Ras Dywyll Castell Cyfarthfa

Dewch i weld Castell a Pharc Cyfarthfa fel na welsoch chi nhw erioed o’r blaen!

Cofrestrwch heddiw
Dark Run Ty Hafan Event

Dyddiad y digwyddiad

28.10.2023

Lleoliad

Castell Cyfarthfa

Nid oes isafswm arian nawdd

£0

Ffi Cofrestru

Tocyn Oedolyn – £10
Tocyn Plentyn – £5

Bydd y ras hwyl arswydus hon tua 2.5k o hyd a bydd yn dechrau ar dir y castell, gan roi golygfa hyfryd i chi o’r llyn. Yna, byddwch yn mynd tuag at y gerddi a’r parc gwledig, lle bydd pethau arswydus annisgwyl yn aros amdanoch chi. Ond peidiwch â phoeni – fyddan nhw ddim yn rhy ddychrynllyd i’r plant bach!

Byddwn yn goleuo’r castell a rhannau o’r tir ar gyfer y digwyddiad, a gallwch ddisgwyl cerddoriaeth ac adloniant ar hyd y ffordd.

Cofrestrwch heddiw

Rhedeg, cerdded neu loncian, chi sy’n dewis. Does dim rhaid gwisgo gwisg ffansi ond rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny – lliwiau llachar neon a gwisg Calan Gaeaf! – a byddwn yn rhoi gwobr am y wisg orau.

Bydd y cofrestru yn agor am 17:45 a’r digwyddiad yn dechrau am 18:30. Nid oes amser penodol ar gyfer cwblhau’r ras.

Cofrestrwch heddiw
Dark Run Ty Hafan Event

Nid oes isafswm arian nawdd a bydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn rhoi arian cyfatebol am bopeth y byddwch chi yn ei godi!

Ar y dydd byddwch yn cael:

Mynediad i'r digwyddiad

Llwybr â swyddog yn goruchwylio bob cam o'r ffordd

Ffon olau fawr

Dŵr wedi'i roi yn garedig gan Princes Gate

Medal arbennig

Cymorth codi arian

Mynediad i grŵp Facebook y Ras Dywyll

Ras Dywyll Castell Cyfarthfa

Gwybodaeth bwysig

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan

Caiff pob oedolyn oruchwylio uchafswm o dri phlentyn

Rhaid i bawb ddod â golau ar eu pen (ni fyddwn yn darparu'r rhain)

Cewch barcio yng Nghastell Cyfarthfa ar gyfer y digwyddiad

Bydd caffi y castell ar agor er mwyn prynu bwyd poeth a diodydd

Mae hwn yn ddigwyddiad addas ar gyfer cŵn, caiff pob un sy'n cymryd rhan ddod ag un ci

Rhaid i'ch ci fod wrth eich ochr ar dennyn byr, nad yw'n ymestyn, yn eich llaw

Ni chaniateir cymryd rhan gyda chadair wthio plentyn bach a ci ar yr un pryd

Mae'r digwyddiad yn rhannol addas ar gyfer cadeiriau olwyn (cysylltwch ag events@tyhafan.org i wybod mwy)

Mae toiledau a chyfleusterau newid cewyn babi ar gael

Caniateir cadeiriau gwthio

Yma i helpu

Os oes gennych gwestiwn am ein digwyddiad, cysylltwch â’n tîm digwyddiadau ar events@tyhafan.org. Byddant yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Barod i gofrestru?

Gwych! Dim ond ychydig o funudau y bydd yn cymryd i gofrestru.

Cofrestrwch heddiw