Llysgenhadon Enwog 

Mae nifer o enwogion wedi cefnogi Tŷ Hafan ers 1999 i’n helpu ni i gynnig cysur, gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd. 

Drwy fod yn wyneb ymgyrch, ein helpu i ddathlu carreg filltir, mynychu digwyddiad neu dim ond trwy roi dyfyniad neu lun, maent yn helpu Tŷ Hafan i gyrraedd a chysylltu â miloedd o bobl. 

I gael gwybod mwy am sut gallwch chi ddod yn Llysgennad Enwog, ffoniwch ni ar 07917 436033 neu e-bostiwch sarah.roberts@tyhafan.org 

Llysgenhadon Enwog

Ein llysgenhadon enwog presennol 

Michael Sheen 

Ymunodd yr actor a’r seren Hollywood Michael Sheen gyda Tŷ Hafan fel Llysgennad ym mis Hydref 2021. 

Gwnaeth Michael, sy’n dad i Lily, sy’n 22 oed, a Lyra, sy’n ddwy oed, ymweld â’r hosbis am y tro cyntaf y mis hwnnw pan gyfarfu â rhai o’r plant dan ein gofal yn ogystal â nifer o staff Tŷ Hafan. 

Mae’r actor ffilm a theledu o fri, a gafodd ei eni yng Nghasnewydd a’i fagu ym Maglan, yn edrych ymlaen at ymweld eto yn y dyfodol agos – os bydd Covid yn caniatáu – i gwrdd â mwy o’n plant a’n teuluoedd. 

Mae Michael, sydd wedi ennill gwobrau lu – a’i rolau ffilm yn cynnwys chwarae’r gwleidydd Tony Blair, yr actor comig Kenneth Williams, y cyflwynydd teledu David Frost a’r rheolwr pêl-droed Brian Clough – ar hyn o bryd ar restr fer Gwobr BAFTA Cymru am ei rôl fel y cyflwynydd Chris Tarrant yn y ddrama deledu ‘Quiz’. 

Pob lwc, Michael – gobeithio y bydd cydnabyddiaeth ffurfiol i dy dalent anhygoel. 

“Mae hosbis blant Tŷ Hafan yn rhoi gofal a chefnogaeth i gannoedd o blant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd yng Nghymru bob blwyddyn a byddaf yn gwneud yr hyn a allaf i’w cefnogi, gan gynnwys eu helpu i ledaenu’r gair am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud yn eu hosbis yma yn Sili a chymunedau ledled Cymru.” 

 

Leigh Halfpenny

Yn seren rygbi Cymru a’r Llewod, daeth Leigh yn Llysgennad Elusennol dros Tŷ  Hafan ym mis Tachwedd 2013. Ers hynny, daeth Leigh ar ei ymweliad cyntaf â’n hosbis ym mis Rhagfyr, gan ymuno â phlant a theuluoedd wrth iddynt fwynhau dathliadau a gemau Nadoligaidd. Yn yr un mis, daeth Leigh yn ail yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar ôl ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru yn 2013. Llongyfarchiadau! 

“Mae Tŷ Hafan yn un elusen roeddwn i’n gyffrous iawn am ei helpu a bod yn rhan ohoni. Roedd yn ddewis amlwg i mi. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yma yn anhygoel.” 

SuperTed yn ymuno â thîm Tŷ Hafan 

Ymunodd SuperTed â Thîm Tŷ Hafan fel llysgennad enwog ym mis Ebrill 2022.  Crëwyd SuperTed yng Nghymru a syniad Mike Young, y cynhyrchydd sydd wedi ennill gwobr Emmy a BAFTA Cymru. Bydd SuperTed yn defnyddio ei bwerau fel archarwr i helpu i gefnogi meithrinfeydd ac ysgolion cynradd gyda’u gweithgareddau codi arian. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Tŷ Hafan ar Ddiwrnod Cenedlaethol yr Uwcharwyr ar 28 Ebrill 2022 a bydd SuperTed hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth hanfodol am y gofal a’r gefnogaeth yr ydym yn eu darparu i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, a’u teuluoedd yng Nghymru, yn ein hosbis yn Sili ac mewn cartrefi a chymunedau ledled Cymru. 

“Mae SuperTed yn dedi bêr bach dewr sydd yn digwydd bod ag uwchbwerau ar ôl dechrau anodd i fywyd,” meddai Mike. “Mae e hefyd yn Gymro i’r carn – ac felly hefyd hosbis blant Tŷ Hafan. Felly rwy’n falch iawn bod SuperTed bellach yn ymuno gyda thîm Tŷ Hafan fel un o lysgenhadon enwog yr hosbis ac, wrth iddo hedfan o amgylch Cymru bydd yn rhannu gwybodaeth am Tŷ Hafan ac rwy’n gobeithio y bydd yn mynd â gwaith hanfodol yr hosbis i genedlaethau newydd.” 

Dywedodd Francesca O’Keeffe, Cyfarwyddwr Abbey Broadcast Communications, sydd bellach yn berchen ar ganran o’r hawliau i SuperTed: “Rwy’n credu ei bod yn hollol anhygoel beth mae hosbis blant Tŷ Hafan yn ei wneud. Rwy’n gwybod beth yw’r effaith gadarnhaol y gall cymeriad fel SuperTed ei gael ym myd plentyn.” 

Rhodri Owen

Mae’r cyflwynydd teledu a radio Rhodri yn wyneb a llais cyfarwydd i nifer ohonom. Yn ogystal â bod yn brif lais i Radio Wales, mae wedi cyflwyno rhaglenni fel Short Change ar BBC1, Britain’s Dream Homes ar BBC2 a Wish You Were Here ar ITV…? Yn briod â’i gyd-lysgennad elusennol dros Tŷ Hafan, Lucy Owen, mae Rhodri wedi ein cefnogi mewn sawl ffordd ers 2007, gan gynnwys cynnal ein cyngerdd carolau Nadolig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.