Rheoli symptomau

Mae ein gweithwyr gofal proffesiynol hynod brofiadol yn dilyn canllawiau clinigol arfer gorau i reoli poen a symptomau eraill.   

Maen nhw’n canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd y plant a’r bobl ifanc yn eu gofal ac yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael yr wybodaeth lawn bob amser. 

Rheoli symptomau

Gwella ansawdd bywyd

Mae gan lawer o’r plant a’r bobl ifanc yr ydym ni’n eu cefnogi symptomau cymhleth iawn sy’n newid yn ystod eu hoes. 

Ar bob cam, ein nod yw darparu’r gofal meddygol a nyrsio gorau i reoli’r symptomau hyn, gan gynnwys ar ddiwedd oes. 

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda nyrsys cymunedol, timau amlddisgyblaethol mewn ysbytai a meddygon teulu i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael y gofal gorau gartref ac mewn ysbyty hefyd.

Yma i helpu

Os hoffech wybod mwy ynghylch sut yr ydym yn rheoli poen a symptomau, cysylltwch â’n nyrsys clinigol arbenigol; clinicalnursespecialists@tyhafan.org neu ar 02920 532200.

Maent ar gael rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Gweler ein Tudalen atgyfeirio i gael gwybod sut a phryd y gallwch wneud atgyfeiriad.  

Siaradwch â rhywun heddiw

Os hoffech siarad â rhywun ynghylch sut yr ydych chi’n teimlo, gan gynnwys unrhyw ofnau a phryderon y gallech fod yn eu profi, gallwn helpu.  

Mae gennym ymarferwyr cymorth i deuluoedd sydd wedi’u hyfforddi hyd at safon uchel ac sydd â llawer o brofiad o wrando ar rieni plant sydd â salwch sy’n byrhau bywyd.  

Ffoniwch 02920 532200 neu anfonwch neges e-bost; familysupport@tyhafan.org i drefnu sgwrs ag ymarferydd cymorth i deuluoedd heddiw. 

Archwiliwch fwy

Arhosiadau seibiant mewn argyfwng

Efallai y bydd adegau pan fydd anghenion gofal eich plentyn yn fwy cymhleth a beichus neu efallai bod sefyllfa deuluol yn golygu bod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch. Os yw hyn yn wir, fe wnawn ein gorau i gynnig seibiant byr i chi.

Cymorth profedigaeth

Gellir personoli ein hystod o therapïau i ddiwallu anghenion eich plentyn. Rydym hefyd yn sicrhau bod aelodau o’r teulu’n teimlo eu bod yn chwarae rhan lawn mewn therapïau hefyd. 

Gofal diwedd oes

Os yw eich plentyn yn agosáu at ddiwedd oes, gallwn helpu i sicrhau bod eich teulu cyfan yn cael y gofal a’r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt drwy gydol y cyfnod anodd hwn.

Cymorth profedigaeth

Rydym yn cynnig cymorth profedigaeth wedi’i deilwra cyhyd â bod ei angen. Rydym ni’n deall bod galar yn wahanol i bawb, felly rydym ni’n gweithio’n agos gydag aelodau unigol y teulu i ddarparu’r cymorth cywir iddyn nhw.Â