Rhoi hwb i’ch rhodd gyda Cymorth Rhodd 

Mae Cymorth Rhodd yn gynllun syml sy’n caniatáu i Tŷ Hafan dderbyn 25c ychwanegol o’r llywodraeth bob tro y byddwch yn rhoi £1 – heb i hynny gostio dim i chi!  

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud i roi’r hwb gwerthfawr hwn i ni yw ticio’r datganiad Cymorth Rhodd pan fyddwch yn rhoi i ni neu lenwi’r ffurflen ar-lein isod ac fe wnawn ni bopeth arall.  

Well gennych anfon ffurflen Cymorth Rhodd ar bapur?

Cymorth Rhodd

Pam ddylwn i roi Cymorth Rhodd 

Gallwch roi hwb ar unwaith i ni

Cyn gynted ag y byddwch yn llenwi’r ffurflen Cymorth Rhodd isod ac yn ei chyflwyno, gallwn ddechrau hawlio’r dreth yn ôl ar eich rhoddion gan CThEF.

Mae hyn yn golygu, os byddwch yn rhoi £10 i ni, byddwn yn derbyn £12.50. Bydd £50 yn troi’n £62.50. A bydd £100 yn dod yn £125. 

Mae’n cymryd dwy funud

I ddechrau rhoi hwb i’ch cyfraniadau, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen isod, darllen y datganiad Cymorth Rhodd a thicio’r blwch i ddweud eich bod yn hapus â hynny. Yna cliciwch neu pwyswch ar y botwm cyflwyno ac i ffwrdd â ni.

Byddwch yn newid mwy o fywydau ar unwaith

Y llynedd, cawsom hwb ariannu o dros £170,000 oherwydd Rhodd Cymorth. Arian y gwnaethom ni ei ddefnyddio i roi’r gofal a’r cymorth gorau posibl i’n teuluoedd Tŷ Hafan.  

Y gwir amdani yw y gallai’r arian hwn wedi bod yn fwy eto pe byddai pob un o’n cefnogwyr wedi treulio dwy funud yn ychwanegu Cymorth Rhodd i’w cyfraniadau. Llenwch y ffurflen heddiw.  

£251,000

Cronfeydd ychwanegol

Y llynedd, diolch i bobl wych fel chi, cawsom £251,000 ychwanegol mewn rhoddion drwy Gift Aid.

6

Nyrsys

Mae’r cyllid yn ddigon i dalu am chwe nyrs Tŷ Hafan am flwyddyn.

500

Nosweithiau o ofal

Mae’r cyllid yn ddigon i dalu am tua 500 o nosweithiau gofal ychwanegol.

Unrhyw gwestiynau?

Darllenwch ein canllaw syml i Cymorth Rhodd.  

Gallwch hefyd gysylltu a’n tîm ar 02920 532199 neu supportercare@tyhafan.org i sgwrsio am Cymorth Rhodd. 

Nodwch eich manylion a rhowch hwb o 25% i’ch rhodd 

    Teitl
    Enw cyntaf
    Cyfenw
    Cyfeiriad e-bost
    Rhif ffôn
    Cyfeiriad 1
    Cyfeiriad 2
    Tref/dinas
    Cod post
    Dyddiad geni
    Cyfeirnod (os oes un)
    Datganiad Cymorth Rhodd
    Er mwyn i ni dderbyn eich Cymorth Rhodd a dechrau ei ddefnyddio, darllenwch yr wybodaeth isod a ticiwch y blwch.
    Rwyf yn talu treth yn y DU a hoffwn i Tŷ Hafan drin yr holl roddion yr wyf wedi eu gwneud yn y pedair blynedd ddiwethaf ac o’r dyddiad hwn ymlaen fel rhoddion Cymorth Rhodd, tan i mi roi gwybod fel arall. Rwy’n deall os byddaf yn talu llai o dreth incwm a/neu treth enillion cyfalaf na’r swm o Cymorth Rhodd ar fy rhoddion yn y flwyddyn dreth honno, fy nghyfrifoldeb i yw talu’r gwahaniaeth.