Cyrraedd pob plentyn
Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 o blant â chyflwr sy’n byrhau bywyd yng Nghymru yr ydym yn eu cyrraedd
Rhaid #CyrraeddPobPlentyn.
Rhaid #CyrraeddPobPlentyn.
Mae hynny’n golygu bod miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn byw bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain, yn ofnus ac yn ynysig. Pan fydd bywyd plentyn yn un byr, ni ddylai fod yn rhaid i’r un teulu ei fyw ar eu pen eu hunain.
Rhaid #CyrraeddPobPlentyn.
Mae hosbisau plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn ymgyrchu i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar gyfer hosbisau plant Cymru.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gefnogaeth, y cymorth a’r cyllid i ni er mwyn inni allu bod yno ar gyfer pob plentyn a theulu sy’n troi atom a rhoi cyllid cynaliadwy a dyfodol diogel i gefnogi’r garfan hon sy’n tyfu o bobl ifanc agored i niwed.
Gallwch chi ein helpu ni drwy ddangos eich cefnogaeth a galw am gyllid cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gofyn iddyn nhw ysgwyddo 21% o’n costau gofal yn flynyddol. Bydd hyn yn golygu y gallwn ni ddiwllau anghenion mwy o blant.
Ar hyn o bryd, dim ond tua 1 o bob 10 o blant â chyflwr sy’n byrhau bywyd yng Nghymru y mae Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn eu cyrraedd.
Rwy’n cefnogi eu galwad am gyllid cynaliadwy gan #LlywodraethCymru
Helpwch Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith #CyrraeddPobPlentyn www.tyhafan.org/reacheverychild
#WythnosHosbisPlant
Gallwch hoffi, gwneud sylw, a rhannu ein cynnwys #CyrraeddPobPlentyn ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i ledaenu’r ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth, a gallwch dagio eich AS i wneud yn siŵr ei fod yn gweld eich cefnogaeth a’ch cyfranogiad.
Yn 2023, lansiodd dwy hosbis plant Cymru, Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan, adroddiad a oedd yn dangos bod 3,655 o blant yng Nghymru â chyflwr sy’n byrhau eu bywyd.
Ond rhyngom ni dim ond tua 1 o bob 10 ohonyn nhw y gallwn ni eu cyrraedd ar hyn o bryd, sy’n cyfateb i ychydig dros 400 o blant.
Er mwyn dangos maint yr her rydym yn ei hwynebu, rydym wedi creu un iâr fach yr haf enfawr, sy’n cynnwys 3,655 o ieir bach yr haf llai – un ar gyfer pob plentyn. Mae 10% mewn lliw llachar llawn, i gynrychioli’r plant sydd eisoes yn cael cymorth, a 3,251 mewn llwyd i gynrychioli’r plant nad ydym wedi eu cyrraedd hyd yn hyn.
Pam iâr fach yr haf? Oherwydd bod ieir bach yr haf yn symbol o’r mudiad hosbis plant ledled y DU.
Ddydd Mawrth 18 Mehefin byddwn yn dod â’n iâr fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn i risiau’r Senedd rhwng 10.30am a 12.030pm i godi ymwybyddiaeth o’r her rydym yn ei hwynebu.
Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr hynny o nifer o gwmnïau sydd wedi gweithio’n galed i helpu ein tîm i’w creu.