Bydd yr holl roddion a wneir cyn 10pm ddydd Mawrth 28 Tachwedd yn cael eu dyblu, diolch i garedigrwydd rhai o’n cefnogwyr sydd wedi cytuno i gyfrannu at ein cronfa gyfatebol.
Bydd faint bynnag y gallwch ei fforddio yn cael dwbl yr effaith. Felly, os byddwch chi’n rhoi £25 bydd eich cyfraniad yn cael ei ddyblu i £50!
Rhoi NawrMeddai Sara.
Gallem ni ddim dychmygu ein bywydau heb Tŷ Hafan erbyn hyn. Dydy e’ ddim yn teimlo fel hosbis.
“Mae’r gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i ni wedi bod yn anhygoel. Roedd adegau pan gafodd Alfi ei ruthro i’r ysbyty ac roedd staff Tŷ Hafan yno yn barod yn aros amdanom ni, yn sicrhau bod gennym ni wely a phopeth yr oedd ei angen arnom. Nhw oedd ein hachubiaeth.
Roeddem ni’n byw gyda’r realiti y gallai pob Nadolig gydag Alfi fod ein un olaf ni.
“Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei dad ar Fawrth y cyntaf, Dydd Gŵyl Dewi a’n pen-blwydd priodas ni. Bob blwyddyn ar Fawrth y cyntaf, rydyn ni’n mynd i Tŷ Hafan. Dyna ein lle diogel ni.
Hyd yn oed 8 mlynedd ers marwolaeth Alfi, mae’n dal i fod yn gartref oddi cartref i ni. “Yn Tŷ Hafan, does dim rhaid i chi geisio ymddangos yn ddewr. Does dim rhaid i chi esgus bod popeth yn iawn, oherwydd mae pob teulu yno yn deall sut rydych chi’n teimlo.
“Does dim un diwrnod yn mynd heibio pan nad ydyn ni’n meddwl am Alfi. Pan fyddwn ni’n gweld y lleuad, rydyn ni i gyd yn meddwl am Alfi achos fe yw ein bachgen bach ni yn y lleuad – dyna beth oedden ni’n arfer dweud wrth Besi – felly mae e wastad gyda ni.
Un stori yn unig yw hon am deulu sydd wedi derbyn cefnogaeth diwedd oes drwy Tŷ Hafan. Drwy ddod yn hyrwyddwr apêl, gallwch sicrhau y gallwn ni fod yno i bob teulu sydd angen ein cefnogaeth.
Rhoi Nawr