Stori Emrys

Yr unig beth arferol

Mae mynd i fyny’r A470 i ymweld â fy nheulu yn beth arferol i ni ei wneud. Y daith honno yn ôl i Gricieth oedd y peth cyntaf a’r unig beth arferol y cawsom erioed i’w wneud gydag Emrys.

Gwenno and Emrys

Hyfryd ym mhob ffordd

Roedd Emrys yn gymeriad o’r diwrnod cyntaf. Roedd yn gymysgedd perffaith o’r ddau ohonom ac fe allech chi weld mai ein mab ni oedd e. Roedd ganddo lygaid Luke, fy nodweddion tywyll i a choesau hir Luke. Roedd yn hyfryd ym mhob ffordd.

Ond roedd yn fach iawn, 804 gram, pan gafodd ei eni.

Ganwyd Emrys ar 6 Mawrth 2024 ar ôl 25 wythnos a thri diwrnod, a thaith IVF hir.

Roedden nhw wedi dweud wrthym y byddai angen iddyn nhw fynd ag ef i’r Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig ar unwaith ac fe wnaethon nhw, roedden ni’n gwybod ei fod mewn dwylo diogel.

Mae’n mynd i fod yn ‘rollercoaster’

Dywedodd meddyg ymgynghorol Emrys ‘Mae hyn yn mynd i fod yn rollercoaster. Bydd yna adegau gwych ac adegau anodd.’

Dywedon ni, ‘Dydyn ni ddim yn hoffi rollercoasters. Ond os oes rhaid i ni reidio’r rollercoaster, fe wnawn ni reidio un Emrys unrhyw bryd.’

Felly aethom i mewn i ychydig o drefn ddyddiol – roedden ni’n arbenigwyr yn newid cewynnau o gwmpas yr holl wifrau a’r tiwbiau yn ei grud cynnal.

Ond yn oriau mân y bore, yn 5 diwrnod oed, yn sydyn fe stopiodd Emrys ei symudiadau achlysurol. Cawsom alwad gan yr Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig: “Dewch i mewn, rydyn ni’n bryderus am eich mab”. Canfu sgan arall waedu ar ei ymennydd. Fe wnaethon nhw bopeth y gallen nhw, ond daeth y realiti drostan ni. Doedd Emrys ddim yn mynd i wella o hyn.

Fe gawsom ni ei ddal

Dyma pryd cawsom ni ddal Emrys am y tro cyntaf ers iddo gyrraedd yr Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig.

Roeddwn i wedi cario Emrys am 25 wythnos, ond doedd Luke byth wedi ei gario. Felly, roedd ei roi ym mreichiau Luke yn foment fawr. Roedd y ddau ohonom ni’n teimlo llawer o emosiynau gwahanol.

Yna cefais gwtsh. Roedd croen Emrys mor feddal a hardd. Yn hyfryd ym mhob ffordd. Y teimlad o allu cusanu ei drwyn a’i wyneb bach tra roedd yn fy mreichiau. Roedd yn anhygoel.

Roedd yn teimlo fel diwedd ein taith

Roedden ni’n gwybod beth oedd o flaen Emrys, a chafwyd sgyrsiau anodd gyda’r meddygon ac roeddwn i wastad yn dweud ‘Ddim heddiw. Ddim heddiw.’

Gallem ni fod wedi ceisio sicrhau mwy o amser, ond fyddai hynny ddim wedi bod yn deg ar Emrys. Y peth olaf roedden ni eisiau oedd i rywbeth arall ddigwydd iddo.

Felly ddydd Iau 14 Mawrth. Daeth ein teulu agos i’r ysbyty, cafodd pawb gyfle i’w ddal a chawsom ein hystafell fach ein hunain. Daeth Emrys allan o’i grud cynnal ac i’r gwely gyda ni. Cymerwyd yr holl diwbiau i ffwrdd. Gwelsom ei wyneb hardd heb unrhyw diwbiau am y tro cyntaf.

Cawsom amser gydag ef bryd hynny. Dim ond y ddau ohonom gydag Emrys, yn sgwrsio, yn darllen iddo ac yn ei ganu i gysgu am y tro olaf.

Bu farw’n dawel yn ein breichiau am ddeuddeg munud wedi tri o’r gloch y prynhawn.

Fe gawson ni ei ymolchi wedyn, a’i gerdded allan o’r Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig mewn pram. Yna cafodd ei gymryd i gorffdy’r plant, roedd yn teimlo fel diwedd ein taith.

Ymdeimlad llawn heddwch

Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau Emrys yn ôl adref yng Nghricieth, lle arbennig yn ein calonnau. Mae mor heddychlon. Gallwch chi glywed y môr o’r fynwent. Ac mae fy neiniau a theidiau yno i ofalu am Emrys.

Ond, ni fyddai unrhyw drefnwyr angladdau yn gwneud yr holl daith ac nid oedd gennym unrhyw egni na’r gallu i feddwl am ateb ar ein pen ein hunain ar sut i’w gael i Gricieth.

Nid wyf yn gwybod beth fyddem wedi ei wneud heb Lou o Tŷ Hafan a roddodd yr holl gefnogaeth yr oedd ei angen arnom i wneud hyn.

Esboniodd ei bod hi’n iawn i ni fynd ag Emrys adref i’r gogledd ein hunain, posibilrwydd na fyddai fel arall wedi croesi’n meddyliau. Fe wnaeth Lou hefyd yr holl drefniadau angenrheidiol ac yn bennaf oll, roeddem yn gwybod ei bod hi yno i ni, yn ymarferol ac yn emosiynol, fel y mae hi’n dal i fod nawr.

Luke: Roedd Emrys yn ei fasged yn y cefn gyda Gwenno. Roeddwn i’n gyrru ac roedd Waldo, ein ci, ar y sedd flaen.
Roedd yn deimlad heddychlon iawn. Doeddem ni ddim mewn amgylchedd clinigol mwyach. Fe wnaethon ni siarad ag Emrys yr holl ffordd, gan rannu ein straeon. Ac roedd Emrys yn mynd i rywle diogel i orffwys.

Mae cael yr ychydig oriau hynny o fod gyda’n gilydd ar y daith honno i’r gogledd, heb amheuaeth, wedi ein helpu i brosesu pethau.

Pan gyrhaeddon ni Gricieth aethom lawr i lan y môr. Roeddwn i wedi dweud fy mod i eisiau i Emrys weld y môr cyn unrhyw beth arall. Yna cymerodd ein ymgymerwr Emrys i’w ofal. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach fe wnaethom osod Emrys i orffwys gyda’n teuluoedd agos a chael gwasanaeth gyda’n ffrindiau agosaf i rannu bywyd byr ond pwysig Emrys.

Mae Tŷ Hafan yno i chi bob amser

Cawsom gymorth profedigaeth gan yr ysbyty ond roeddwn i’n gwybod y byddai hynny ond am gyfnod byr. Roeddwn i’n poeni fy mod i’n creu perthynas gyda rhywun, yn rhannu popeth am Emrys, ond wedyn roeddwn i’n mynd i orfod gadael iddo fynd.

Yna daethom i Tŷ Hafan.

Y gwasanaeth haf hwnnw am y tro cyntaf – gallu gosod carreg Emrys, gyda’n teulu i gyd yno, dri mis ar ôl cwrdd ag o a’i golli. Roedd yn garreg filltir arall ar ei daith. Rydych chi’n teimlo’n rhan ohono. Mae Emrys yn rhan o Tŷ Hafan.

Rydyn ni’n gwybod bod Tŷ Hafan yno bob amser. Mae Tŷ Hafan yn rhywbeth cyson.

‘Mam Emrys ydw i’

Rydym yn dod i ardd goffa Tŷ Hafan yn aml. Dwi wrth fy modd yn gallu gwasgu’r botwm i fynd i mewn i Tŷ Hafan a dweud, ‘Mam Emrys ydw i’. Dyma un o’r ychydig gyfleoedd rwy’n gallu dweud hynny’n uchel.

Mae gan Emrys gartref yma yn ogystal ag yn y gogledd. Mae hynny’n arbennig iawn, rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i gael y cyfle hwnnw. Y parhad.

Mae Emrys yn byw o hyd yn Tŷ Hafan. Mae ganddo ei le yno gyda chymaint o blant a babanod arbennig eraill. Mae clywed enw Emrys yn cael ei ddarllen yn flynyddol a meddwl amdano fel un o’r gloÿnnod byw ar y wal, mae mor arbennig, a dyna’r atgofion y gallwn ni eu cario nawr. Dyna un o’i ddathliadau blynyddol ac yn rhywbeth i ni anelu tuag ato. Mae’r cysur hwnnw o wybod bod y cerrig milltir bach hynny’n dod yn bwysig iawn.

Cerrig milltir i Emrys

Ni fyddwn byth yn gallu gweld Emrys yn mynd i’r ysgol, neu’n graddio, neu’n dod yn gapten ar dîm pêl-droed Cymru. Gallwn ni freuddwydio am hynny, ond dydyn ni ddim yn mynd i’w weld.

Felly, y cyfleoedd y mae Tŷ Hafan yn eu rhoi i ni, gan gynnwys rhannu ei stori, dyma’r cerrig milltir i Emrys. Ac rydym mor falch o’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud.

Wyth diwrnod oedd ei fywyd. Ac roedd yr wyth diwrnod gorau er gwaethaf yr hyn yr aethom drwyddo. Cawsom adegau gwaethaf ein bywydau ac fe gawson ni’r gorau hefyd, ond dim ond oherwydd Emrys. Roedd yn fachgen mor ddewr. Fo wnaeth ni’n rhieni ac rydyn ni mor falch ohono. Mae’n fraint i fod yn rhieni iddo a bydd hyn wastad yn wir.