Digwyddiadau Her yn 2023

Eisiau cymryd rhan mewn rhywbeth epig? Rydych chi yn y lle iawn!

Yma byddwch yn gweld ein holl ddigwyddiadau her sydd i ddod yn 2023, sut i gofrestru, adnoddau codi arian a straeon gan bobl caredig iawn sydd eisoes wedi cwblhau digwyddiadau her i godi arian i Tŷ Hafan.

Ty_Hafan_Superhero_Taff_Trail_2018(HR)-6048

Reidio i’r Rygbi

Mae Reidio i’r Rygbi yn un o hoff ddigwyddiadau rhai o’n cefnogwyr sydd wedi ymgymryd â llawer o heriau.

Byddwch yn gadael ddydd Mawrth 20 Chwefror o Abertawe ac yn teithio am bedwar diwrnod gan gyrraedd Dulyn ddydd Gwener Chwefror 23. Bydd gennych fore dydd Sadwrn yn rhydd i weld Dulyn cyn gêm Chwe Gwlad Iwerddon yn erbyn Cymru brynhawn dydd Sadwrn, cyn dychwelyd ar fferi a bws i Abertawe ddydd Sul 25 Chwefror.

I wybod mwy am Reidio i'r Rygbi

Hanner Marathon Caerdydd

Mae Hanner Marathon Caerdydd yn mynd â rhedwyr heibio i fyd natur, golygfeydd prydferth a rhai o dirnodau enwog y ddinas.

Yn 2023, bydd Hanner Marathon Caerdydd yn digwydd ar 1 Hydref.

Ar gyfer y digwyddiad hwn, bydd gennych darged o godi £225.00 ac nid oes ffi gofrestru.

Cofrestru yma.

I wybod mwy am Hanner Marathon Caerdydd

Adnoddau Codi Arian

Efallai y bydd codi arian ar gyfer eich digwyddiad her weithiau yn ymddangos fel cymaint o her â’r digwyddiad ei hun! Dyna pam rydym wedi ei gwneud yn hawdd i chi gydag ein canllaw codi arian, a grewyd gan ein harbenigwyr yn y Tîm Codi Arian.

Hefyd, byddwch yn cael posteri, sticeri, balŵns wedi’u brandio a deunyddiau cyhoeddusrwydd eraill am ddim i hyrwyddo eich ymgais i godi arian.

Cliciwch yma i weld ein adnoddau codi arian.

Rydyn ni bob amser yma

Gall ein Tîm Codi Arian ateb eich holl gwestiynau, rhoi hwb i chi pan fyddwch ei angen a gwneud digwyddiad her yn llawer haws. Cysylltwch â ni yn events@tyhafan.org neu ar 029 2053 2255.