth Barry a Rebecca ei bod yn debygol o farw.

“Dywedwyd wrthym cyn iddi gael ei geni ei bod yn bosib nad oedd ei cheg wedi datblygu fel y dylai. Roedd hyn yn golygu y byddai’n anodd rhoi tiwb yn ei cheg ac y byddai angen traceostomi arni ar frys. Munudau’n unig ar ôl iddi gael ei geni, gosodwyd traceostomi.

“Mae gan Alice y math prinaf o syndrom Goldenhar, sy’n golygu bod ei hysgyfaint wedi eu heffeithio. Cafodd ei geni ag ysgyfaint wedi datchwyddo a thynnwyd rhan o’i hysgyfaint pan oedd yn bum mis oed. Roedd hi’n sâl iawn, iawn.

“Pan gafodd ei geni, roedd y meddygon yn ei chael yn anodd canfod gweithgarwch yn ei hymennydd oherwydd y cafodd ei geni’n gynnar ar ôl 34 wythnos o feichiogrwydd. Dywedwyd wrthym pe byddai hi’n byw, y gallai fod ganddi gymhlethdodau ychwanegol parlys yr ymennydd.

Helpwch ni i wneud i bob munud gyfrif i deuluoedd ledled Cymru.

 

£25

Nyrs Glinigol Arbenigol

Gallai dalu i Nyrs Glinigol Arbenigol ymweld â theulu sydd newydd eu hatgyfeirio i roi tawelwch meddwl iddynt y bydd Tŷ Hafan a’r hosbis yno i gefnogi’r teulu cyfan.

£50

Cymorth gweithiwr chwarae

Gallai dalu i un o’n gweithwyr chwarae dreulio’r prynhawn gyda phlentyn a defnyddio’r maes chwarae arbenigol yn ein gerddi.

£75

Cymorth emosiynol i frodyr a chwiorydd

Gallai dalu ein hymarferwyr cymorth teulu i roi cymorth emosiynol i frodyr a chwiorydd, yn unigol ac yn rhan o’n grŵp Supersibs.

£100

Cymorth emosiynol i'r teulu

Gallai dalu am bedair awr o gymorth emosiynol gan weithiwr cymorth teulu, a’u helpu i ymdopi â’r heriau maen nhw’n eu hwynebu bob dydd.

“Profodd hi bawb yn anghywir

“Atgyfeiriwyd Alice i Tŷ Hafan er mwyn iddi hi a’n merch hynaf, Scarlett, allu cael cefnogaeth fel teulu.

“Mae Alice a Scarlett yn bownsio oddi ar ei gilydd. Rydyn ni’n eu galw nhw’n Tom a Jerry! A phan fo Scarlett yn gwylltio Alice, rydyn ni’n galw Alice yn ‘Scrappy Doo’!

“Rydyn ni’n colli’r cyfle i wneud pethau mae teuluoedd eraill yn gallu eu cymryd yn ganiataol.

alice ty hafan spring appeal 2023“Ar ôl yr hyn ddigwyddodd i Alice pan oedd hi’n fabi, rydyn ni’n ei chael hi’n anodd fel teulu o ran mynd i apwyntiadau ysbyty, ond bydd hi’n cael llawdriniaethau ac apwyntiadau yn gyson drwy ei bywyd.

“Mae Sarah, Arbenigwr Chwarae Tŷ Hafan, yn dod i’r prif apwyntiadau ysbyty gyda ni i’n cefnogi ni, fel pan fydd Alice yn cael traceotomi mwy o faint wedi ei osod neu’n cael gwaith i ailadeiladu ei gên.

“Mae Scarlett yn ddeg oed ac mae hi teimlo pwysau trwm cymhlethdodau iechyd ei chwaer. Mae’n hawdd anghofio cymaint y mae brodyr a chwiorydd yn cael eu heffeithio gan yr heriau hyn, ond mae’r effaith yn ddwys.

“Heb Tŷ Hafan, byddai ein teulu cyfan yn ei chael yn anodd iawn.

“Mae Scarlett yn ei chael yn anodd iawn o ran sut mae cyflwr Alice yn ein heffeithio ni fel teulu. Mae’n rhaid iddi golli pethau, ac roedd y cyfyngiadau symud yn effeithio’n fawr arnom ni pan fu raid i ni i gyd warchod.

“Mae Scarlett wedi cael therapi chwarae gydag Anna yn Tŷ Hafan, ac mae hi’n mynd i’r grŵp Supersibs er mwyn gallu dod i gysylltiad gyda phlant eraill sy’n wynebu heriau tebyg.

“Pan oedd Alice yn fabi, byddai’r pedwar ohonom ni’n aros yn yr hosbis. Mae’r merched yn hŷn erbyn hyn ac mae Alice yn ddigon hyderus i aros yn Tŷ Hafan ar ei phen ei hun, sy’n golygu y gallwn ni gael mwy o amser o ansawdd da gyda Scarlett.

“Rydyn ni’n cael seibiant a does dim rhaid poeni. Rydyn ni’n ymddiried yn y Tîm Gofal yn yr hosbis, rydyn ni’n hapus i adael Alice gyda nhw. Pan oedd Alice yn aros yn Tŷ Hafan un tro, aethom ni â Scarlett i Comic Con!

“Mae’r meddygon yn gweld Alice nawr a dydyn nhw ddim yn credu mai’r un plentyn yw hi.

“Rydyn ni i gyd yn credu bod Alice yn anhygoel. Mae hi wedi brwydro. Mae Tŷ Hafan wedi cael effaith enfawr ar ein teulu ni, yn enwedig Sarah a’r grŵp Supersibs i Scarlett.

“Yn syml, mae Tŷ Hafan yn rhoi’r math o gyfleoedd bywyd i ni na fyddai gennym ni fel arall.

 

“Diolch am ddarllen ein stori, rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i lawer ohonom eleni, ond rydyn ni’n gwybod y bydd faint bynnag y gallwch chi ei roi yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd fel ein un ni.”

Rebecca a Barry

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr holl roddion. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ein helpu ni i gyflawni ein cenhadaeth i wneud bywyd byr yn fywyd llawn!

 

The shortcode is missing a valid Donation Form ID attribute.