O pan oedd Greg yn ddwy oed, pan gafodd ddiagnosis o gyflwr ar ei galon a’i ysgyfaint a fyddai’n byrhau ei fywyd, rydyn ni wedi byw gyda galar rhagweliadol.
Ar adegau, roedd yn y cefndir. Ac ar adegau eraill roeddem ni’n byw gyda ‘ydym ni’n mynd i’w golli y tro yma?’ Ar y pryd, mae’n rhaid i ti wneud beth bynnag sy’n rhaid i ti ei wneud i’w gael drwyddo. Yna mae’n gwella ac mae pobl yn dweud ‘Mae’n well nawr’.
Ar ôl hynny, rwyt ti’n chwalu ac yn meddwl i dy hun, ‘Roedd hynna’n ddychrynllyd’. Yn Tŷ Hafan rwyt ti yn rhywle lle galli di siarad gyda phobl sy’n deall yn union beth sy’n digwydd.
Clywed mwy gennym niGanwyd Greg yn hwyr ar nos Wener. Y diwrnod canlynol fe wnaethon ni ddarganfod bod ganddo Syndrom Down. Roedd yn fabi hyfryd, mor hawdd gofalu amdano. Nid oedd Syndrom Down erioed yn broblem i ni. Roedd yn ei wneud yn pwy oedd e.
Yn chwe mis oed nodwyd bod ganddo broblemau â’i galon. Cafodd ei lawdriniaeth gyntaf ar y galon yn 14 mis oed. Yna, pan oedd Greg yn ddwy oed, dywedwyd wrthym fod ganddo gyflwr ar y galon a’r ysgyfaint na fyddai’n gwella a dywedwyd y byddai ond yn byw am ryw bum mlynedd.
Roedd fy ngŵr, Paul, a minnau wedi ein llorio ac roeddwn i’n teimlo fy mod i’n chwalu i ddarnau. Roedd hi’n Rhagfyr 1993 ac roeddwn i’n feichiog gyda’n mab, Tom. Ond yna ganwyd Tom ym mis Ebrill ac roedd llawenydd. Yn y cyfamser, nid oedd Greg yn dangos unrhyw arwydd o’i gyflwr. Aeth misoedd heibio, yna blynyddoedd.
Pan oedd yn 11 oed, dechreuodd gael adegau pan fyddai’n troi’n las ac erbyn yr oedd Greg yn 15 oed roedd ganddo lawer mwy o symptomau a chafodd ei gyfeirio at Tŷ Hafan. Dyma’r unig le lle gallwn i fod yn fam iddo. Ac roedd mor braf gallu peidio â bod yn ofalwr iddo yn ystod yr amser yr oeddem ni yma – gallwn i fod yn fam iddo.
Roedd Greg wrth ei fodd â Tŷ Hafan. Roedd yn caru’r bobl yma. Dyma’r lle rwy’n dod i’w gofio, ei gofio’n chwarae yma. Roedd yn lle yr oedd yn dwlu arno. Yn y blynyddoedd olaf o’n cysylltiad â Tŷ Hafan, roedden ni’n dod i lawr am y prynhawn – ac am yr ychydig oriau hynny – roedd yn cael hwyl ac yn teimlo’n gartrefol. Ac roedd pawb yn Tŷ Hafan yn gwneud iddo deimlo’n arbennig, yn union fel yr oedd.
Clywed mwy gennym niRoedden ni mor ofnus yn ystod Covid. Daeth gerddi Tŷ Hafan yn lle diogel i ni. Roedd gallu dod yma yn golygu y gallem ni ailgysylltu â phobl oedd yn ein hadnabod, a oedd yn adnabod Greg, pobl yr oedd yn gwybod eu bod yn ei garu.
Ym mis Gorffennaf 2022 cafodd Greg strôc. Dyna pryd roedden ni’n gwybod y llwybr yr oeddem arno. Roedd yn arwydd bod ei salwch yn gwaethygu ac roedd bellach yn fater o amser. Roedd yn sâl am ychydig fisoedd ac yn ystod y cyfnod hwn byddai Sophie a Heather yn dod allan i’w weld. Byddai Heather yn chwarae cerddoriaeth ac yn canu iddo ac roeddwn i’n gallu eistedd gyda Sophie a siarad am bopeth. Cefnogaeth amhrisiadwy yn ystod cyfnod mor anodd.
Mae’n 2 flynedd, 3 mis a 6 diwrnod ers i ni golli Greg. Ond i mi dydy hynny yn ddim amser o gwbl. Oherwydd ei fod yn dal mor bresennol.
Mae Tŷ Hafan yn rhywle y gallaf fynd ac rwy’n gwybod y bydd pobl yn deall. Mae wedi fy helpu i dderbyn fy mod i’n mynd i alaru am weddill fy mywyd. Pa mor ofnadwy yr oedd. Sut gall fy machgen bach beidio â bod yma? Ond rwy’n brwydro ymlaen. Rhaid i ti. Ac mae Tŷ Hafan wedi fy helpu i ddeall ei bod yn hollol normal teimlo tristwch ochr yn ochr â theimladau eraill fel llawenydd ein hŵyr cyntaf yn cael ei eni.
Mae cael Tŷ Hafan yn ein bywydau wedi newid ein bywydau yn llwyr. Mae’n bryderus gofalu o ddydd i ddydd. Roedd yna adegau a oedd yn llawer mwy heriol nag eraill. Ond os oes gennych rywle i droi ato, dim ond i siarad amdano, mae’n stopio’r teimlad ofnadwy hwnnw o ynysigrwydd. A does dim terfyn amser ar alar.
Mae’n torri fy nghalon i wybod bod yna deuluoedd fel ein un ni allan yna nad oes ganddynt y gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael na’r profiadau rydyn ni wedi’u cael. Ni allaf hyd yn oed ddechrau deall sut beth fyddai mynd trwy hyn ar fy mhen fy hun.”
Clywed mwy gennym ni