Cefnogaeth i deuluoedd

Mae nifer o deuluoedd yn sôn bod TÅ· Hafan yn “achubiaeth” iddynt gan ein bod yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol o’r radd flaenaf yn ogystal â gofal meddygol rhagorol.

Ein nod yw dod i adnabod pob plentyn ac aelodau o’u teuluoedd er mwyn i ni allu nodi a diwallu eu holl anghenion gymaint â phosib. 

Siarad â rhywun

Rydym ni’n cynnig clust i wrando, therapïau ac amrywiaeth o gefnogaeth emosiynol arall i blant sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd, eu rhieni a’u brodyr a chwiorydd. 

Cefnogaeth ymarferol ac eiriolaeth

Rydym ni’n darparu cefnogaeth ymarferol ac eiriolaeth arbenigol i wneud bywyd yn symlach i chi, gwella ansawdd bywyd eich teulu a sicrhau nad ydych chi’n teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun. 

Cymorth profedigaeth

Gall ein hymarferwyr cymorth i deuluoedd arbenigol ddarparu cefnogaeth benodol i aelodau o’ch teulu i’w helpu i alaru ac ymdopi â’u colled. Gallant hefyd eich cyfeirio chi ac aelodau eich teulu at gymorth cwnsela proffesiynol, os oes angen hyn unrhyw bryd.  

Sut rydym ni’n cefnogi pobl ifanc

Ardaloedd unigryw yn ein hosbis. Gweithgareddau a digwyddiadau penodol. Grŵp cefnogi ar gyfer brodyr a chwiorydd yn y glasoed. A nyrs bontio yn benodol ar gyfer cefnogi pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed. 

Other ways we support families

Cefnogaeth i deuluoedd

You can leave your child at our hospice for a few days to get a well-deserved break. Or your family can stay in the hospice too and be close by. 

Cefnogaeth i deuluoedd

Our range of therapies include music therapy, play therapy, physiotherapy, occupational therapy and complementary therapies such as massage and aromatherapy. 

Cefnogaeth i deuluoedd

Our expert care professionals are highly trained at managing pain and other symptoms that children with a life-shortening condition may experience.Â