Ein stori 

Ar ôl 11 mlynedd o godi arian, agorodd Tŷ Hafan yn 1999 ac ar unwaith dechreuodd roi gobaith, cysur a chefnogaeth werthfawr i deuluoedd yng Nghymru. 

Mae ein stori arbennig yn un o garedigrwydd anhygoel, gwaith caled parhaus ac ymroddiad llwyr i ddod â hapusrwydd a llawenydd i fywydau’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi. 

Ein stori

Ein sylfaenydd ysbrydoledig  

Yn 1988, roedd Suzanne Goodal newydd ymddeol ac yn meddwl tybed sut y byddai hi’n llenwi ei hamser. Wedi iddi glywed am brofiad ffrind iddi yn gwirfoddoli i hosbis blant yn Swydd Efrog, dechreuodd Suzanne ar daith a fyddai yn newid ei bywyd hi a bywydau plant a theuluoedd yng Nghymru am byth. 

Daeth Suzanne i wybod, gan nad oedd hosbis i blant yng Nghymru, bod yna lawer o blant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau nad oedd yn cael y gofal yr oedd ei angen arnyn nhw neu eu teuluoedd. 

Yn benderfynol o newid hyn, lansiodd Suzanne ymgyrch codi arian i agor hosbis i blant yn ne Cymru. Diolch i haelioni’r cyhoedd, gwireddwyd gweledigaeth Suzanne yn 1999, pan agorwyd y drysau i’n hosbis am y tro cyntaf. 

Ers hynny, mae’r gwaith caled yn Tŷ Hafan wedi parhau. Gan fod Suzanne wedi bod mor ymrwymedig, penderfynol a charedig, mae hyn wedi ein hysbrydoli i wneud popeth y gallwn i gyrraedd a chefnogi pob plentyn, person ifanc a theulu sydd ein hangen ni. 

Nid oedd gen i yr un amheuaeth y byddai pobl Cymru, o ddeall y sefyllfa yr oedd y plant a’r teuluoedd hyn yn ei hwynebu, yn agor eu calonnau ac yn rhoi yn hael. Yn wir, roedd fy ffydd yn gwbl gyfiawn.

- Suzanne Goodall, Sylfaenydd TÅ· Hafan

An inspirational message from our founder Suzanne Goodall

 

Ein llinell amser 

Ers ein sefydlu yn 1990, rydym wedi gweithio’n galed i barhau i ddatblygu ein helusen a’n gwasanaethau er mwyn gallu bodloni holl anghenion plant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau a’u teuluoedd. 

 Cofrestru Tŷ Hafan fel elusen a lansio ymgyrch i godi arian yng Nghastell Caerdydd.

Cael safle yn Sili i adeiladu ein hosbis. 

South Wales Echo yn lansio ei Apêl Tŷ Hafan.

Diana, Tywysoges Cymru, yn dod yn noddwr Tŷ Hafan. 

Ein siop elusen gyntaf un yn agor ym Mhontypridd. 

Luciano Pavarotti yn cynnal cyngerdd yng Nghaerdydd i godi arian i TÅ· Hafan.

Dechrau adeiladu ein hosbis.

Dechrau gosod offer a chyfarpar yn adeilad ein hosbis.

Cynnal ein loteri a’r Her 3 Chopa Cymru am y tro cyntaf.

 Agor drysau ein hosbis i deuluoedd cyntaf Tŷ Hafan.

Ei Fawrhydi Tywysog Cymru yn dod yn noddwr ac yn ymweld â’n hosbis am y tro cyntaf. 

Sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael saith diwrnod yr wythnos.

Suzanne Goodall, sylfaenydd TÅ· Hafan yn derbyn MBE yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Ehangu ein tîm Cymorth i Deuluoedd. 

Lansio’r grŵp sgowtiaid cyntaf erioed ar gyfer hosbis yng Nghymru.

Ailfrandio ein hunain a dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed. 

BBC Cymru yn sgrinio rhaglen ddogfen pedair rhan am Tŷ Hafan o’r enw Beautiful Lives.

Creu ein hadran Addysg ac Ymchwil.

Derbyn gwobr fawreddog am ein gwasanaethau gofal gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.

 Adeiladu cyfleuster newydd yn ein hosbis sy’n golygu y gallwn ddarparu hyfforddiant yn y safle i’n holl weithwyr gofal proffesiynol a chynnig llety i’n staff prif swyddfa yn Sili.

 Dathlu ein pen-blwydd yn 15 oed ac agor ein pwll therapi dŵr sydd o’r radd flaenaf yn y byd a’n lle chwarae cwbl hygyrch yn ein hosbis.

 Cegin ein hosbis yn cael adnewyddiad mawr gwerth £140,000. 

Uwchraddio ein hystafell chwarae i’r synhwyrau i fod o’r radd flaenaf yn y byd.

Suzanne Goodall, sylfaenydd Tŷ Hafan yn marw yn 95 oed. 

Dathlu ein pen-blwydd yn 20 oed.

Sut rydym yn helpu

Yn Tŷ Hafan, rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau, gan gefnogi a chynnig tosturi i’w hanwyliaid. Mae’r gofal a’r gefnogaeth arbenigol hyn yn gwella eu bywydau yn aruthrol, yn cynnig ffynhonnell o gryfder ac yn helpu teuluoedd i greu llawer o atgofion hapus gyda’i gilydd. 

Sut gallwch chi ein cefnogi

Gallwch roi rhodd, trefnu digwyddiad codi arian neu ddod yn wirfoddolwr. Mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi ein gwaith hollbwysig, felly gwnewch wahaniaeth heddiw. Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud, bydd yn helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn. 

Cefnogwch ni heddiw, cyfrannwch nawr.

Drwy roi anrheg werthfawr heddiw, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol y mae teuluoedd eu hangen ar frys ar hyn o bryd.

£10 £40 £60
G Pay logo visa logo visa logo