Rhowch rodd gofalu 

Os ydych am roi rhodd wirioneddol ysbrydoledig a chofiadwy i rywun annwyl, beth am un o’n rhoddion gofalu. 

Maent yn ddewis amgen gwych i rodd arferol, oherwydd maent wir yn helpu y plant rydym yn eu cefnogi i gael hwyl, i gyfathrebu ac i fagu hyder. 

Anrhegion Gofalgar

Sut i roi rhodd gofalu

1

Dewis eich rhodd

Ewch ati i ddewis pa rodd yr hoffech ei phrynu i gefnogi plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.

2

Lawrlwytho eich cerdyn rhodd

Gallwch lawrlwytho eich cerdyn rhodd i gyfrifiadur neu ddyfais arall yn hawdd.

3

Anfon eich cerdyn rhodd

Ewch ati i e-bostio eich cerdyn rhodd, neu ei argraffu a’i anfon â llaw i aelod o’r teulu neu ffrind.

4

Gwneud bywyd byr yn fywyd llawn

Gallwch deimlo’n falch eich bod wedi rhoi rhodd a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deulu Tŷ Hafan.

Dewiswch rodd a fydd yn newid bywydau

Noder: ni allwn drosglwyddo eich rhodd i blentyn penodol. Fodd bynnag, gallwn eich sicrhau y bydd eich haelioni yn helpu i greu atgofion hapus sy’n para am oes. Diolch i chi am eich cefnogaeth.

Rhoi rhodd er cof 

Mae ein rhoddion gofalu yn ffordd hyfryd o gyfrannu er cof am rywun annwyl. Os hoffech i ni bersonoli eich rhodd a’i hanfon atoch chi neu at rywun arbennig, anfonwch eich neges e-bost i gadarnhau a’r manylion perthnasol i supportercare@tyhafan.org. Bydd ein tîm yn fwy na pharod i’ch helpu chi. 

 

Dysgwch fwy am roi er cof a chofio am rywun annwyl