Gall eich haelioni newid bywydau

Fel rhoddwr o bwys, gallwch helpu i ddarparu gofal a chymorth sy’n newid bywydau plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd. 

Am hyn, byddwn yn gwneud i chi deimlo eich bod yn rhan o dîm Tŷ Hafan a bod gennych gysylltiad â’r plant a’r teuluoedd yr ydych yn eu helpu yn Cymru. 

 

 

Cefnogaeth fel rhoddwr mawr

Pam mae cymaint o angen am eich cefnogaeth

Bob blwyddyn, mae angen i ni godi £5.6 miliwn i gynnal ein hosbis a darparu ein gwasanaethau allgymorth hanfodol mewn cymunedau yn Cymru.   

Dim ond trwy garedigrwydd a haelioni ein cefnogwyr gwych, gan gynnwys ein rhoddwyr o bwys, y gallwn wneud hyn..  

Trwy fod yn un o’n rhoddwyr o bwys, byddwch yn ein helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol i deuluoedd sydd yn aml â neb arall i droi ato. 

Cewch eich cefnogi gan arbenigwr rhoddwr o bwys a fydd yn gweithio’n agos gyda chi i greu partneriaeth sy’n rhoi boddhad i’r naill a’r llall.   

Os ydych yn gobeithio mynd ar daith fydd yn eich ysbrydoli ac yn rhoi boddhad i chi, ystyriwch fod yn un o’n rhoddwyr o bwys arbennig iawn. Heddiw, yfory ac yn hir i’r dyfodol, byddwch yn helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn. 

Sut gallwch chi wella bywydau ifanc

Rhoi rhodd ariannol

Mae rhoi rhodd o £5,000 ac uwch yn ffordd arbennig iawn o wneud bywydau byr yn fywydau llawn. Ar unwaith, byddwn yn dechrau defnyddio eich rhodd hael i gyrraedd a chefnogi mwy o deuluoedd yng Nghymru y gallai ein gofal seibiant byr, cymorth emosiynol a gwasanaethau arbenigol eraill fod o fudd iddynt. 

Cysylltwch â Rachel Ritter ar rachel.ritter@tyhafan.org neu 029 20532 191 i wybod mwy.

Rhoi cyfranddaliadau yn rhodd

Rhoi eich cyfranddaliadau i Tŷ Hafan yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon o roi gan na fyddwch yn talu treth ar enillion cyfalaf ar y cyfranddaliadau y byddwch yn eu rhoi.   

Os byddwch yn talu treth ar 40% neu 45%, byddwch hefyd yn gallu hawlio rhyddhad treth incwm sy’n cyfateb i 40% neu 45% o werth eich rhodd, yn dibynnu pa gyfradd o dreth yr ydych yn ei thalu.   

Cysylltwch â Rachel Ritter ar rachel.ritter@tyhafan.org neu 029 20532 191 i wybod mwy. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i wneud y broses o roi eich cyfranddaliadau mor rhwydd â phosibl.

Partneriaeth fydd i fudd i bawb 

Rydym yn credu ei bod yn hynod bwysig bod ein rhoddwyr o bwys yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â Tŷ Hafan a’r plant a’r teuluoedd yr ydym yn gofalu amdanynt. Mae ein rhaglen cydnabod a gwobrwyo ar gyfer rhoddwyr o bwys yn cynnwys: 

  • Digwyddiadau lle gallwch gwrdd ag aelodau o’r uwch dîm a gweithwyr gofal proffesiynol sy’n gwneud gwahaniaeth pwysig iawn i fywydau plant yr ydym yn eu cefnogi. 
  • Ymweliadau unigol â’n hosbis. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi weld dros eich hun ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac effaith eich caredigrwydd a’ch haelioni ar fywydau ifanc.  

Sut ydym ni’n defnyddio eich rhoddion hollbwysig?

Os byddwch yn penderfynu rhoi, dyma sut y gallem ni ddefnyddio eich haelioni i newid bywydau.

£6,000

Gallai £6,000 dalu am ein gwasanaeth cefnogaeth ffôn 24-awr am chwe mis, gan sicrhau ein bod bob amser yno pan fydd ein hangen ar deuluoedd. 

£15,000

Gallai £15,000 dalu am flwyddyn o sesiynau therapi cerdd sy’n cynnig cymorth emosiynol, cyfle i ymlacio ac anghofio eu cyflwr a modd i blant fynegi eu hunain. 

£55,000

Gallai £55,000 roi penwythnos o ofal seibiant byr i 10 teulu yn ein hosbis, gan gynnwys llety, bwyd a diod, therapi chwarae a gofal nyrsio 24-awr. 

£125,000

Gallai £125,000 dalu am 10 diwrnod o ofal a chymorth meddygol arbenigol yn ein hosbis i lawer o deuluoedd. 

Yma i helpu

I wybod mwy am waith Tŷ Hafan a sut y gallech wneud gwahaniaeth enfawr trwy fod yn roddwr o bwys, cysylltwch â Rachel Ritter, Pennaeth Rhoddion o Bwys a Phartneriaethau, rachel.ritter@tyhafan.orgneu 029 20532 191.