Cyrraedd pob plentyn

Mae’n Wythnos Hosbis Plant rhwng 17 a 23 Mehefin – helpwch ni i allu #CyrraeddPobPlentyn

Reach every child

Ar hyn o bryd, dim ond 1 o bob 10 o blant â chyflwr sy’n byrhau bywyd yng Nghymru yr ydym yn eu cyrraedd

Mae hynny’n golygu bod miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn byw bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain, yn ofnus ac yn ynysig. Pan fydd bywyd plentyn yn un byr, ni ddylai fod yn rhaid i’r un teulu ei fyw ar eu pen eu hunain.

Rhaid #CyrraeddPobPlentyn.

Mae hosbisau plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn ymgyrchu i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar gyfer hosbisau plant Cymru.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gefnogaeth, y cymorth a’r cyllid i ni er mwyn inni allu bod yno ar gyfer pob plentyn a theulu sy’n troi atom a rhoi cyllid cynaliadwy a dyfodol diogel i gefnogi’r garfan hon sy’n tyfu o bobl ifanc agored i niwed.

Sut gallwch chi helpu

Gallwch chi ein helpu ni drwy ddangos eich cefnogaeth a galw am gyllid cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gofyn iddyn nhw ysgwyddo 21% o’n costau gofal yn flynyddol. Bydd hyn yn golygu y gallwn ni ddiwllau anghenion mwy o blant.

Mehefin 17 i 23 yw #WythnosHosbisPlant.

 

Gallwch gefnogi ein hymgyrch #CyrraeddPobPlentyn drwy wneud unrhyw un o’r canlynol:

Rhannu ein neges ar y cyfryngau cymdeithasol

Ar hyn o bryd, dim ond tua 1 o bob 10 o blant â chyflwr sy’n byrhau bywyd yng Nghymru y mae Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn eu cyrraedd.

Rwy’n cefnogi eu galwad am gyllid cynaliadwy gan #LlywodraethCymru

Helpwch Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith #CyrraeddPobPlentyn www.tyhafan.org/reacheverychild
#WythnosHosbisPlant

Hoffi, gwneud sylw a rhannu

Gallwch hoffi, gwneud sylw, a rhannu ein cynnwys #CyrraeddPobPlentyn ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i ledaenu’r ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth, a gallwch dagio eich AS i wneud yn siŵr ei fod yn gweld eich cefnogaeth a’ch cyfranogiad.

Cysylltu â’ch Aelod o’r Senedd (AS)

Anfonwch e-bost neu ysgrifennwch at eich AS a gofynnwch iddo gefnogi ein galwad am cyllid cynaliadwy ar gyfer Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, dwy hosbis plant Cymru.

 Gallwch wneud hyn yn gyflym ac yn rhwydd yma: www.writetothem.com

Os nad ydych yn siŵr beth i’w ddweud gallech ddefnyddio’r testun syml hwn fel templed:

 

Annwyl [ENW’R AS]

Yn 2023, lansiodd dwy hosbis plant Cymru, Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan adroddiad a oedd yn dangos bod 3655 o blant yng Nghymru â chyflwr sy’n byrhau bywyd. Nifer sydd wedi bod yn cynyddu am flynyddoedd, ac mae’n parhau i gynyddu. 

Ac eto, wrth i’r niferoedd hyn gynyddu, mae’r cyllid sydd ar gael i hosbisau plant yn gostwng.

Yn 2021/2022, gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid cyllido newydd i ddarparu 21% o gostau gofal y ddwy hosbis. Yn anffodus, mewn termau real mae’r cyllid wedi gostwng i ychydig dan 12% o gostau gofal yr hosbisau. Ac felly nid yw’r addewid yn cael ei gyflawni mwyach. 

Gall Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan ddarparu cymorth, gwasanaethau a hapusrwydd i fwy na 3655 o deuluoedd sy’n ofnus, yn ynysig ac wedi’u llethu gan wynebu pob dydd yn pryderu y gallai fod yr un olaf i’w plentyn.

Yn ystod Wythnos Hosbis Plant, mae Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gefnogaeth, y cymorth a’r cyllid er mwyn gallu bod yno ar gyfer pob plentyn a theulu sy’n troi atynt. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni’r addewid o gyllid cynaliadwy a dyfodol diogel i gefnogi’r cohort hwn sy’n tyfu o bobl ifanc agored i niwed 

Rwy’n ysgrifennu atoch i ofyn i chi ychwanegu eich llais at un Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan i’w cefnogi yn eu hamcanion o gyrraedd a helpu mwy o blant sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd ledled Cymru.

Yn ystod Wythnos Hosbis Plant, bydd Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn dod â 3655 o ieir bach yr haf i risiau’r Senedd. Bydd 10% mewn lliw llachar llawn, i gynrychioli’r plant sydd eisoes yn cael cymorth, a 3,251 mewn llwyd i gynrychioli’r plant nad ydynt yn eu cyrraedd hyd yn hyn.

Rwy’n gofyn i chi fynd i weld yr ieir bach yr haf ddydd Mawrth 18 Mehefin rhwng 10.30am a 12.30pm a siarad gyda Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith a rhoi cyfle iddynt barhau i fod yno drwy fywyd, marwolaeth a thu hwnt. Cyfle i gyrraedd rhai o’r 3251 o ieir bach yr haf eraill.

Oherwydd dylai bywyd pob plentyn, waeth pa mor fyr, fod yn fywyd da.

Diolch o flaen llaw am eich help. Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.

Yr hyn yr ydym ni’n ei wneud

Yn 2023, lansiodd dwy hosbis plant Cymru, Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan, adroddiad a oedd yn dangos bod 3,655 o blant yng Nghymru â chyflwr sy’n byrhau eu bywyd.

Ond rhyngom ni dim ond tua 1 o bob 10 ohonyn nhw y gallwn ni eu cyrraedd ar hyn o bryd, sy’n cyfateb i ychydig dros 400 o blant.

Er mwyn dangos maint yr her rydym yn ei hwynebu, rydym wedi creu un iâr fach yr haf enfawr, sy’n cynnwys 3,655 o ieir bach yr haf llai – un ar gyfer pob plentyn. Mae 10% mewn lliw llachar llawn, i gynrychioli’r plant sydd eisoes yn cael cymorth, a 3,251 mewn llwyd i gynrychioli’r plant nad ydym wedi eu cyrraedd hyd yn hyn.

Pam iâr fach yr haf? Oherwydd bod ieir bach yr haf yn symbol o’r mudiad hosbis plant ledled y DU.

Ddydd Mawrth 18 Mehefin byddwn yn dod â’n iâr fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn i risiau’r Senedd rhwng 10.30am a 12.030pm i godi ymwybyddiaeth o’r her rydym yn ei hwynebu.

Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr hynny o nifer o gwmnïau sydd wedi gweithio’n galed i helpu ein tîm i’w creu.