“Alice yw ein cyntaf-anedig ond hanner ffordd trwy fy meichiogrwydd fe gafodd fy ngŵr Ian a minnau wybod nad oedd popeth yn hollol iawn,” meddai’r fam Hannah Hicks, o Gaerdydd.

“Dangosodd y sgan 20 wythnos rai problemau, ac wythnosau yn ddiweddarach, cawsom wybod bod gan Alice hydranencephaly. Mae hyn yn golygu nad yw rhannau o ymennydd fy merch yn gweithio’n iawn, neu wnaethon nhw ddim datblygu yn y lle cyntaf.

“O’n i ddim ond yn 28 ar y pryd – roedd o’n gymaint o sioc i Ian a fi ac roedd yn anodd iawn dygymod ag ef. Nid dyma rydych chi’n ei ddisgwyl pan fyddwch chi’n disgwyl eich plentyn cyntaf o bell ffordd.

“Pan gafodd Alice ei geni ar 27 Awst 2013 dechreuodd gael trawiadau ar unwaith a chafodd ei rhuthro i Ofal Dwys. Dywedwyd wrthym ei bod hi’n mynd i farw.

“Yn wyrthiol, ni fu farw. Roeddem ni’n cael mynd â hi gartref.

“Ond y neges yn y dyddiau a’r blynyddoedd cynnar hynny a hyd yn oed nawr, yr ydym yn ei chlywed yn barhaus gan feddygon yw ‘efallai na fydd hi, efallai na fydd hi.’

“Felly rydym wedi dysgu byw un dydd ar y tro a gwerthfawrogi’r pethau bach mewn bywyd.

“Wyth mlynedd yn ddiweddarach a dyma ni, mae Alice gyda ni o hyd ynghyd â’i chwaer iau Sophia 6, a’i brawd bach Jack sy’n ddwy oed.

Mae hydranencephaly yn golygu bod yn rhaid i Alice ddefnyddio cadair olwyn ac nid yw’n gallu cerdded, siarad na bwydo ei hun. Ond nid yw hynny’n ei hatal hi, na ninnau, rhag mwynhau bywyd.

“Mae Alice wrth ei bodd yn gwylio’r teledu ac mae hi’n arbennig o hoff o Mickey Mouse Clubhouse a Peppa Pig.

“Mae hi’n gallu symud holl aelodau ei chorff, ond does ganddi ddim rheolaeth echddygol fanwl felly byddai’n ei chael hi’n anodd codi rhywbeth. Wedi dweud hynny, gwelais hi’n dal cyllell pan oedd hi’n taenu eisin menyn ar gacen yn yr ysgol, felly dyw hi ddim yn amhosib bob tro.

“Mae ganddi ffrâm sefyll ac mae ganddi ganllawiau ochr i’w helpu i eistedd i fyny.

“Dydy Alice ddim yn siarad fel ni, gan ddefnyddio geiriau, ond mae hi’n gallu cyfathrebu’n eitha’ da â fi. Mae hi’n gwneud synau yr ydw i wedi dod i’w deall dros amser – ac mae hi’n gadael i mi wybod yn bendant pan wyf wedi bod yn siarad yn rhy hir!

“Mae hi hefyd yn gallu cyfathrebu â’i llygaid. Os gofynnaf iddi a yw hi eisiau gwylio’r teledu, bydd hi’n edrych tuag at y teledu ac ati.

“Mae Alice yn cael ei bwydo â thiwb, ond mae hi’n mwynhau blasu tameidiau bach o fwyd, yn enwedig pethau melys fel iogwrt a hufen iâ. Mae hi wrth ei bodd â rheini!

“Felly nawr ry’n ni’n cynllunio fel pe na bai Alice yn mynd i unman. Rydym yn cynllunio ar gyfer y gorau, bob tro. Rydym yn ceisio cael ychydig o wyliau bob blwyddyn. Pan fyddwn ni gartref, rydyn ni’n ceisio gwneud llawer. Mae Alice wrth ei bodd yn mynd allan, felly pan fydd y plant ar wyliau ysgol rydym yn ceisio cadw’n brysur.

“Mae Tŷ Hafan wedi bod yno i ni yr holl ffordd.

“Cyn Covid roedden ni’n cael seibiannau yno ddwywaith y flwyddyn. Rydyn ni i gyd yn mynd. Mae’n fwy o seibiant na dim ac mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Rwy’n cael amser gyda chwaer fach Alice, Sophia, a’i brawd bach Jack. Mae Ian a minnau’n cael ychydig o amser i ymlacio. Am unwaith nid oes rhaid i ni fod yn meddwl yn barhaus am feddyginiaethau, beth sydd gennyf i’w wneud nesaf ac ati.

“Mae Alice yn arbennig o hoff o nofio yn y pwll yn Tŷ Hafan. Mae’n ymddangos ei bod hi’n ymlacio ynddo. Dwi’n siŵr mai dyma’r unig amser y mae hi’n teimlo rhyddid corfforol – dyw hi ddim wedi ei chyfyngu gan strapiau, mae hi’n gallu arnofio.

“Yn Tŷ Hafan, mae wastad rhywun ar gael os ydych chi eisiau gwybod rhywbeth. Mae’n achubiaeth. Mae’r grwpiau mamau a thadau hefyd yn anhygoel. Gwnaeth Ian y daith codi arian 5 a 55 gyda rhai o dadau eraill Tŷ Hafan yn 2019. Mae’n ddyn tawel, ac roedd hyn yn rhoi cyfle iddo sgwrsio’n gyffredinol am bethau. Mae’n dda ei fod yn gwybod pe bai eisiau siarad ar unrhyw adeg – mae’n gwybod bod yna bobl sydd wedi mynd trwy’r un profiad.

“Yna mae Diwrnodau’r Teulu yn Tŷ Hafan. Fel Calan Gaeaf. Mae’r rhain yn wych oherwydd gallaf fynd â’r plant i gyd ac mae pethau yno i’w cadw nhw i gyd yn brysur. Mae Sophia yn mynd i Super Sibs – mae hi wrth ei bodd gyda’r stwff awyr agored a chelf a chrefftau. Wrth iddi fynd yn hŷn mae hi’n dod yn fwy ymwybodol na all Alice wneud yr hyn y gall y rhan fwyaf o chwiorydd hŷn eraill ei wneud.

“Mae Sophia yn dod yn gyfeillgar â chwpl o ferched eraill o’r un oedran yn Super Sibs. Mae’n dda iawn iddi gael ffrindiau yn ei bywyd sydd mewn sefyllfa debyg i’w sefyllfa hi. Mae ei ffrindiau yn yr ysgol yn grêt – ond ni fyddai ganddyn nhw yr un ddealltwriaeth.

“Rydym hefyd yn ceisio rhoi yn ôl i Tŷ Hafan yn ein ffordd ein hunain, cymaint â phosib. Mae gan Ian ffrind yr oedd ei ferch yn Tŷ Hafan ar gyfer gofal diwedd oes. Felly nawr bob blwyddyn rydym yn cynnal parti Nadolig i blant a chodi arian ar gyfer Tŷ Hafan. Mae Siôn Corn o Tŷ Hafan yn dod draw ac mae’n ddigwyddiad mawr iawn i ni gyda hyd at 70 o blant yn bresennol. Rydyn ni’n ei gynnal yng Nghlwb Ceidwadol Trelái ac fel arfer yr un bobl sy’n dod bob blwyddyn. Mae’n brysur iawn, ond rwyf wrth fy modd. Mae’r plant i gyd wrth eu bodd yn mynd i weld Siôn Corn – mewn modd llawn hud, mae’r ale fowlio yn cael ei thrawsnewid yn groto Siôn Corn. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dod yno yn adnabod Alice ac mae hi wrth ei bodd. Mae yna awyrgylch braf iawn yno.

“Rydw i mewn grŵp Facebook gyda rhieni eraill sydd â phlant â hydranencephaly. Mae rhai o’r plant wedi cyrraedd 18 oed ac mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n obeithiol. Rydych chi yn gweld rhai plant nad ydyn nhw’n cyrraedd oedran tebyg ac mae’n dipyn o ergyd. Felly, rwy’n canolbwyntio ar y rhai sy’n gwneud yn dda.

“Mae Tŷ Hafan yn rhoi cymaint o gefnogaeth i deuluoedd mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Mamau, tadau, brodyr a chwiorydd yn ogystal â’r plant eu hunain. Rydych chi’n dod i adnabod y staff ac maen nhw’n buddsoddi gyda chi. Mae’r cyfan yn ymwneud â chydberthynas a chymdeithas. Dyma ein hanadl einioes heb amheuaeth.”