Cefnogaeth i deuluoedd

Rydym yn deall pa mor anodd yw hi i gael sgyrsiau am ofal diwedd oes. Ond yn sensitif ac yn barchus, bydd ein timau gofal a chefnogaeth i deuluoedd yn gweithio gyda chi i gynllunio’r gofal diwedd oes gorau bosibl i’ch plentyn a’ch teulu.

Ein nod yw dod i adnabod pob plentyn a’i deulu fel ein bod yn gallu nodi a diwallu eu holl hanghenion cymaint â phosibl.

someone-to-talk-to-hero

Rhywun i siarad â nhw

Rydym yn cynnig clust i wrando, therapïau ac amrywiaeth o gefnogaeth emosiynol arall i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd, eu rheini a’u brodyr a’u chwiorydd. 

Ty Hafan - Home Page

Cefnogaeth ymarferol ac eiriolaeth

Rydym yn rhoi cefnogaeth ymarferol arbenigol ac eiriolaeth i wneud bywyd yn haws i chi, gwella ansawdd bywyd eich teulu a sicrhau nad ydych yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun. 

Cymorth Profedigaeth

Gall ein ymarferwyr cymorth i deuluoedd arbenigol roi cefnogaeth bwrpasol i aelodau eich teulu i’w helpu i alaru ac ymdopi â’u colled. Gallant hefyd eich atgyfeirio chi ac aelodau eich teulu at gymorth cwnsela arbenigol, os bydd ei angen ar unrhyw adeg.  

supporting-young-people-hero

Cefnogi pobl ifanc

Mae gennym fannau arbennig yn ein hosbis i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau pwrpasol, ynghyd â grŵp cymorth yn benodol ar gyfer brodyr a chwiorydd yn eu harddegau. Mae nyrs bontio ar gael hefyd i gefnogi pobl ifanc 14 i 25 oed.

Ffyrdd eraill yr ydym yn cefnogi teuluoedd

Gofal seibiant byr

Gallwch adael eich plentyn yn ein hosbis am ychydig ddyddiau er mwyn cael hoe haeddiannol. Neu gall eich teulu aros yn yr hosbis hefyd fel eu bod gerllaw. 

Cymorth therapi

Mae ein hamrywiaeth o therapïau yn cynnwys therapi cerddoriaeth, therapi chwarae, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a therapïau cyflenwol fel tylino ac aromatherapi. 

Rheoli symptomau

Mae ein gweithwyr gofal proffesiynol arbenigol wedi cael llawer iawn o hyfforddiant i reoli poen a symptomau eraill y gallai plant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd eu profi.