714624

Ein Llysgenhadon

Drwy feithrin cydberthnasau i godi arian a chodi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau ar raddfa leol a chenedlaethol, mae ein Llysgenhadon yn hanfodol i ddyfodol Tŷ Hafan.

Maent yn dod o ystod eang o ddiwydiannau a chefndiroedd, ac maent yn rhoi eu hamser i gyd am ddim i gefnogi ein gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch ddod yn Llysgennad Cymunedol neu’n Llysgennad Enwog, ffoniwch ni ar 029 2053 2271 neu e-bostiwch john.lowes@tyhafan.org.

Our Ambassadors

Llysgenhadon Cymunedol

Ein huchelgais yw cyrraedd pob plentyn yng Nghymru sy’n byw bywyd byr a’i deulu y mae angen ein cymorth arnynt.
Er mwyn gwneud hyn, mae angen pobl o bob cefndir arnom i godi ymwybyddiaeth o Tŷ Hafan a hybu ymdrechion i godi arian mewn cymunedau ledled Cymru.

 

Community Ambassador

Llysgenhadon Enwog

Mae llawer o enwogion wedi cefnogi Tŷ Hafan ers 1999 i’n helpu i gynnig cysur, gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, a’u teuluoedd.

Drwy fod yn wyneb yr ymgyrch, ein helpu i ddathlu’r garreg filltir, mynd i ddigwyddiad, neu roi dyfyniad neu ffotograff, maent yn helpu Tŷ Hafan i gyrraedd a chysylltu â miloedd o bobl.

Celebrity Ambassadors

Llysgenhadon Corfforaethol

Lloyd Davies, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfreithwyr Eiddo Casnewydd, Convey Law, yw Llysgennad Corfforaethol cyntaf Tŷ Hafan.

Mae’r swydd yn cydnabod y gefnogaeth y mae cwmni Mr Davies, sef Convey Law, wedi’i rhoi i’r hosbis plant dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Corporate Ambassadors