Stori Fynley

I Fynley, ‘Nana’ o’n i, a fe oedd cannwyll fy llygad. Fe oedd fy winwnsyn bach sbesial, yn llawn haenau.

Rhowch heddiw

Maria and Fynley

“Mae’n drist, bod yma hebddo fe.”

Rhowch heddiw

Roedd perthynas arbennig gyda ni erioed

Rwy’n cofio mor glir sut fydden ni’n gorwedd ar y soffa gyda’n gilydd gyda’r nos, gyda fy merch Shannon, mam Fynley, yn eistedd wrth ein hochr ni. Fe fyddai’n cwtsho mewn i fi a bydden i’n canu caneuon Elvis a Disney iddo fe bron bob nos cyn mynd i’r gwely. Mae’r eiliadau hynny’n atgofion mor werthfawr i fi.

Roedd gennym ni berthynas arbennig erioed. Doedd ganddo fe ddim llawer o reolaeth dros ei gorff ei hun, ond gallai symud ei ben yn ôl ac ymlaen i gerddoriaeth, arwydd clir ei fod yn mwynhau bywyd. Roedd e’n ddall, yn methu crio, na siarad na cherdded, ond roedd ei synhwyrau’n gryfach. Cyn gynted ag y byddwn i’n dod i mewn i ystafell, byddai’n gwybod mai fi oedd yno, efallai oherwydd arogl fy mhersawr, ac fe fyddai e’ mor gyffrous.

Pan gafodd ei eni, roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth o’i le yn syth, roedd e’n cael trafferth anadlu. Rydw i wedi cael pum plentyn fy hun, ac fel Nana Fynley, ro’n i jyst yn gwybod. O fewn wythnosau, roedd yn rhaid iddo gael tiwbiau ocsigen a thraceostomi.

Rhowch heddiw

Ar y dechrau, doeddwn i ddim eisiau mynd yno

Y Nadolig cyntaf hwnnw roedden ni’n credu ein bod ni’n mynd i’w golli. Roedd e’n wyth mis oed ac yn yr ysbyty ac roedden ni’n teimlo mai dyma oedd ein dyddiau olaf gydag ef oherwydd roedd e’ mor, mor sâl. Ond, trwy wyrth, ar Ddydd San Steffan, fe ddechreuodd e’ ymateb yn fwy, a chawson ni wybod am Tŷ Hafan.

Ar y dechrau, doeddwn i ddim eisiau mynd yno, roedden ni’n credu mai lle roedd plant yn mynd i farw oedd e’, ond allen ni ddim bod wedi bod yn fwy anghywir. Pan aethon ni i weld y lle, ces i fy synnu. Doedd e’ ddim yn lle trist nac annymunol; mae’n lle hyfryd. Yr amseroedd a gawson ni gyda’n gilydd yn Tŷ Hafan oedd y rhai mwyaf gwerthfawr erioed. Rwy’n trysori’r atgofion hynny.

Roedd y ffaith bod Tŷ Hafan wedi fy nghynnwys i, ei Nana, a fy nwy ferch, Mia a Sasha, yn anhygoel. Roedd hynny mor bwysig i fi.

Rhowch heddiw

Does dim poen yn debyg i’w golli e’

Rhoddodd Tŷ Hafan amser a lle i ni fod gyda’n gilydd. Doedd dim rhaid i ni boeni am bethau bob dydd fel gwneud y golch, glanhau’r tŷ neu goginio. Fe allen ni dreulio amser fel teulu, yn creu atgofion. Bydden ni’n cael hwyl yn yr ystafell gelf, yn mynd i’r traeth, ac yn chwarae yn y maes chwarae. Roedd nofio yn y pwll hydro yn wych.

Bryd hynny, fydden i ddim wedi bod yn hyderus yn mynd â Fynley i bwll nofio cyhoeddus, ond yn Tŷ Hafan roedden ni i gyd yn gallu nofio gyda’n gilydd. Fe wnaeth hynny rhoi’r hyder i fi fynd ag ef i nofio y tu allan i Tŷ Hafan. Roedd e’ wrth ei fodd yn y dŵr, roedd e’n rhywbeth roedden ni’n mwynhau ei wneud gyda’n gilydd.

Does dim poen yn debyg i’w golli e’. Mae hi dal yn anodd i mi weithredu’n iawn hebddo fe. Roedd ganddo fe draed bach, ond fe adawodd yr ôl troed mwyaf. Mae gen i dwll yn fy nghalon sy’n llefain drosto o hyd.

Rhowch heddiw

Ac mae cael cymryd rhan o hyd yn anhygoel

Un o’r pethau pwysicaf y gwnaeth Tŷ Hafan ei roi i ni oedd y pethau y gwnaethon ni eu gwneud, y cofroddion y gwnaethon ni eu creu. Fyddwn i ddim wedi meddwl am wneud pethau y gallen ni eu cadw, ond mae ei Flwch Cofio yn un o’r pethau mwyaf gwerthfawr sydd gen i. Fe wnaethon ni addurniadau Nadolig gyda phrintiau llaw Fynley, mae gen i’r addurniadau hynny o hyd, ac rydyn ni’n eu rhoi nhw i fyny bob blwyddyn. Maen nhw werth y byd.

Ac mae cael cymryd rhan o hyd yn anhygoel. Ro’n i’n credu unwaith y byddai Fynley’n marw mai dyna fyddai diwedd fy mherthynas â Tŷ Hafan. Mewn ffordd ro’n i’n teimlo colled o ran y berthynas honno hefyd. Ond nid felly oedd hi. Bu farw Fynley bedair blynedd yn ôl ond maen nhw’n dal i fy nghefnogi i a fy nheulu gymaint. Rwy’n dal i gael fy ngwahodd i’r Pantomeim Nadolig bob blwyddyn. Mae hi fel pe bai gan Tŷ Hafan ran o Fynley o hyd. Maen nhw’n ei adnabod ac maen nhw’n ei gofio. Rwy’n teimlo cymaint o gysylltiad ag e’ yno. Pan rydw i yn Tŷ Hafan, Nana Fynley ydw i o hyd. Mae hynny’n golygu’r byd i mi.

Rhowch heddiw

Diolch am eich holl roddion hyd yn hyn, rydych chi’n anhygoel!

Rydym ni’n hynod ddiolchgar am haelioni pawb sydd wedi cyfrannu at ein hapêl hyd yn hyn! Os nad ydych wedi cael cyfle i roi eto, nawr yw’r amser perffaith. Bydd pob cyfraniad, mawr neu fach, yn mynd yn uniongyrchol tuag at helpu teuluoedd yng Nghymru drwy fywyd byr eu plentyn, ei farwolaeth a thu hwnt.

Rhowch heddiw

Clywch gan deuluoedd eraill

Yn rhan o’n hymgyrch, rydym yn falch o rannu straeon o’r galon gan dri teulu anhygoel sydd wedi’u heffeithio gan gefnogaeth Tŷ Hafan. Mae pob stori yn fodd pwerus o atgoffa o rôl allweddol eich cyfraniadau wrth roi gofal a chefnogaeth i deuluoedd fel y rhain.

Stori Violet

Roedd Tŷ Hafan yno i ni pan roedd Violet yn marw, roedden nhw yno i ni pan fu hi farw ac maen nhw wedi bod yno i ni ers hynny. Dyna y mae ei angen ar bob rhiant pan fydd yn colli plentyn ac mae fy nghalon yn torri o wybod nad yw pob teulu yn cael hynny.

Stori Winnie

Roedd ein profiad ni yn Tŷ Hafan yn anhygoel. Gadawom yr hosbis ar ôl i Winnie farw yn teimlo’n ysgafnach, ond roedd ein bywydau wedi troi ar yn ôl a doeddem ni ddim yn gallu gweld y llwybr o’n blaenau. Ond beth bynnag fydd ein llwybr o hyn ymlaen, rydyn ni wedi cael ein cefnogi, ac yn dal i gael ein cefnogi, gan Tŷ Hafan ar y llwybr hwn.

Stori Zach

Roedd Tŷ Hafan yn dawel ac yn heddychlon, felly dyna ble y treuliodd  Zach ei ddiwrnodau olaf. Roedd yn ôl mewn amgylchedd digyffro heb yr holl archwiliadau, profion a nodwyddau parhaus. Cafodd le i ymlacio.