Wnewch chi ein helpu i gyrraedd pob teulu sydd ein hangen ni?

Bydd eich rhodd caredig yn sicrhau na fydd yr un teulu yng Nghymru yn gorfod wynebu bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain. Diolch am fod wrth eu hochor.

Rhowch heddiw
Alice Hicks

Dychmygwch Gymru lle mae pob plentyn yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, lle mae nhw eu hangen, pryd mae nhw eu hangen.

Mae ein hymchwil yn dangos, ar gyfer pob plentyn a theulu yng Nghymru y gallwn eu cefnogi, mae naw arall na allwn eu cyrraedd eto.

Bellach, ym mlwyddyn ein pen-blwydd yn 25, rydym yn fwy penderfynol nag erioed i gyrraedd pob teulu sydd ein hangen ni, oherwydd pan fydd bywyd plentyn yn fyr, ni ddylai fod yn rhaid i’r un teulu orfod ei fyw ar eu pen eu hunain.

Wnewch chi ein helpu i gyrraedd pob teulu sydd ein hangen ni?

Rhoi cyfraniad

Dydyn ni ddim yn gwybod faint mwy o amser y cawn ni gydag Alice, ond rydyn ni’n gwybod, beth bynnag y bydd yn rhaid i ni ei wynebu, fyddwn ni ddim yn ei wynebu ar ein pen ein hunain. Bydd Tŷ Hafan yno wrth ein hochr, diolch i chi.

- Hannah, mam Alice

Bydd eich rhodd yn helpu i sicrhau na fydd yr un teulu yng Nghymru yn byw bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain.

Mae ein hymchwil yn dangos, ar gyfer pob plentyn a theulu yng Nghymru y gallwn ni eu cefnogi, mae naw arall na allwn ni eu cyrraedd eto.

Bellach, ym mlwyddyn ein pen-blwydd yn 25 oed, rydyn ni’n fwy penderfynol nag erioed i gyrraedd pob teulu sydd ein hangen ni, oherwydd pan fydd bywyd plentyn yn fyr, ni ddylai fod yn rhaid i’r un teulu orfod ei fyw ar eu pen eu hunain.

Cefnogwch ni heddiw

Stori Alice

 

“Ganwyd Alice gyda hydranencephaly – cyflwr prin wnaeth effeithio ar ddatblygiad ei hymennydd cyn iddi gael ei geni. Mae’n golygu nad yw rhannau o’i hymennydd yn gweithio’n iawn neu na wnaethon nhw ddatblygu o gwbl.

Alice Ty Hafan

“Pan ganwyd Alice, dechreuodd gael trawiadau ar unwaith a chafodd ei chludo ar frys i’r adran gofal dwys cyn i ni hyd yn oed gael ei dal.

“Fydda i byth yn anghofio cael gwybod nad yw rhai babanod â hydranencephaly yn byw am fwy na blwyddyn. Doeddwn i ddim yn gallu credu ei bod nhw’n dweud y byddai Alice, fy mabi bach yn mynd i farw o fy mlaen.

“Ond gwnaeth Alice frwydro. Mae hi’n 10 mlwydd oed erbyn hyn ac ers iddi gael ei geni mae hi wedi ein rhyfeddu ni â’i hysbryd, pa mor benderfynol yw hi a chymaint y mae’n dwlu ar fywyd. Efallai nad ydw i’n ddiduedd ond rwy’n credu bod ganddi wên hyfryd.

“Mae hi’n defnyddio cadair olwyn ac nid yw hi’n gallu cerdded, siarad na bwydo ei hun. Mae rhai dyddiau, pan fydd Alice yn sâl iawn, yn anhygoel o anodd. Rydyn ni’n ceisio canolbwyntio ar gael cymaint o hwyl â phosibl gyda’n gilydd, er nad ydyn ni byth yn gwybod faint mwy o amser fydd gennym.

“Y llynedd, aethom ni i gyd ar wyliau anhygoel gyda’n gilydd i Disneyland. Gwnaeth Alice, ei chwaer, Sophia a’i brawd bach, Jack i gyd wisgo crysau-t yr un fath â’i gilydd a goleuodd llygaid Alice pan wnaeth hi gwrdd â Mickey a Minnie Mouse; nhw yw ei ffefrynnau!

“Dim ond pythefnos ar ôl i ni gyrraedd yn ôl dechreuodd Alice gael trawiadau. Roedd hi’n cael trafferth anadlu. Cafodd ei chludo ar frys i’r ysbyty a bu’n rhaid iddyn nhw roi tiwb yn ei gwddf i’w helpu hi.

“Roedd Alice yn yr ysbyty am 6 wythnos. Ar ddau achlysur ceisiodd y meddygon dynnu’r tiwb anadlu, ond doedd Alice ddim yn gallu anadlu ar ei phen ei hun.

“Dyna pryd y dywedodd y meddygon y newyddion yr ydym yn treulio ein bywydau yn gobeithio na fydd yn rhaid i ni ei glywed. Dywedon nhw na fyddai Alice yn byw llawer yn hirach.

“Pan na fydd eich plentyn yn debygol o fyw bywyd hir, mae’n rhaid i chi feddwl am bethau na ddylai yr un rhiant orfod meddwl amdanyn nhw. Er enghraifft lle rydych chi eisiau i’ch plentyn farw. Rydyn ni bob amser wedi gwybod, pan fydd yr amser yn dod, mai Tŷ Hafan yw’r lle hwnnw ac fe wnaethon ni ddechrau gwneud trefniadau i fynd â hi i’r hosbis.

“Pan oeddem ni wedi dechrau colli gobaith, awgrymodd meddyg ymgynghorol un triniaeth arall ac fe wnaeth weithio. Dechreuodd Alice anadlu ar ei phen ei hun eto a dechreuodd wella yn araf bach.

“Roedd Alice yn yr ysbyty am dri mis. Tri mis o dreulio pob dydd wrth ymyl gwely Alice, yn ceisio cadw pethau mor arferol ag y gallant fod i Sophie a Jack. Dyna’r tri mis anoddaf yn ein bywydau, ond doeddem ni byth ar ein pen ein hunain – roedd Tŷ Hafan yno gyda ni, bob cam o’r ffordd.

“Yn anhygoel, gallaf ddweud wrthych chi bod Alice yn ôl gartref erbyn hyn, ac mae’n gwneud yn wych. Mae hi hyd yn oed wedi bod nôl yn yr ysgol, yn gweld ei ffrindiau a’i hathrawon.

“Dydyn ni ddim yn gwybod faint mwy o amser fydd gennym ni gydag Alice, ond rydyn ni’n gwybod, beth bynnag y bydd yn rhaid i ni ei wynebu, fyddwn ni ddim yn ei wynebu ar ein pen ein hunain. Bydd Tŷ Hafan yno wrth ein hochr, diolch i chi.”

Hannah, mam Alice

Helpwch ni i wneud i bob eiliad gyfri i deuluoedd ledled Cymru.

 

£25

i roi sicrwydd a chysur i rieni sy’n ymdopi â diagnosis diweddar.

£50

i fywiogi bywyd plentyn sy’n ddifrifol sâl gyda sesiwn chwarae llawn hwyl a chwerthin.

£75

i roi cymorth emosiynol i blentyn i’w helpu i ymdopi â marwolaeth brawd neu chwaer.

£100

i roi cymorth ymarferol i deulu sy’n ceisio addasu i gyflwr plentyn sy’n gwaethygu a rhywun i wrando arnyn nhw.

Gyda’ch cymorth chi, gallwn ni sicrhau nad yw’r un teulu yng Nghymru yn byw bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain.

 

The shortcode is missing a valid Donation Form ID attribute.