Ras Dywyll Ynys y Barri

Dewch i weld rhai o nodweddion mwyaf eiconig Ynys y Barri yn y tywyllwch!

Bydd y ras hwyl 2.5k hon ar lan y môr yn mynd heibio i’r cytiau traeth amryliw lle bydd rhywbeth arswydus annisgwyl yn aros amdanoch chi.

Cofrestrwch heddiw!
Dark Run Ty Hafan Event

Dyddiad y digwyddiad

10.11.2023

Lleoliad

Ynys y Barri

Nid Oes Isafswm Arian Nawdd

£0

Ffi Cofrestru

Tocyn Oedolyn – £10
Tocyn Plentyn – £5

Bydd y Ras Dywyll hon yn dechrau wrth i chi fynd o dan y Cysgodfannau Dwyreiniol a Gorllewinol fydd wedi’u goleuo’n arbennig ar gyfer y digwyddiad, a gallwch ddisgwyl cerddoriaeth ac adloniant ar hyd y ffordd.

Byddwch wedyn yn mynd i fyny i ben y clogwyn yn y Barri cyn dod lawr heibio bŵt felen yr RNLI a Smugglers Cove Adventure Golf.

Cofrestrwch heddiw

Ychydig o wybodaeth am y digwyddiad

Cewch redeg neu gerdded, chi sy’n dewis. Does dim rhaid gwisgo gwisg ffansi ond rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny – lliwiau llachar neon a gwisg Calan Gaeaf! – byddwn yn rhoi gwobr am y wisg orau.

Bydd y cofrestru yn agor am 17:45 a’r digwyddiad yn dechrau am 18:30. Cewch gymryd cymaint o amser ag y dymunwch i gwblhau’r ras.

Cofrestrwch heddiw
Dark Run Ty Hafan Event

Nid oes isafswm arian nawdd a bydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn rhoi arian cyfatebol am bopeth y byddwch chi yn ei godi!

Ar y diwrnod byddwch yn cael:

Mynediad i'r digwyddiad

Llwybr â swyddogion goruchwylio bob cam o'r ffordd

Ffon olau fawr

Dŵr wedi'i roi yn hael gan Princes Gate

Medal

Cymorth codi arian

Mynediad i grŵp Facebook y Ras Dywyll

Ras Dywyll Ynys y Barri

 Gwybodaeth bwysig

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan

Caiff pob oedolyn fod yn gyfrifol am uchafswm o dri phlentyn

Rhaid i bawb ddod â golau ar eu pen (ni fyddwn yn darparu'r rhain)

Mae parcio talu ac arddangos ar gael yn Nells Point, Ynys y Barri

Cewch ddod â chadair wthio plentyn bach

Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n addas ar gyfer cŵn, caiff pob un sy'n cymryd rhan ddod ag un ci

Rhaid cadw eich ci wrth eich ymyl ar dennyn byr, nad yw'n ymestyn, yn eich llaw

Ni chewch gymryd rhan gyda chadair wthio plentyn bach a ci ar yr un pryd

Mae'r digwyddiad 90% yn hygyrch i gadeiriau olwyn tan i chi gyrraedd pen y clogwyn lle mae'r ras yn mynd oddi ar y llwybr ar y porfa am 50 llathen

Mae toiledau a chyfleusterau newid cewynnau babi ar gael

Yma i helpu

Os oes gennych gwestiwn am ein digwyddiad, cysylltwch â’n tîm digwyddiadau ar events@tyhafan.org. Byddan nhw’n cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Barod i gofrestru?

Gwych! Dim ond ychydig o funudau y bydd yn cymryd i gofrestru.

Cofrestrwch heddiw