Rhoi eich eitemau ail-law

Os ydych yn awyddus i roi eitemau ail-law i siop Tŷ Hafan, diolch yn fawr iawn. Bydd eich haelioni wir yn helpu bywyd byr i fod yn fywyd llawn.

Er mwyn ein helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich rhoddion, darllenwch y canllawiau isod. Drwy ddilyn y canllawiau hyn, gallwch arbed amser ac arian gwerthfawr i ni

Rhoi nwyddau

Y ffordd gywir o roi eitemau a sut i newid rhagor o fywydau

 

  1. Dewch o hyd i’r mathau o eitemau rydych yn awyddus i’w rhoi yn y rhestr isod. 
  2. Darllenwch ein canllawiau am y mathau o eitemau y gallwn eu derbyn a’r eitemau na allwn eu derbyn, yn ogystal â’r eitemau y gallwn eu hailgylchu i godi arian. 
  3. 3. Darllenwch a dilynwch ein hawgrymiadau defnyddiol cyn rhoi. Bydd hyn yn ein helpu i brosesu a gwerthu eich eitemau’n gyflymach, gan arbed amser ac arian gwerthfawr i ni.  
  4. Dewch o hyd i’r siop Tŷ Hafan agosaf a’i hamserau agor gan ddefnyddio ein hadnodd chwilio. Mae gennym 18 o siopau ledled de a gorllewin Cymru. 
  5. Ffoniwch eich siop Tŷ Hafan leol er mwyn sicrhau ei bod yn derbyn rhoddion ar hyn o bryd. Dim ond ychydig o le sydd gennym yn ein siopau, sy’n golygu weithiau bod yn rhaid i ni roi’r gorau i dderbyn eitemau am gyfnod byr. 
  6. Ewch i’ch siop Tŷ Hafan leol, cwrdd â’n staff a’n gwirfoddolwyr cyfeillgar, a rhowch eich eitemau.
  7. Os ydych yn drethdalwr yn y DU, cofiwch y gallwch ddefnyddio Cymorth Rhodd i roi hwb enfawr o 25% i werth eich rhodd. Cofrestrwch ar-lein nawr, holwch am Gymorth Rhodd yn eich siop Tŷ Hafan leol, neu dangoswch eich cerdyn rhoddwr Cymorth Rhodd os ydych eisoes wedi cofrestru.
  8. Eisteddwch yn ôl a theimlwch yn falch eich bod wedi gwneud rhywbeth gwych i gefnogi plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd ac i amddiffyn ein planed.

Helpu i achub yr amgylchedd 

Drwy roi eich eitemau ail-law yn un o’n siopau, byddwch yn helpu i amddiffyn ein planed heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hynny oherwydd, bob blwyddyn, mae ein 18 o siopau yn atal swm mawr o wastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi a niweidio’r amgylchedd. 

 

 Bob blwyddyn rydym yn ailgylchu

95

o dunelli o decstilau

18

o dunelli o esgidiau a bagiau

42

o dunelli o lyfrau

 Rhowch hwb o 25% i’ch rhodd gyda Chymorth Rhodd 

Wyddech chi fod Cymorth Rhodd yn cynyddu rhoddion ariannol 25%? Gallwch hefyd ddefnyddio’r cynllun hawdd ei ddefnyddio i gynyddu gwerth yr eitemau rydych yn eu rhoi i’n siopau. 

Er mwyn dechrau gwneud hyn, cwblhewch ein ffurflen gofrestru Cymorth Rhodd syml heddiw. Dylai ond cymryd munud. Fel arall, gallwch gofrestru ar gyfer Cymorth Rhodd yn eich siop Tŷ Hafan leol pan fyddwch yn rhoi eich eitemau. 

Ewch i’ch siop Tŷ Hafan leol 

Mae gennym 18 o siopau lleol ledled de a gorllewin Cymru sy’n llawn bargeinion gwych. 

I weld pa un o’n siopau sydd agosaf atoch chi, defnyddiwch ein hadnodd Dewch o hyd i’ch siop leol agosaf.

Gwnaed â Llaw gan Tŷ Hafan

Prynwch eitemau a grëwyd a chariad neu ymunwch â’n gwirfoddolwyr i greu cynnyrch newydd i godi arian.