Sut y gall ymddiriedolaethau a sefydliadau gefnogi ein gwaith  

Mae rhoddion gan ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol yn chwarae rôl hanfodol wrth ariannu’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.  

Cefnogwch fel ymddiriedolaeth neu sefydliad

Pam mae angen eich cymorth?

Bob blwyddyn, mae angen i ni godi £5.6 miliwn i redeg ein hosbis a darparu ein gwasanaethau allgymorth hanfodol mewn cymunedau yn Cymru.    

Dim ond oherwydd caredigrwydd a haelioni ein cefnogwyr gwych, gan gynnwys ymddiriedolaethau a sefydliadau, y gallwn wneud hyn.  

Drwy ddod yn un o’n cefnogwyr, byddwch yn ein helpu i ddarparu gofal a chymorth arbenigol i deuluoedd nad oes ganddynt neb arall i droi ato yn aml.  

Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan ein tîm ymddiriedolaethau a sefydliadau ymroddedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda chi i greu partneriaeth sy’n werthfawr i’r ddwy ochr.   

Heddiw, yfory, ac ymhell i’r dyfodol, gallwch helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn.

Sut y gallwch wella bywydau ifanc 

Beth bynnag fo maint eich sefydliad neu’r swm o arian y gallwch ei roi, mae eich cefnogaeth yn werthfawr iawn i ni. Ar hyn o bryd, mae angen eich cefnogaeth arnom yn fwy nag erioed er mwyn sicrhau y gallwn fod yn achubiaeth i’r holl blant a theuluoedd yng Nghymru y mae angen ein gofal a’n cymorth arbenigol arnynt ar frys. 

Gallai cyllid craidd gan eich ymddiriedolaeth neu sefydliad ein helpu i redeg ein gwasanaethau pwysicaf, gan gynnwys ein: 

  • Hosbis gynnes a chroesawgar yn Sili, Bro Morgannwg 
  • Gwasanaethau allgymorth sy’n darparu cymorth hanfodol mewn cymunedau 
  • Therapïau arbenigol sy’n helpu plant i gael hwyl, i fynegi eu hunain ac i ymlacio 
  • Gwasanaeth cymorth dros y ffôn 24 awr, sy’n rhoi cymorth ac arweiniad hanfodol  

Mae cyllid anghyfyngedig gan eich ymddiriedolaeth neu sefydliad yn rhoi’r hyblygrwydd i ni i gyfeirio cyllid lle y mae ei angen fwyaf, gan addasu ein gwaith yn gyflym ac mewn ffordd gyfrifol. Yn y gorffennol, mae cyllid anghyfyngedig wedi ein helpu i wneud y canlynol:

  • Lansio prosiectau unigryw 
  • Prynu offer a thechnoleg newydd 
  • Datblygu ein gwasanaethau a’n gweithwyr proffesiynol gofal 

Partneriaeth sy’n werthfawr i’r ddwy ochr 

Credwn ei bod yn hollbwysig bod ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n ein cefnogi yn teimlo eu bod yn uniaethu’n llwyr â Tŷ Hafan, a’r plant a’r teuluoedd rydym yn gofalu amdanynt.  

Os byddwch yn dod yn un o’n cefnogwyr, gallwch ddisgwyl y canlynol: 

Ymagwedd wedi’i theilwra at ein partneriaeth, oherwydd rydym yn deall y gallai fod gan eich ymddiriedolaeth neu sefydliad ddiddordeb neu amcan penodol.

Adroddiadau rheolaidd am y gwahaniaeth anhygoel y mae eich cefnogaeth yn ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc â chyflyrau sy'n byrhau eu bywyd.

Digwyddiadau lle gallwch gwrdd ag uwch-aelodau o'n tîm a gweithwyr gofal proffesiynol sy'n gwneud gwahaniaeth mor bwysig i fywydau'r plant rydym yn eu cefnogi. 

Ymweliadau personol â'n hosbis. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi weld â’ch llygaid eich hun ein cyfleusterau a'n gwasanaethau, a'r effaith y mae eich caredigrwydd a'ch haelioni yn ei chael ar fywydau ifanc. 

Cymorth sy’n eich helpu i ddweud wrth eraill am y gwaith gwych rydym yn ei wneud gyda’n gilydd, er enghraifft, negeseuon allweddol neu ddyfyniadau ar gyfer datganiadau i’r wasg.

Yma i helpu 

Os ydych chi’n ymddiriedolwr, yn gysylltiedig ag ymddiriedolaeth neu sefydliad, neu’n ystyried sefydlu ymddiriedolaeth neu sefydliad, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.  

Cysylltwch âSusie Mowat, Rheolwr Grantiau ac Ymddiriedaethau, drwy e-bostio susie.mowat@tyhafan.org neu drwy ffonio 02920 532 268.