Ein swyddi gwag ym maes manwerthu 

Mae gwaith ein gweithwyr cyflogedig a’n gwirfoddolwyr yn ein siopau yn helpu i godi arian hanfodol ar gyfer ein gwasanaethau sy’n newid bywydau. 

Felly, os ydych chi’n chwilio am rôl werth chweil ac amrywiol sy’n wirioneddol trawsnewid bywydau, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol. 

Gweld ein swyddi gwag ym maes manwerthu

retail-roles

Dod yn aelod o deulu Tŷ Hafan 

Ar draws de a gorllewin Cymru, mae gennym 18 o siopau lleol sy’n gwerthu amrywiaeth eang o eitemau ail law i ariannu ein gofal a’n cefnogaeth arbenigol. 

Ym mhob un o’r siopau hyn, rydym yn gwneud ein gorau glas i greu tîm cyfeillgar a chroesawgar sy’n ymgorffori ein gwerthoedd ac sy’n falch o fod yn wyneb Tŷ Hafan. 

Rydym hefyd yn sicrhau bod ein cyflogeion manwerthu a’n gwirfoddolwyr yn cael y gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn eu swyddi. 

Fel rhan o deulu Tŷ Hafan, rydym am i chi fwynhau eich rôl, symud ymlaen yn broffesiynol, a theimlo cysylltiad â’r plant a’r teuluoedd yr ydych chi’n helpu i’w cefnogi. 

Oes gennych gwestiwn? Gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredin isod.

Gweld ein swyddi gwag diweddaraf

Mae’n deimlad da gwybod bod pob tamaid bach yr ydych chi’n ei wneud bob dydd yn helpu elusen wych fel Tŷ Hafan. Dw i hefyd yn mwynhau hyfforddi’r gwirfoddoli a gweld eu hyder yn tyfu.

- Rowena Lloyd, Dirprwy Reolwr yn ein siop yn Aberystwyth

Ymunwch â ni a mwynhewch yr holl fuddion hyn a chefnogaeth wych 

Hawl gwyliau gwych

25 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl ar gyfer swyddi llawn amser ynghyd â gwyliau banc, gan godi i 27 diwrnod ar ôl cyfnod o wasanaethu.

Pensiwn ardderchog

Ymunwch â’n cynllun pensiwn grŵp gyda chyfraniad gan y cyflogwr o 5%.

Rhaglen cymorth i weithwyr

Gallwch chi a'ch teulu elwa ar gymorth arbenigol, gan gynnwys cwnsela.

Gostyngiadau mawr wrth siopa

Gostyngiadau ar y stryd fawr ac ar-lein a allai arbed cannoedd o bunnoedd i chi.

Cynllun beicio i'r gwaith

Gallwch brynu beic a dillad am hyd at £600 a thalu'n ôl drwy eich cyflog.

Yn gysylltiedig â'n gofal

Beth bynnag fydd eich rôl, byddwn yn sicrhau eich bod yn teimlo cysylltiad â'n gwasanaethau gofal a'r teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi.