Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau diwedd oes a chymorth brys ar gyfer babanod newydd-anedig – babanod 4 wythnos oed neu iau. Yn sgil hyn, aethom ati i greu rôl newydd yn 2023 i roi cymorth gofal lliniarol i fabanod, gan benodi Jemma yn Nyrs Glinigol Arbenigolar gyfer Gofal Lliniarol i Fabanod Newydd-anedig.

Rôl Jemma yw cefnogi teuluoedd babanod newydd-anedig y gallai eu dyfodol fod yn ansicr. Gall fod gan y babanod hyn gyflwr annisgwyl sy’n byrhau bywyd, neu efallai bod y teuluoedd wedi cael gwybod y gallai fod cymhlethdodau cyn i’w babi gael ei eni.

“Rwy’n cyfarfod â theuluoedd ar adeg emosiynol iawn pan fo pethau’n ansicr. Mae’n amser anodd iawn iddyn nhw.”

Yn ôl Jemma, mae ei diwrnodau gwaith i gyd yn wahanol iawn. “Galla i gael fy nhynnu fan hyn a fan draw os yw’n fater brys!”

“Mae gen i ddiwrnod penodol ym mhob un o’r unedau lefel 3 i fabanod newydd-anedig yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd. Rwy’n ymuno â’r rowndiau ar y ward lle y bo’n bosibl fel fy mod i’n bresennol yn yr uned, gan wneud yn siŵr bod teuluoedd yn dod yn gyfarwydd â gweld rhywun o Tŷ Hafan ac nad ydyn nhw’n ofni’r hyn y mae hynny’n ei olygu. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, a yw eu babi yn mynd i oroesi neu a fydd ganddo gyflwr a fydd yn byrhau ei fywyd.

Mae ymuno â’r rowndiau ar y ward yn rhoi cyfle i Jemma weld a allai unrhyw rai o’r babanod a’u teuluoedd gael eu hatgyfeirio i Tŷ Hafan i gael cymorth. “Os oes unrhyw atgyfeiriadau, rwy’n esbonio beth yw Tŷ Hafan, fy rôl i a’r cymorth sydd ar gael. Rwyf hefyd yn defnyddio’r amser hwn i gysylltu â theuluoedd sydd wedi cael eu hatgyfeirio a chael y newyddion diweddaraf ar eu babi.”

Pan nad yw Jemma ar wardiau i fabanod newydd-anedig, gall fod yn cefnogi rhieni sy’n disgwyl babi y mae ei ddyfodol yn ansicr. “Rwy’n eu cefnogi yn y cyfnod yn arwain i fyny at yr enedigaeth ac yn eu helpu i gynllunio ar gyfer yr enedigaeth a’r cyfnod wedi hynny.” Gallai hyn hefyd olygu galw ar ein Hymarferwyr Cymorth i Deuluoedd i ddarparu gwasanaethau creu atgofion a gwasanaethau eraill, yn dibynnu ar anghenion a dymuniadau’r teulu.

Os bydd teulu yn dewis dod i Tŷ Hafan gyda’u babi i gael gofal diwedd oes, mae Jemma yn helpu i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. “Fe fydda’ i’n trefnu i drosglwyddo’r babi o’r ysbyty, gan wneud yn siŵr bod y rhieni yn deall beth fydd yn digwydd a chymryd amser i ddeall eu dymuniadau ochr yn ochr â’n Hymarferwyr Cymorth i Deuluoedd. Rwy’n cydweithio â’r timau ar y ward i fabanod newydd-anedig ac yn Tŷ Hafan i sicrhau bod popeth yn barod.”

Ymunodd Jemma â Tŷ Hafan ar ôl gweithio am 14 mlynedd ar unedau i fabanod newydd-anedig ei hun. “Yr hyn rwy’n ei hoffi am fod yn Tŷ Hafan yw y gallwch chi ddarparu llawer o gymorth i deuluoedd, nid dim ond rhieni ond brodyr a chwiorydd a gweddill y teulu hefyd. Mae ysbytai yn gwneud eu gorau gyda’r hyn sydd ganddyn nhw, ond mae gallu cynnig iddyn nhw adael yr ysbyty a bod allan gyda’u babi yn Tŷ Hafan, os mai dyna maen nhw eisiau, yn grêt.

“Mae pawb sy’n gweithio yma, yn enwedig yn yr eiliadau hynny o ofal diwedd oes, yn dangos cymaint o dosturi ac yn ceisio rhoi’r profiad gorau posibl iddyn nhw yn yr amgylchiadau hynny.”

Mae Jemma hefyd yn helpu gyda ‘chynllunio cyfochrog’. Bydd Jemma yn cefnogi teuluoedd i benderfynu beth maen nhw eisiau ei wneud os bydd eu babi yn marw, er enghraifft, cael gofal diwedd oes gartref neu yn ein hosbis, ond hefyd i gael cynllun arall ar waith fel bod gan y teulu y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fynd â’u babi adref os bydd yn goroesi.

Gall y ffaith bod y cymorth a’r opsiynau hyn ar gael wneud gwahaniaeth enfawr i deulu y mae eu babi yn wynebu dyfodol ansicr. Mae ganddyn nhw opsiynau gyda Tŷ Hafan ac, yn bwysig, mae’r cymorth yn ymestyn y tu hwnt i farwolaeth y plentyn a phrofedigaeth.

Mae datblygiadau meddygol yn golygu bod babanod sy’n cael eu geni’n gynnar iawn neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd cymhleth yn byw’n hirach. Mae rôl Jemma yn un hollbwysig yn Tŷ Hafan – mae’n gwneud yn siŵr bod teuluoedd yn gwybod yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw a’u bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw pan fydd eu babi yn dod i ddiwedd ei oes.