Cwestiynau a allai fod gennych

Mae cynnwys rhodd yn eich ewyllys yn ffordd arbennig iawn o helpu i gefnogi plant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd. 

Ond rydym yn gwybod bod yn rhaid ystyried yn ofalus cyn penderfynu gwneud rhywbeth mor hael â hyn. Dyna pam y mae ein tîm arbenigol wedi rhoi atebion i gwestiynau cyffredin a ofynnir am roddion mewn ewyllysiau 

Gift Common Questions

FAQs

Pam mae angen ewyllys arnaf?
Ewyllys yw’r unig ffordd o sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu hanrhydeddu ar ôl i chi farw. Hyd yn oed os oes gennych ewyllys yn barod, gallai newid yn eich amgylchiadau olygu bod angen i chi ei diweddaru i sicrhau y darperir ar gyfer eich anwyliaid yn y modd yr oeddech yn ei ddymuno.
Sut ydw i’n gwneud ewyllys?
Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol pan fyddwch yn paratoi eich ewyllys i sicrhau nad oes unrhyw gymhlethdodau pan gaiff eich ewyllys ei gweithredu. I ddod o hyd i’ch cyfreithiwr agosaf, rydym yn awgrymu eich bod yn mynd i wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr. Rydym hefyd yn cynnig  gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim.
A gaf i ysgrifennu fy ewyllys fy hun?
Gan fod ewyllys yn ddogfen gyfreithiol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ysgrifennu neu’n diwygio eich ewyllys drwy gyfreithiwr cymwysedig neu ysgrifennwr ewyllysiau. Edrychwch ar ein cynigion ysgrifennu ewyllys am ddim.
A yw Tŷ Hafan yn talu am ei gynnig ewyllys am ddim a pham?
Rydym bob amser yn ystyried yn ofalus sut y byddwn yn gwario ein harian a’r incwm posibl y gallai ein gwariant ei greu.   O ran gwasanaethau ewyllys am ddim, mae gennym ffioedd penodol wedi’u cytuno gyda’r Rhwydwaith Genedlaethol Ewyllysiau am Ddim a Farewill. Mae’r ffioedd hyn yn talu i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiwygio ewyllys syml neu bar o ewyllysiau. Gallai Tŷ Hafan dderbyn rhoddion gwerthfawr yn sgil hyn i ariannu ein gwasanaethau sy’n newid bywydau.  Nodwch, os yw eich ewyllys yn gymhleth, y gallai fod angen i chi dalu cost ychwanegol. Mae hyn yn rhywbeth y bydd eich darparwr gwasanaeth ysgrifennu ewyllys neu gyfreithiwr yn ei drafod gyda chi.  
Pam ddylwn i helpu yn hwyrach yn hytrach na nawr?
Rydym yn gwerthfawrogi’r holl gymorth a gawn. Rydym yn gwybod y bydd llawer o deuluoedd i’w helpu yn y dyfodol ac mae rhoddion yn ewyllysiau pobl yn helpu i ddiogelu hirhoedledd ein gofal am flynyddoedd lawer i ddod. 
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ysgrifennu fy ewyllys?
Yn dibynnu ar y gwasanaeth ysgrifennu ewyllys yr ydych wedi ei ddewis, gallai gymryd rhwng munudau ac awr i ysgrifennu eich ewyllys.
Mae gennyf ewyllys yn barod. Sut ydw i’n ei ddiweddaru?

Os oes gennych ewyllys ond eich bod yn dymuno ei newid i gynnwys rhodd i Tŷ Hafan, gallech ei ddiweddaru gan ddefnyddio codisil. Ychwanegiad neu atodiad i’ch ewyllys yw codisil sy’n dirymu neu’n addasu rhan neu’r cyfan ohono. Dylid cadw eich codisil gyda’ch ewyllys bob amser.  

Rydym bob amser yn argymell eich bod yn siarad â chyfreithiwr pan fyddwch yn newid eich ewyllys. 

Sut bydd fy rhodd i Tŷ Hafan yn cael ei ddefnyddio?

Tŷ Hafan yw’r brif elusen yng Nghymru sy’n rhoi gofal a chefnogaeth i blant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd. Heddiw, mae rhoddion a adawyd mewn ewyllysiau yn ariannu 25% o’r gofal a’r gefnogaeth yr ydym yn eu darparu. 

Bydd eich rhodd, boed yn fawr neu’n fach, wir yn helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn. Heb y rhoddion gwerthfawr hyn, ni allem gefnogi cymaint o blant a theuluoedd ag y gwnawn. 
Pa fath o rodd y gallaf ei gadael?

Y prif fathau o roddion y gallwch eu gadael yn eich ewyllys i Tŷ Hafan yw: 

Rhan o’ch ystâd - Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau, gallwch adael gweddill eich ystâd i gefnogi ein gwasanaethau hollbwysig. Gelwir hwn yn rhodd weddilliol.  Rhodd arian parod – Gallwch nodi yr union swm o arian yr hoffech ei roi.  

Rhodd benodol - Gallwch nodi yn eich ewyllys yr hoffech gynnwys eitem benodol yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, er enghraifft gemwaith. 

A oes gennyf ddigon i adael rhodd?
Yn sicr. Rydym yn gwerthfawrogi yr holl roddion, boed yn fawr neu’n fach. Ac mae bob punt yr ydym yn ei derbyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd, yma yng Nghymru. 
A gaf i adael cynnwys fy nhŷ i Tŷ Hafan?

Cewch. Gallwn werthu amryw o eitemau yn ein siopau. Os yw eich eiddo yn arbennig o werthfawr, gallem benderfynu eu gwerthu mewn ocsiwn er mwyn cael y pris gorau amdanynt.  

Os oes gennych eiddo gwerthfawr yr hoffech eu gadael i Tŷ Hafan, byddai o gymorth pe byddech yn eu henwi’n benodol yn eich ewyllys. 

A ddylwn i roi gwybod i Tŷ Hafan os byddaf yn cynnwys rhodd yn fy ewyllys?
Eich dewis chi yw hyn. Eto’i gyd, os byddwch yn rhoi gwybod i ni, bydd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn fwy hyderus. Byddem yn hoffi gallu anfon nodyn i ddiolch i chi am eich haelioni, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwasanaethau gofal.   Gallwch roi gwybod i ni drwy anfon e-bost at Abbie Barton, ein uwch swyddog codi arian rhoddion mewn ewyllys ac er cof ar abbie.barton@tyhafan.org neu 02920 532 255. 
Beth os bydd fy amgylchiadau’n newid?
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, bydd angen i chi ddrafftio ewyllys newydd i ddiwygio neu ddiweddaru eich ewyllys bresennol. Gelwir hwn yn godisil. Bydd y penderfyniadau y byddwch yn eu gwneud yn eich ewyllys newydd yn disodli unrhyw benderfyniadau blaenorol.
Pa fanylion y mae angen i mi eu cynnwys yn fy ewyllys i sicrhau bod Tŷ Hafan yn derbyn fy rhodd?

Sicrhewch eich bod yn cynnwys ein henw llawn a’n cyfeiriad a’r rhif elusen pan fyddwch yn nodi i bwy mae’r rhodd: 

Tŷ Hafan, hosbis plant yng Nghymru, Heol Hayes, Sili, CF64 5XX Rhif Elusen Gofrestredig: 1047912 
A chaiff Tŷ Hafan fod yn ysgutor?
Nid ydym yn gallu gweithredu fel ysgutor ar gyfer eich ystad. Nid oes angen i chi benodi eich cyfreithiwr i weithredu fel ysgutor, gall aelod o’r teulu neu ffrindiau wneud hyn. Argymhellir eich bod yn penodi o leiaf dau ysgutor a’ch bod yn siarad gyda’ch ysgutorion arfaethedig i wneud yn siŵr eu bod yn hapus i wneud hyn.
A fydd gadael rhodd yn effeithio ar dreth etifeddiaeth?

Mae rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan wedi’i esemptio rhag treth etifeddiaeth. Hefyd, o dan rhai amgylchiadau, gallai eich rhodd helpu i leihau cyfanswm y dreth y byddwch yn ei thalu ar eich ystad. Mae hyn yn golygu y gallai eich buddiolwyr eraill dderbyn mwy. 

Rydym bob amser yn argymell eich bod yn trafod treth etifeddiaeth a materion eraill ynghylch eich ewyllys gyda’ch darparwr ysgrifennu ewyllys neu gyfreithiwr.  

Ein canllaw am ddim i adael rhodd 

Rydym wedi creu canllaw defnyddiol i gynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan. Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am sut i ysgrifennu ewyllys, ein gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim a sut y bydd eich rhodd werthfawr yn helpu i wella bywydau ifanc. 

 

 

Lawrlwytho ein canllaw rhoddion mewn ewyllysiau heddiw

Yma i helpu  

Os oes gennych chi gwestiwn yr hoffech ateb iddo, os ydych eisiau gwybod mwy am ein cynnig ysgrifennu ewyllys am ddim, neu os hoffech gael copi ffisegol o’n canllaw rhoddion mewn ewyllysiau, cysylltwch â ni.  

Gallwch gysylltu ag Abbie Barton, ein uwch swyddog codi arian drwy roddion mewn ewyllysiau ac er cof ar abbie.barton@tyhafan.org neu 02920 532 255.