Rydym yn cynnig clust i wrando, therapïau ac amrywiaeth o gefnogaeth emosiynol arall i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, eu rheini a’u brodyr a’u chwiorydd.Â
Rydym yn rhoi cefnogaeth ymarferol arbenigol ac eiriolaeth i wneud bywyd yn haws i chi, gwella ansawdd bywyd eich teulu a sicrhau nad ydych yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun.Â
Gall ein ymarferwyr cymorth i deuluoedd arbenigol roi cefnogaeth bwrpasol i aelodau eich teulu i’w helpu i alaru ac ymdopi â’u colled. Gallant hefyd eich atgyfeirio chi ac aelodau eich teulu at gymorth cwnsela arbenigol, os bydd ei angen ar unrhyw adeg. Â
Mae gennym fannau arbennig yn ein hosbis i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau pwrpasol, ynghyd â grŵp cymorth yn benodol ar gyfer brodyr a chwiorydd yn eu harddegau. Mae nyrs bontio ar gael hefyd i gefnogi pobl ifanc 14 i 25 oed.