Ras Dywyll Parc Gwledig a Chastell Cil-y-coed

Dewch i weld Parc Gwledig a Chastell eiconig Cil-y-coed fel na welsoch chi nhw erioed o’r blaen!

Mae Cofrestru Digwyddiad bellach wedi cau

Dark Run Ty Hafan Event

Dyddiad y digwyddiad

21.10.2023

Lleoliad

Parc Gwledig a Chastell Cil-y-coed

Nid oes isafswm arian nawdd

£0

Ffi Cofrestru

Tocyn Oedolyn – £10
Tocyn Plentyn – £5

Ymunwch â ni yn y ras hwyl arswydus hon lle byddwch yn dechrau ar dir y castell, wedi eich amgylchynnu gan y tyrau canoloesol.

Bydd y ras yn dechrau drwy fynd allan i’r gerddi a’r parc gwledig, lle bydd rhywbeth arswydus annisgwyl yn aros amdanoch chi. Ond peidiwch â phoeni – bydd e’ ddim yn rhy ddychrynllyd i’r plant bach!

Bydd y castell a rhannau o’r tir yn cael eu goleuo, a gallwch ddisgwyl cerddoriaeth ac adloniant ar hyd y ffordd.

Rhedeg, cerdded neu loncian, chi sy’n dewis. Does dim rhaid gwisgo gwisg ffansi ond rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny – lliwiau llachar neon a gwisg Calan Gaeaf! – byddwn yn rhoi gwobr am y wisg orau.

Bydd y cofrestru yn agor am 17:45 a bydd y digwyddiad yn dechrau am 18:30. Cewch gymryd cymaint o amser ag y dymunwch i gwblhau’r ras.

Dark Run Ty Hafan Event

Nid oes isafswm arian nawdd a bydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn rhoi arian cyfatebol am bopeth y byddwch chi yn ei godi!

Ar y dydd byddwch yn cael:

Mynediad i'r digwyddiad

Llwybr â swyddogion yn goruchwylio bob cam o'r ffordd

Ffon olau fawr

Dŵr wedi'i roi yn hael gan Princes Gate

Medal

Cymorth Codi Arian

Mynediad i grŵp Facebook y Ras Dywyll

Ras Dywyll Castell Cil-y-coed

Gwybodaeth bwysig

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan

Caiff pob oedolyn fod yn gyfrifol am uchafswm o dri phlentyn

Rhaid i bawb ddod â golau ar eu pen (ni fyddwn yn darparu'r rhain)

Trefniadau parcio i'w cadarnhau

Bydd caffi y castell ar agor er mwyn prynu bwyd poeth a diodydd

Mae hwn yn ddigwyddiad addas ar gyfer cŵn, caiff pob un sy'n cymryd rhan ddod ag un ci

Rhaid i'ch ci fod wrth eich ochr ar dennyn byr, nad yw'n ymestyn, yn eich llaw

Ni chewch gymryd rhan gyda chadair wthio plentyn bach a ci ar yr un pryd

Mae'r digwyddiad yn rhannol addas ar gyfer cadeiriau olwyn (cysylltwch ag events@tyhafan.org i wybod mwy)

Caniateir cadeiriau gwthio plentyn bach

Mae toiledau a chyfleusterau newid cewyn babi ar gael

Yma i helpu

Os oes gennych gwestiwn am ein digwyddiad, cysylltwch â’n tîm digwyddiadau ar events@tyhafan.org. Byddant yn cysylltu’n ôl cyn gynted â phosibl.

Mae Cofrestru Digwyddiad bellach wedi cau