Ras Dywyll Abertawe

Dewch i weld golygfa drawiadol Bae Abertawe mewn golau neon!

Bydd glan y môr yn llawn goleuadau neon, a gallwch ddisgwyl cerddoriaeth ac adloniant ar hyd y ffordd.

Cofrestrwch heddiw!
Dark Run Ty Hafan Event

Dyddiad y digwyddiad

18.11.2023

Lleoliad

Promenâd Bae Abertawe

Nid oes isafswm arian nawdd

£0

Ffi Cofrestru

Tocyn Oedolyn – £10
Tocyn Plentyn – £5

Bydd y ras hwyl hon yn 3.5k ac yn dechrau y tu ôl i’r Ganolfan Ddinesig ac yn mynd â chi tuag at y Chwarter Morwrol. Bydd y llwybr wedyn yn mynd yn ôl i’r promenâd a’r holl ffordd i’r Secret Beach Bar and Kitchen, cyn dod â chi yn ôl i’r man cychwyn.

Cofrestrwch heddiw

Rhedeg, cerdded neu loncian, chi sy’n dewis. Does dim rhaid gwisgo gwisg ffansi ond rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny – lliwiau llachar neon a gwisg Calan Gaeaf! – a byddwn yn rhoi gwobr am y wisg orau.

Bydd y cofrestru yn agor am 17:45 a’r digwyddiad yn dechrau am 18:30. Nid oes amser penodol ar gyfer cwblhau’r ras.

Cofrestrwch heddiw
Dark Run Ty Hafan Event

Nid oes isafswm arian nawdd a bydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn rhoi arian cyfatebol am bopeth byddwch chi’n ei godi!

Ar y dydd byddwch yn cael:

Mynediad i'r digwyddiad

Llwybr â swyddogion yn goruchwylio pob cam o'r ffordd

Ffon olau fawr

Dwr wedi'i roi yn hael gan Princes Gate

Medal

Cymorth Codi Arian

Mynediad i grŵp Facebook y Ras Dywyll

Ras Dywyll Bae Abertawe

Gwybodaeth bwysig

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan

Caiff pob oedolyn fod yn gyfrifol am uchafswm o dri o blant

Rhaid i bawb ddod â golau ar eu pen (ni fyddwn yn darparu'r rhain)

Ni chantiateir cŵn

Mae'r digwyddiad yn hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn

Caniateir cadeiriau gwthio plentyn bach

Mae toiledau a chyfleusterau newid cewyn babi ar gael

Yma i helpu

Os oes gennych gwestiwn am ein digwyddiad, cysylltwch â’n tîm digwyddiadau ar events@tyhafan.org. Byddant yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Barod i gofrestru?

Gwych! Dim ond ychydig o funudau y bydd yn cymryd i gofrestru.

Cofrestrwch heddiw