Syniadau codi arian anhygoel  

Mae codi arian yn ffordd wych o gefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau, cael llawer o hwyl a chysylltu â phobl i’ch ysbrydoli.  

I helpu i roi cychwyn cadarn i’ch gweithgareddau codi arian, rydym wedi rhestru rhai o’n hoff ddigwyddiadau codi arian erioed. Edrychwch arnyn nhw a nodi unrhyw un sy’n cymryd eich sylw.  

Syniadau codi arian anhygoel

Adnoddau am ddim

Cofiwch ein bod wedi creu amrywiaeth o adnoddau gwych i’ch helpu i wneud yn siŵr bod eich digwyddiad yn codi llawer iawn o arian a’ch bod yn cael amser da hefyd. 

Mae ein hadnoddau yn cynnwys canllaw sy’n llawn cyngor gwych, awgrymiadau ymarferol a syniadau codi arian yn ogystal â phosteri, sticeri, balŵns a deunydd hyrwyddo arall Tŷ Hafan.  

Cael eich ysbrydoli gan Tŷ Hafan 

Mae ein tîm codi arian wedi nodi rhai o’u hoff ddigwyddiadau codi arian mewn wyth adran ddefnyddiol. Darllenwch nhw i gael ychydig o ysbrydoliaeth. Yna dechreuwch eich taith godi arian wych gyda Tŷ Hafan. 

Byd y campau  

Rhedeg marathon
Cael eich noddi i wneud camp am gyfnod hir iawn.

Trefnu twrnamaint
Pêl-droed, rygbi, golff neu unrhyw gamp arall yr ydych yn ei mwynhau. 

Cymryd rhan mewn digwyddiad TÅ· Hafan
Rhedeg, beicio neu gerdded. Chi sy’n dewis. 

Diwrnodau arbennig 

Rhodd diwrnod priodas
Gofynnwch i’ch gwesteion gyfrannu i Tŷ Hafan yn hytrach na rhoi anrheg. 

Pen-blwydd penigamp
Gwnewch her codi arian ar eich diwrnod mawr. 

Helfa wyau
Gallech gynnal helfa wyau noddedig i blant. 

Ar gyfer pob oed  

Ocsiwn addewidion
Gofynnwch i oedolion a phlant roi gwasanaethau neu nwyddau. 

Amser am barti!
Llogwch neuadd leol, creu eich rhestr chwarae a chael parti. 

Diwrnod chwaraeon
Trefnwch ddiwrnod chwaraeon i’r teulu yn eich parc lleol. 

Digwyddiadau cymunedol  

Gwerthu cacennau
Mwynhewch arogl y pobi a gwerthu cacennau blasus. 

Cynnal cwis
Mwynhewch arogl y pobi a gwerthu cacennau blasus. 

Cyngerdd carolau
Dros gyfnod yr ŵyl, trefnwch gyngerdd carolau.  

Hoff weithgareddau dan do 

Noswaith gemau bwrdd
Sychwch y llwch o’r Monopoly neu Cluedo ac i ffwrdd â chi!

Coginio pryd of fwyd
Trefnwch gyfres o brydau bwyd o safon gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.  

Parti Pampro
Gwahoddwch ffrindiau draw am noson o bampro ac ymlacio.  

Hoff weithgareddau yn yr awyr agored

Naid barasiwt
Ewch amdani a neidio ar y cyfle hwn i godi arian.  

Gwledd yn yr ardd
Gallech gynnal barbeciw, picnic neu barti yn yr ardd dros fisoedd yr haf.  

Golchi ceir
Gafaelwch mewn sbwng sebonllyd a bwced a dechreuwch godi arian.  Â