Dod Yn Llysgennad Elusennol

Ein nod yw cyrraedd pob plentyn sy’n byw bywyd byr a’u teuluoedd yng Nghymru, sydd ag angen ein cymorth. 

I wneud hyn, mae arnom angen pobl o bob cefndir i godi ymwybyddiaeth o Dŷ Hafan a rhoi hwb i ymgyrchoedd codi arian mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru. 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch chi wneud hyn fel Llysgennad Elusennol, ffoniwch ni ar 029 2053 2199 neu anfonwch e-bost i volunteering@tyhafan.org. 

community-ambassadors

Roeddech chi ar fin gofyn 

 

Pa fath o bethau mae Llysgennad Elusennol yn ei wneud? 

  • Cydgysylltu casgliadau codi arian 
  • Recriwtio cefnogwyr a gwirfoddolwyr 
  • Rhoi cyflwyniadau i grwpiau cymunedol 
  • Rhoi sgyrsiau mewn ysgolion 
  • Datblygu perthynas â busnesau lleol 
  • Mynychu digwyddiadau lleol a rhai lle cyflwynir sieciau 
  • Chwilio am gyfleoedd i godi arian 

Pa sgiliau sydd eu hangen arnaf? 

Yn ddelfrydol, mae angen y sgiliau canlynol ar Lysgennad Elusennol, ond byddwn yn eich hyfforddi a’ch cefnogi fel bod modd i chi deimlo’n hyderus yn y gwaith: 

  • Gwybodaeth drylwyr o’ch ardal leol, gan gynnwys busnesau a grwpiau cymunedol 
  • Y gallu i gyfathrebu’n hyderus ag unigolion a grwpiau 
  • Digonedd o egni, a pharodrwydd i feddwl am syniadau fydd yn arwain at ganlyniadau 

 

Faint o amser sydd angen i mi ei roi? 

Mae hynny’n dibynnu’n llwyr arnoch chi. Byddwn yn cydweithio’n agos â chi er mwyn manteisio i’r eithaf ar unrhyw amser y gallwch ei roi.Â