468883

Sut i gynnwys rhodd

Gall cynnwys rhodd yn eich ewyllys i TÅ· Hafan fod yn syml iawn. Er mwyn eich helpu i wneud hyn, rydym wedi llunio’r wybodaeth hawdd ei dilyn isod. 

Ond cofiwch ein bod ni yma bob amser i chi os oes gennych gwestiwn neu angen rhagor o gefnogaeth. Cysylltwch â’r uwch swyddog codi arian drwy roi mewn ewyllysiau ac er cof ar supportercare@tyhafan.org neu 02920 532 255. 

Sut i gynnwys rhodd

Eich tri cham cychwynnol

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gwasanaeth ysgrifennu ewyllys neu gyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys. Mae hyn yn rhywbeth y gallwch ei wneud am ddim drwy ddefnyddio ein gwasanaethau ysgrifennu ewyllys. Neu gallwch ddod o hyd i gyfreithwyr lleol ar wefan Cymdeithas y Gyfraith. 

Cyn i chi gysylltu â gwasanaeth ysgrifennu ewyllys neu gyfreithiwr, ystyriwch ddilyn y tri cham syml hyn.  Efallai y byddan nhw’n eich helpu i deimlo’n fwy parod am y sgwrs a hwyluso pethau. 

1

Gwnewch restr o'ch asedau a'u gwerth

Bydd y wybodaeth hon yn helpu eich cyfreithiwr yn fawr. Gall eich asedau gynnwys eiddo, cynilion ac eitemau eraill o werth.

2

Gwnewch restr o'ch cyllid sy’n ddyledus

Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth gliriach i chi o werth eich ystad. Ystyriwch eich morgais, benthyciadau ac unrhyw gredyd arall sydd gennych. 

3

Gwnewch restr o'ch buddiolwyr

Gallech gynnwys aelodau o’r teulu, ffrindiau agos ac elusennau yr ydych yn eu cefnogi. Bydd y rhestr hon yn eich helpu i benderfynu sut yr hoffech chi rannu eich ystad.

 

 

Y mathau o roddion y gallwch eu cynnwys yn eich ewyllys

Ar ôl darparu ar gyfer eich anwyliaid, mae yna amryw o ffyrdd o gynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan: 

Cyfran o’ch ystad

Gelwir hwn hefyd yn ‘rhodd weddilliol’ ac mae’n ganran o’ch ystad.

Rhodd penodol

Eitem a enwir yw hwn fel tŷ, gemwaith neu stociau a chyfranddaliadau. 

Rhodd ariannol

Swm penodol o arian yw hwn.

Beth sydd angen i’ch ewyllys ddatgan 

Os ydych chi’n hael ac yn penderfynu cynnwys rhodd yn eich ewyllys i TÅ· Hafan, mae’n bwysig bod y geiriad canlynol yn cael ei ddefnyddio. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o’r wybodaeth isod neu’n ei chad ar eich ffôn er mwyn i chi allu ei basio i’ch cyfreithiwr pan fyddwch yn cyfarfod. 

Os ydych yn cynnwys cyfran o’ch ystad (rhodd weddilliol): 

Rwy‘n cynnwys …… y cant o weddill fy eiddo tirol a phersonol i TÅ· Hafan, Heol Hayes, Sili, CF64 5XX. Rhif elusen gofrestredig 1047912. 

Os ydych yn cynnwys rhodd arian parod (rhodd penodol): 

Rwy’n cynnwys swm gwerth …… (geiriau) o bunnoedd £……. (ffigurau) i TÅ· Hafan, Heol Hayes, Sili, CF64 5XX. Rhif elusen gofrestredig 1047912. 

Os ydych yn cynnwys rhodd arian parod (rhodd ariannol):

Rwy’n cynnwys y swm o …… (geiriau) bunnoedd £……. (ffigurau) i DÅ· Hafan, Heol Hayes, Sili, CF64 5XX. Rhif elusen gofrestredig 1047912.

Os ydych yn gadael rhodd ariannol gysylltiedig â mynegai

Rwy’n gadael y swm mynegrifol o ____________(geiriau) bunnoedd £___________ (ffigurau) i DÅ· Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX. Rhif elusen gofrestredig 1047912

Os ydych chi’n gadael anrheg benodol

Rwy’n gadael fy ____________(eitem) i DÅ· Hafan, Heol Hayes, Sili, CF64 5XX. Rhif elusen gofrestredig 1047912

Os ydych yn diweddaru ewyllys sy’n bodoli eisoes 

Os ydych yn diwygio eich ewyllys, gallwch naill ai ddiddymu eich ewyllys bresennol a gwneud un newydd, neu gallwch ychwanegu diwygiad/au at eich ewyllys bresennol. Mae’r diwygiad hwn yn cael ei alw’n codisil ac mae’n rhaid ei ysgrifennu a’i lofnodi ym mhresenoldeb dau dyst annibynnol. Gall eich cyfreithiwr eich cynghori am beth i’w ddatgan. 

Beth yw treth etifeddiaeth? 

Treth etifeddiaeth yw’r swm o arian y bydd yn rhaid i chi ei dalu i’r llywodraeth o’ch ystad os yw dros werth penodol. 

Drwy adael rhodd yn eich ewyllys i elusen, efallai y byddwch yn gallu lleihau neu ddileu eich atebolrwydd treth etifeddiaeth. Mae rhodd i elusen yn ddi-dreth ac yn cael ei chymryd allan o’ch ystad cyn i’ch treth gael ei chyfrifo.  

Er enghraifft, os byddwch yn gadael 10% o’ch ystad net i elusen, gallwch leihau eich cyfradd treth etifeddiaeth o 40% i lawr i 36%. 

Oes gennych gwestiwn am dreth etifeddiaeth? Rydym yn argymell eich bod yn siarad â’ch  cyfreithiwr neu Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am gyngor a gwybodaeth bellach. 

Ein cynnig ysgrifennu ewyllys am ddim 

Rydym wedi partneru gyda’r Rhwydwaith Genedlaethol Ewyllysiau am Ddim i gynnig cyfle i chi ysgrifennu neu ddiwygio eich ewyllys am ddim. Does dim rheidrwydd i gynnwys rhodd yn eich ewyllys i TÅ· Hafan, ond rydym yn gobeithio y byddwch chi’n ystyried gwneud hyn ar ôl darparu ar gyfer eich anwyliaid. 

 

I wybod mwy

Canllaw rhoddion mewn ewyllysiau 

Dysgwch ragor am sut i ysgrifennu ewyllys, ein cynnig ysgrifennu ewyllys am ddim a’r gwahaniaeth y bydd eich rhodd werthfawr yn ei wneud i fywydau teuluoedd TÅ· Hafan. 

Lawrlwytho eich canllaw heddiw

Here to help

If you have a question you’d like answered, want to know more about our free will writing offer, or would like to receive a physical copy of our free gifts in wills guide, please get in touch.

You can contact Supporter Care at supportercare@tyhafan.org or on 02920 532 255.