663846

Ein bwrdd a’n tîm gweithredol

Ein bwrdd o ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am reolaeth cyffredinol a chyfeiriad strategol Tŷ Hafan. Maent yn cwrdd yn rheolaidd i adolygu ein strategaethau a’n polisïau ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan ein tîm gweithredol.  

Mae ein ymddiriedolwyr yn gweithio i Tŷ Hafan ar sail wirfoddol ac maent yn gwbl ymroddedig i’n helpu ni  i wella bywydau pobl â chyflyrau sy’n byrhau bywydau a’u teuluoedd yng Nghymru. 

our-board-and-executive-team

Aelodau ein bwrdd 

Martin Davies new

Martin Davies

Cadeirydd

Mae Martin wedi treulio dros 20 mlynedd yn gweithio gyda manwerthwyr mawr a chwmnïau gwasanaethau ariannol, gan eu cynghori ar gynllunio dosbarthiad manwerthu a strategaeth farchnata. Martin yw cadeirydd  Crackerjackpot Limited hefyd, sy’n cefnogi Tŷ Hafan ac achosion da eraill drwy gynnal gwasanaethau loteri. 
Dr Keith Holgate

Dr Keith Holgate

Ymddiredolwr

Gweithiodd Keith fel meddyg teulu yn y Barri am 36 o flynyddoedd, tan iddo ymddeol yn 2016. Roedd yn gyfrifol hefyd am hyfforddi meddygon teulu, gan arbenigo ym maes meddygaeth anadlol. Keith yw meddyg y dorf ar gyfer Clwb Pêl-droed Caerdydd, swydd y mae wedi’i chyflawni ers sawl blwyddyn.   
James-Pepper-Ty-Hafn-trustee

James Pepper

Ymddiriedolwr

James yw prif swyddog gweithredol Vista, cwmni gwasanaethau technoleg a’i brif swyddfa yng Nghymru. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cefnogaeth dechnoleg allweddol busnes ac mae wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau i’w helpu i ddiffinio a gweithredu strategaethau technoleg. 
Sian-Thomas

Sian Thomas

Ymddiriedolwr

Sian yw’r unig nyrs ymgynghorol ar gyfer plant yng Nghymru ac mae hi wedi ei lleoli ym Mwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae ei swydd yn cynnwys gwella gofal cleifion trwy ddatblygu gwasanaethau, ymchwil, addysg a strategaeth. Mae Sian wedi bod â chysylltiad cryf â Tŷ Hafan trwy gydol ei gyrfa. 
Michael McGuire

Michael McGuire

Ymddiriedolwr

Ymunodd Mick â bwrdd Tŷ Hafan yn 2021, yn dilyn ei ymddeoliad o Lywodraeth Cymru, lle’r oedd yn gyfarwyddwr twf a datblygiad economaidd. Cyn hyn, bu Mick yn gweithio am 30 mlynedd mewn gwasanaethau ariannol, gan ddal nifer o swyddi uwch yng Nghymdeithas Adeiladu Principality. 
Dr Helen Matthews

Dr Helen Matthews

Ymddiriedolwr

O 1998 tan iddi ymddeol yn 2019, roedd Helen yn feddyg seiciatryddol ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hi’n arbenigwr mewn salwch meddwl cymhleth, awtistiaeth ac anableddau dysgu. Bu Helen yn is-lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac yn uwch ddarlithydd yn Ysgol Feddygol Abertawe. 
John Hoskinson

John Hoskinson

Ymddiriedolwr

Wedi ei eni yn Lerpwl dewisodd John yrfa yn y Fyddin. Aeth ymlaen i raddio gyda BSc (Anrh) mewn Peirianneg Sifil ac ymddeolodd fel Brigadydd yn 2005 fel Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol. “Roeddwn yn awyddus i barhau i ymwneud â’r sector elusennol ac roeddwn wrth fy modd i ymuno â Thŷ Hafan a oedd, fel rhiant mewn profedigaeth fy hun, yn arbennig o berthnasol.”
Susan Cooper

Susan Cooper

Ymddiriedolwr

Mae Sue yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig proffesiynol gyda 36 mlynedd o brofiad o weithio mewn llywodraeth leol. Mae hi wedi gweithio ar draws yr holl ddisgyblaethau ym maes gofal cymdeithasol. Cyn iddi ymddeol yn 2020 roedd Sue yn gyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdod yn ne Cymru. Mae Sue wedi arwain nifer o raglenni partneriaeth ac integreiddio mawr yn ogystal â chyflawni trawsnewid sylweddol.
Matt Sinnott

Matt Sinnott

Trustee

Ein tîm gweithredol 

Jason Foster

Jason Foster

munodd Jason â Thŷ Hafan ym mis Mehefin 2017 ac mae’n arwain ein swyddogaeth gwasanaethau cyllid a chymorth, ac mae’n gweithredu fel ein Prif Weithredwr interim ar hyn o bryd. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn swyddi cyllid uwch ar draws ystod o sectorau. Mae Jason hefyd yn rhedwr brwd ac wedi cwblhau marathonau ac ultra-marathons i godi arian i’n helusen.
john-mladenovic

John Mladenovic

Cyn ymuno â ni yn 2013, cafodd John brofiad o farchnata digidol ac uniongyrchol ar draws ystod amrywiol o sectorau. I ddechrau, roedd yn gyfrifol am ein loteri Crackerjackpot, ond mae hefyd wedi ymgymryd â sawl swydd arall yn ein helusen. Ym mis Mehefin 2021, penodwyd John i’w swydd bresennol. 

Sian Middleton

Ymunodd Sian â Tŷ Hafan yn 2022, gan gamu i fyny i swydd cyfarwyddwr nyrsio a gwasanaethau clinigol, a chafodd ei phenodi yn gynnar yn 2023. Mae gan Sian radd dosbarth cyntaf mewn nyrsio (BN) a bydwreigiaeth (BMid) a gyrfa lwyddiannus ym maes gofal clinigol. Hi yw arweinydd clinigol y gwasanaethau nyrsio a chymorth gofal iechyd i blant ag anghenion gofal arbenigol a chymhleth.
Tracy Jones

Tracy Jones

Ymunodd Tracy â Tŷ Hafan yn 2009 fel uwch ymarferydd yn y tîm cymorth i deuluoedd, wedi treulio 15 mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol mewn awdurdod lleol yn Swydd Efrog ac wedyn yn Rhondda Cynon Taf. Ymunodd Tracy â’r uwch dîm rheoli gofal yn 2015 cyn ymgymryd â’i swydd weithredol newydd yn 2022 ac mae hi’n edrych ymlaen at ymestyn cyrraedd ac effaith y gwasanaeth cymunedol y mae Tŷ Hafan yn ei gynnig, gan sicrhau y gall teuluoedd gael cymorth gofal lliniarol ystyrlon lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru.
zoe-tippins

Zoe Tippins

Ymunodd Zoe â’r tîm adnoddau dynol yn Tŷ Hafan yn 2015 a chafodd ei phenodi i’r tîm gweithredol fel cyfarwyddwr gwasanaethau pobl ym mis Hydref 2021. Mae hi’n aelod siartredig o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad ac mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad o reoli adnoddau dynol. 
Jenna Lewis

Jenna Lewis

Ymunodd Jenna â Tŷ Hafan fel Cyfarwyddwr Creu Incwm ym mis Ebrill 2022, wedi gweithio cyn hynny yn yr elusen yn y Tîm Rhoi gan Unigolion. Mae hi’n aelod o’r Sefydliad Codi Arian Siartredig ac mae hi wedi gweithio mewn swyddi codi arian a chyfathrebu i amrywiaeth o elusennau. Mae Jenna yn angerddol dros ddarparu’r profiad gorau posibl i’n cefnogwyr, gan hefyd godi arian i gefnogi teuluoedd yng Nghymru.

Ein dogfennau a’n adroddiadau 

Gallwch ddarllen neu lawrlwytho dogfennau allweddol Tŷ Hafan, gan gynnwys ein hadroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r adroddiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru am ein gofal clinigol a’n gwasanaethau cefnogaeth 

I wybod mwy