Gadewch i ni ddefnyddio eich arian i newid bywydau 

Diolch enfawr am eich holl waith caled trwy gydol eich cyfnod o godi arian. Nawr, gadewch i ni drefnu i symud yr arian yr ydych wedi ei godi i ni er mwyn i ni allu dechrau cefnogi ein teuluoedd Tŷ Hafan anhygoel.  

Y ffordd orau a’r modd cyflymaf o dalu eich arian i mewn yw trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein isod. Ond cewch ei dalu i mewn yn eich banc lleol, gan ddefnyddio bancio ar-lein neu drwy’r post.  

pay-in-funds-raised-hero

Y ffordd gyflymaf o gael eich arian i ni 

I dalu eich arian i ni mewn dwy funud, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw 

1

Nodi’r swm yr ydych wedi ei godi a’ch manylion personol 

2

Dewis sut yr ydych yn mynd i dalu eich arian i mewn, e.e. cerdyn debyd. 

3

Rhoi eich manylion talu gan ddefnyddio’r ffurflen ddiogel.

4

Adolygu’r holl wybodaeth yr ydych wedi ei nodi. 

Rhowch hwb i’ch gwaith codi arian gyda Cymorth Rhodd

Yn Tŷ Hafan, rydym ni wrth ein bodd â Cymorth Rhodd. Mae hyn oherwydd ei fod yn rhoi 25c ychwanegol i ni gan y llywodraeth am bob £1 y bydd rhywun yn eich noddi chi.  

I sicrhau ein bod yn derbyn yr hwb gwerthfawr hwn, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw:

Annog pobl sy’n eich noddi chi ac sy’n talu treth incwm i dicio’r blwch Cymorth Rhodd ar ein ffurflen noddi.

Gofyn i bob noddwr ysgrifennu ei enw llawn, llinell gyntaf cyfeiriad y cartref a’r cod post ar eich ffurflen noddi.

Anfon eich holl ffurflenni noddi yn ôl atom, sut bynnag y byddwch wedi talu i mewn yr arian a godwyd gennych: Gofal i Gefnogwyr, Tŷ Hafan, Heol Hayes, Sili CF64 5XX

Os oes gennych gyfeirnod cefnogwr, nodwch hwn gyda’ch ffurflenni codi arian. 

Unrhyw gwestiynau? 

darllenwch ein canllaw syml i Cymorth Rhodd

Ffyrdd eraill o dalu eich arian i mewn 

Trwy’r post

Os byddai’n well gennych anfon yr arian yr ydych wedi’i godi atom drwy’r post, gwnewch y canlynol:  

  1. Mewn amlen, rhowch ddarn o bapur sy’n dangos eich enw, manylion cyswllt, cyfeirnod cefnogwr (os oes gennych chi un) a disgrifiad byr o sut yr ydych wedi codi’r arian yr ydych yn ei anfon.
  2. Gwnewch eich sieciau yn daladwy i Tŷ Hafan a’u rhoi yn eich amlen.
  3. Cynnwys unrhyw ffurflenni noddi a ddefnyddiwyd wrth godi arian.
  4. Anfon popeth i Tŷ Hafan, Heol Hayes, Sili, CF64 5XX

Yn eich banc lleol

Os ydych yn byw yn y DU, gallwch anfon eich arian drwy unrhyw fanc HSBC am ddim – efallai bydd banciau eraill yn codi ffi. 

Os hoffech anfon yr arian i ni fel hyn, dilynwch y camau canlynol:  

  1. Ffoniwch ni ar 029 2053 2255 neu anfonwch e-bost i supportercare@tyhafan.org a rhowch eich enw llaw a’ch cyfeiriad.
  2. Byddwn yn rhoi ein manylion banc i chi a chyfeirnod i’w ddefnyddio wrth dalu eich arian i mewn. 
  3. Ewch i’ch banc lleol gyda’r arian yr ydych wedi ei godi a defnyddiwch y manylion banc a’r cyfeirnod wrth ei dalu i mewn.

Defnyddio bancio ar-lein

Dilynwch y camau canlynol i drosglwyddo y cyfanswm yr ydych wedi ei godi yn uniongyrchol i’n cyfrif banc.  

  1. Ffoniwch ni ar 029 2053 2255 neu anfonwch neges e-bost i supportercare@tyhafan.org a rhowch eich enw llawn a’ch cyfeiriad.
  2. Byddwn yn rhoi ein manylion banc i chi a chyfeirnod i’w ddefnyddio pan fyddwch yn talu eich arian ar-lein. 
  3. Mewngofnodwch i’ch cyfrif banc ar-lein a defnyddiwch ein manylion banc ni a’r cyfeirnod wrth dalu eich arian.

Noder: i wneud yn siŵr na fyddwch ar eich colled, bydd yn rhaid i chi dalu’r arian yr ydych wedi ei godi i mewn i’ch cyfrif banc personol. Gallech wneud hyn cyn neu ar ôl trosglwyddo’r swm hwnnw i Tŷ Hafan 

The shortcode is missing a valid Donation Form ID attribute.