Dod yn rhan o Dîm Tŷ Hafan
Mae Tŷ Hafan yn darparu cysur, gofal a chymorth i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd.
Rydym yn chwilio am nyrsys pediatrig i ymuno â’r tîm clos o weithwyr proffesiynol yn ein hosbis plant enwog sydd wedi’i lleoli ar draethlin Sili, de Cymru.
Gallwn gynnig datblygiad proffesiynol eithriadol, cyflog cystadleuol, a pharhad gofal gyda’r plant y byddwch yn eu cefnogi, a llawer mwy.
Gwnewch wahaniaeth go iawn i’r plant a’r teuluoedd yr ydym ni’n eu cefnogi – ymunwch â’n tîm nyrsio.
Cliciwch isod i weld y swyddi gwag presennol neu i drefnu galwad yn ôl i gael rhagor o wybodaeth..