Ennill gyda Tŷ Hafan! 

Mae ein loteri boblogaidd iawn, Crackerjackpot, yn ffordd wych o ennill miloedd o bunnoedd a chefnogi ein gwasanaethau sy’n newid bywydau.  

Dim ond £1 yw cost pob cyfle i ennill. Mae 81 o wobrau wythnosol wedi eu gwarantu i’w hennill ac mae cymryd rhan wir yn ein cynorthwyo i gyrraedd a chefnogi mwy o deuluoedd ledled Cymru 

Chwaraewch heddiw am gyfle i ennill
Loteri

£12,000

Jacpot gwerth

Os na chaiff ein jacpot ei ennill, bydd £500 yn cael ei ychwanegu ato bob wythnos tan ei fod wedi cyrraedd £12,000, pan fo’n rhaid i rywun ei ennill

£2,000

Rhaid ennill £2,000 bob wythnos

Bob wythnos, heb ffael, mae’n rhaid i un person lwcus ennill ein gwobr jacpot gwych gwerth £2,000.

80

arall o wobrau wythnosol wedi’u gwarantu

20 x £10 o ail wobrau a 60 x £5 o drydedd wobrau. Bob wythnos. 52 wythnos y flwyddyn. Mwynhewch!

Sut mae’n gweithio 

  1. Dewiswch faint o geisiadau £1 bob wythnos yr hoffech eu chwarae.
  2. Llenwch eich manylion personol a’ch manylion talu ar ein ffurflen ddiogel.
  3. Fe wnawn ni gadarnhau eich rhifau loteri a’ch cais drwy’r post.
4. Croeswch eich bysedd ac edrychwch i weld a ydych wedi ennill.
5. Os ydych chi’n enillydd, fe anfon ni siec i chi drwy’r post.
Chwaraewch nawr i ennill

Sut ydym ni’n helpu

Yn Tŷ Hafan, rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol i blant a phob ifanc â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u hanwyliaid.

Gofal a chymorth arbenigol sy’n gwella bywydau ac yn helpu teuluoedd yn fawr i gael llawer o brofiadau hapus gyda’i gilydd. 

Sut gallwch chi ein helpu ni

O chwarae ein loteri, Crackerjackpot, i roi rhodd, i drefnu digwyddiad codi arian, mae llawer o ffyrdd o gefnogi ein gwaith hanfodol. Felly, gwnewch wahaniaeth heddiw.

Beth bynnag fyddwch chi’n ei ddewis, bydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn. 

Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Cymerwch olwg ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.