Ein Noddwr Brenhinol

Rydym wrth ein boddau bod Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Cymru bellach yn Noddwr Hosbis Plant Tŷ Hafan.

The Duchess of Cambridge Patron of Ty Hafan

Gwnaed y cyhoeddiad yn rhan o ymweliad â’n hosbis yn Sili ddydd Iau 30 Ionawr pan wnaethom groesawu Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Cymru i Tŷ Hafan am y tro cyntaf.

Yn ystod ei hymweliad, treuliodd y Dywysoges amser gyda’r plant sy’n cael gofal yn yr hosbis a’u teuluoedd. Ymunodd Ei Huchelder Brenhinol mewn sesiwn ‘aros a chwarae’ hefyd lle gwnaeth y plant fwynhau gweithgareddau a chwarae ystyrlon ochr yn ochr â’u gofal.

Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol hefyd â theuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth, Emily a James Taylor o Gaerffili, ac Anton Griffiths a’i bartner Candice Jones o Lanelli, a gefnogwyd gan Tŷ Hafan trwy gydol bywyd a marwolaeth eu plant a thu hwnt. I gloi ei hymweliad, cymerwyd argraff o ôl llaw y Dywysoges a bydd yn ymuno ag olion dwylo cannoedd o blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd sydd wedi cael eu cefnogi gan Tŷ Hafan hyd yn hyn.

Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr Tŷ Hafan: “Mae’n anrhydedd mawr i ni fod Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Cymru bellach yn Noddwr Tŷ Hafan ac roedd yn bleser pur ei chroesawu i’n hosbis am y tro cyntaf heddiw.

“Fel ein Noddwr, bydd Ei Huchelder Brenhinol yn ysbrydoliaeth i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd, ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig a phawb sydd mor hael yn ein cefnogi.

“Nid oes unrhyw riant byth yn dychmygu y bydd bywyd ei blentyn yn fyr. Yn anffodus, dyma’r realiti sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru. Allwn ni ddim atal hyn rhag digwydd, ond gyda’n gilydd gallwn ni wneud yn siŵr nad oes neb yn byw bywyd byr ei blentyn ar ei ben ei hun.”

Rydym yn edrych ymlaen nawr at gyfleoedd pellach i ymgysylltu â Thywysoges Cymru fel ein Noddwr.