Dod yn aelod o deulu Tŷ Hafan
Yn Tŷ Hafan, rydym yn ymfalchïo ein bod yn darparu gofal rhagorol a chymorth i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd ac i aelodau eu teuluoedd.
Ond rydyn ni’n gwybod mai dim ond trwy fod â thîm o weithwyr proffesiynol yn ein prif swyddfa sy’n fedrus iawn yn eu swyddi ac sy’n wirioneddol angerddol am eu gwaith y gallwn wneud hyn.
Dyna pam rydym ni’n sicrhau bod pawb yn ein pencadlys yn Sili bob amser yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rôl, yn cael hyfforddiant o ansawdd uchel ac yn ffynnu’n broffesiynol.
Rydyn ni hefyd yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pob aelod o’n teulu Tŷ Hafan yn teimlo cysylltiad â’r plant a’r teuluoedd y maen nhw’n eu helpu i gefnogi.
Trwy gydol y flwyddyn, rydym ni’n anfon gohebiaeth ac yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dangos yn glir y gwahaniaeth hanfodol y maen nhw’n ei wneud i gannoedd o fywydau.
Oes gennych gwestiwn? Gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredin isod.
Gweld ein swyddi gwag diweddaraf