Rhoddion cylchol

Trwy roi rhodd cylchol, byddwch yn helpu i ariannu gofal a chymorth hanfodol, pan fo ei angen fwyaf, yn ein hosbis ac mewn cartrefi a chymunedau ledled Cymru.

Rhoi rhodd cylchol
Nursing Jobs Ty Hafan

Bob mis, gallwch weddnewid bywydau ifanc  
a helpu i greu atgofion gwerthfawr. 

£3

Gallai £3 y mis helpu tri phlentyn i fwynhau sesiwn chwarae creadigol gyda’u teuluoedd.  

Mae’r sesiynau awr o hyd hyn yn llawn hwyl, yn wych ar gyfer magu hyder plentyn ac yn berffaith ar gyfer creu atgofion am byth. 

£5

Gallai £5 y mis helpu plentyn i gymryd rhan mewn sesiwn therapi cerdd gartref.  

Mae’r sesiynau hyn yn rhoi i blant sy’n cael trafferth cyfathrebu llawer o hwyl, cyfle i ymlacio ac anghofio am y cyflwr a modd o fynegi ei hun. 

£10

Gallai £10 y mis helpu pedwar plentyn fwynhau therapi cyflenwol. 

Mae therapïau fel adweitheg yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ein plant, oherwydd eu bod yn helpu i leddfu straen a rheoli eu symptomau 

Rhoddion Cylchol

Pam mae rhoddion misol yn wych i chi 

1

Lledaenu eich rhoddion

Mae rhoi rhodd bob mis yn gallu bod yn llawer haws i chi ei reoli yn ariannol na rhoi un rhodd fwy.

2

Cyfleus iawn

Dim ond dwy funud mae’n cymryd i drefnu taliad rheolaidd. Ar ôl trefnu hwnnw, byddwn yn derbyn eich rhodd yn awtomatig

3

Teimlo mwy o gysylltiad

Fel rhoddwr rheolaidd, byddwch yn derbyn mwy o wybodaeth am ein gwaith a sut yr ydych yn helpu i newid bywydau.

Rhoddion Cylchol

Pam mae eich rhoddion misol yn wych i Tŷ Hafan 

1

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Bydd eich rhoddion rheolaidd yn caniatáu i ni gynllunio â mwy o hyder a buddsoddi mewn prosiectau tymor hirach.

2

Cynyddu cydnerthedd

Os yw’r annisgwyl yn digwydd, fel y pandemig diweddar, gallwch ymateb yn gyflym ac yn effeithiol

3

Arbed arian i ni

Mae taliadau rheolaidd yn golygu ein bod yn talu llai o ffioedd prosesu nag y byddwn am roddion drwy gerdyn credyd.