“Profodd hi bawb yn anghywir
“Atgyfeiriwyd Alice i Tŷ Hafan er mwyn iddi hi a’n merch hynaf, Scarlett, allu cael cefnogaeth fel teulu.
“Mae Alice a Scarlett yn bownsio oddi ar ei gilydd. Rydyn ni’n eu galw nhw’n Tom a Jerry! A phan fo Scarlett yn gwylltio Alice, rydyn ni’n galw Alice yn ‘Scrappy Doo’!
“Rydyn ni’n colli’r cyfle i wneud pethau mae teuluoedd eraill yn gallu eu cymryd yn ganiataol.
“Ar ôl yr hyn ddigwyddodd i Alice pan oedd hi’n fabi, rydyn ni’n ei chael hi’n anodd fel teulu o ran mynd i apwyntiadau ysbyty, ond bydd hi’n cael llawdriniaethau ac apwyntiadau yn gyson drwy ei bywyd.
“Mae Sarah, Arbenigwr Chwarae Tŷ Hafan, yn dod i’r prif apwyntiadau ysbyty gyda ni i’n cefnogi ni, fel pan fydd Alice yn cael traceotomi mwy o faint wedi ei osod neu’n cael gwaith i ailadeiladu ei gên.
“Mae Scarlett yn ddeg oed ac mae hi teimlo pwysau trwm cymhlethdodau iechyd ei chwaer. Mae’n hawdd anghofio cymaint y mae brodyr a chwiorydd yn cael eu heffeithio gan yr heriau hyn, ond mae’r effaith yn ddwys.
“Heb Tŷ Hafan, byddai ein teulu cyfan yn ei chael yn anodd iawn.
“Mae Scarlett yn ei chael yn anodd iawn o ran sut mae cyflwr Alice yn ein heffeithio ni fel teulu. Mae’n rhaid iddi golli pethau, ac roedd y cyfyngiadau symud yn effeithio’n fawr arnom ni pan fu raid i ni i gyd warchod.
“Mae Scarlett wedi cael therapi chwarae gydag Anna yn Tŷ Hafan, ac mae hi’n mynd i’r grŵp Supersibs er mwyn gallu dod i gysylltiad gyda phlant eraill sy’n wynebu heriau tebyg.
“Pan oedd Alice yn fabi, byddai’r pedwar ohonom ni’n aros yn yr hosbis. Mae’r merched yn hŷn erbyn hyn ac mae Alice yn ddigon hyderus i aros yn Tŷ Hafan ar ei phen ei hun, sy’n golygu y gallwn ni gael mwy o amser o ansawdd da gyda Scarlett.
“Rydyn ni’n cael seibiant a does dim rhaid poeni. Rydyn ni’n ymddiried yn y Tîm Gofal yn yr hosbis, rydyn ni’n hapus i adael Alice gyda nhw. Pan oedd Alice yn aros yn Tŷ Hafan un tro, aethom ni â Scarlett i Comic Con!
“Mae’r meddygon yn gweld Alice nawr a dydyn nhw ddim yn credu mai’r un plentyn yw hi.
“Rydyn ni i gyd yn credu bod Alice yn anhygoel. Mae hi wedi brwydro. Mae Tŷ Hafan wedi cael effaith enfawr ar ein teulu ni, yn enwedig Sarah a’r grŵp Supersibs i Scarlett.
“Yn syml, mae Tŷ Hafan yn rhoi’r math o gyfleoedd bywyd i ni na fyddai gennym ni fel arall.
“Diolch am ddarllen ein stori, rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i lawer ohonom eleni, ond rydyn ni’n gwybod y bydd faint bynnag y gallwch chi ei roi yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd fel ein un ni.”
Rebecca a Barry