Sut rydym yn cefnogi pobl ifanc 

Rydym yn deall bod yr hyn y mae pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc ei eisiau a’i angen yn aml yn wahanol iawn i’r hyn y mae plant iau yn ei hoffi ac sydd o fudd iddynt. 

Dyna pam rydym wedi datblygu ystod o wasanaethau a chymorth yn ofalus i’w helpu i gysylltu â’i gilydd, cael hwyl a chyflawni eu nodau. 

supporting-young-people-hero

Llu o weithgareddau difyr 

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn trefnu amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc, yn ein hosbis ac yn y gymuned.

Mae’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc o oedrannau tebyg sydd â chyflyrau tebyg i gael hwyl, i wneud ffrindiau newydd ac i deimlo’n annibynnol, i ffwrdd o’u rhieni. 

Mae gennym hefyd grŵp i bobl ifanc a gynhelir gan bobl ifanc o’r enw y ‘Squad’. Mae aelodau’r grŵp yn cydweithio’n rheolaidd i drefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn ogystal â digwyddiadau arbennig. Yn y gorffennol, mae’r digwyddiadau hyn wedi cynnwys teithiau i’r sinema a pharti gardd ar dir ein hosbis. 

Croeso i’r Den’ 

Mae’r ‘Den’, a agorwyd yn 2021 fel rhan o’n gweddnewidiad gwerth £1 miliwn, yn lle cyfeillgar yn ein hosbis sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i bobl ifanc gymdeithasu ynddo.

Yn ogystal â bod â chegin hygyrch ei hun, a man cymdeithasol a lolfa, mae yno hefyd ardal chwarae gemau clyfar ac ystafell sinema o’r radd flaenaf. 

Felly, os ydych chi eisiau cael sgwrs gyda ffrindiau, ymlacio wrth chwarae PlayStation neu wylio ffilm boblogaidd, ewch i’r ‘Den’ pan fyddwch yn ymweld â ni yn Tŷ Hafan. Mae’n lle wirioneddol ardderchog lle gallwch chi fod eich hun. 

Rydw i wrth fy modd â’rDenyn Tŷ Hafan. Mae’n rhywle y gallaf fynd i gymdeithasu, chwarae gemau consol ac esgus fy mod yn union fel pob person ifanc arall yn ei arddegau, heb unrhyw offer meddygol o fy nghwmpas na gofalwyr (na Mam!) yn fy ngwylio i drwy’r amser.

- Brad

Dywedwch helo wrth Sophie 

Sophie Knapp yw ein nyrs bontio wych. Mae ei rôl hi wedi’i neilltuo i helpu pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni, a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llwyr pan fyddant yn symud i wasanaethau oedolion.

Mae hi hefyd yn cadw mewn cysylltiad â’r holl bobl ifanc hynny nad ydynt yn dod i aros yn yr hosbis mwyach, gan gynnig cyswllt a chymorth parhaus ynghyd ag amryw o gyfleoedd cymdeithasol. 

Gall Sophie helpu gydag amrywiaeth eang o bethau, gan gynnwys materion iechyd, yr ysgol ac addysg uwch, dod yn fwy annibynnol a manteisio ar dai â chymorth. Felly, mae croeso i chi gysylltu â Sophie drwy ffonio 02920 532200 neu e-bostio sophie.knapp@tyhafan.org os bydd angen help llaw arnoch. 

Pethau eraill rydym yn sicr y byddwch yn dwlu arnynt 

Pwll hydrotherap

Mae ein pwll o’r radd flaenaf yn cynnwys seinyddion ar gyfer cerddoriaeth, a goleuadau disgo a synhwyraidd, sy’n ei wneud yn lle perffaith i arnofio neu i ymlacio.  

Maes chwarae cynhwysol

Mae ein maes chwarae a addaswyd yn arbennig, sy’n wych ar gyfer plant mawr yn ogystal â phlant bach, yn lle anhygoel i gael hwyl, ymlacio gyda ffrindiau neu dreulio amser gyda’ch teulu. Mae wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc. 

Technoleg glyfar iawn

Gallwch ddefnyddio ein hoffer a’n technoleg gynorthwyol i archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau ac i fynegi eich hun. Bydd yr hyn y gallwch chi ei gyflawni yn eich rhyfeddu!

Cymorth emosiynol pan fydd ei angen arnoch 

Rydym yn deall y byddwch weithiau yn ceisio ymdopi ag emosiynau anodd neu yn teimlo’n unig. Yn Tŷ Hafan, gallwch siarad ag aelod o’n tîm cyfeillgar yn breifat am eich teimladau ac unrhyw beth arall yr hoffech siarad amdano. 

Cysylltwch â Sophie Knapp neu ein tîm Cymorth i Deuluoedd drwy ffonio 02920 532200 i drefnu sesiwn unigol a chyfrinachol. Fel arall, e-bostiwch sophie.knapp@tyhafan.org neu familysupport@tyhafan.org  

Sicrhau newid didrafferth i wasanaethau oedolion 

Gall symud i fyd anghyfarwydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol oedolion achosi rhai pryderon i chi. Ond peidiwch â phoeni.

Mae gennym wasanaeth penodedig dan arweiniad ein nyrs bontio, Sophie Knapp, i helpu i wneud y newid hwn mor ddidrafferth â phosibl. 

Gan weithio’n agos gyda chi a’ch teulu, byddwn yn sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi ac yn cael gwybod beth sy’n digwydd bob amser, a’ch bod yn ymgysylltu â’r holl wasanaethau sydd eu hangen arnoch. 

Yma i helpu 

Os bydd gennych gwestiwn neu os hoffech ddefnyddio unrhyw rai o’n gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, cysylltwch â Sophie Knapp neu ein tîm Cymorth i Deuluoedd drwy ffonio 02920 532200, neu e-bostiwch sophie.knapp@tyhafan.org neu familysupport@tyhafan.org. Byddant yn ymateb cyn gynted â phosibl.